Dolmetsch, Arnold (1858-1940) a Dolmetsch, Mabel (1874-1963)
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Arbenigwyr ar gerddoriaeth gynnar. Ganed Arnold Dolmetsch yn Le Mans, Ffrainc, i deulu cerddorol, ac astudiodd waith coed a saernïo’r piano gyda’i dad ac adeiladu organau gyda’i daid. Yn y Conservatoire Royal de Bruxelles, astudiodd y ffidil o dan Henri Vieuxtemps (1820–81) a gwrthbwynt gyda Ferdinand Kufferath (1818–96). Yno, am y tro cyntaf, y daeth ar draws cerddorion yn canu offerynnau cynnar.
Yn 1883 symudodd i Lundain gyda’i wraig Marie a’i ferch Hélène, a chofrestru yn y Coleg Cerdd Brenhinol lle bu’n dilyn ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth gynnar. Fe’i penodwyd yn athro ffidil rhan-amser yng Ngholeg Dulwich. Yn 1889 fe’i hysgogwyd gan ddarganfyddiad annisgwyl yn yr Amgueddfa Brydeinig o gerddoriaeth Seisnig gynnar ar gyfer y feiol i astudio’r offerynnau hynny a’u cerddoriaeth. Rhoddodd berfformiadau gyda Hélène (viola da gamba), a’i ail wraig a’i gyn-chwaer yng nghyfraith, Elodie (harpsicord) – weithiau ar y cyd â’r Elizabethan Stage Society. Pan nad oedd yr offerynnau gwreiddiol mewn cyflwr i’w defnyddio, dechreuodd lunio copïau ohonynt, yn fwyaf enwog, pibgyrn.
Bu’n cydweithio â Chickering and Sons, Boston, Massachusetts (1905–11) i gynhyrchu claficordiau, ac yna’n gweithio yn ffatri bianos Gaveau ym Mharis (1911–14). Dychwelodd i Loegr ac ymgartrefu yn Jesses, Haselmere, Surrey, lle ysgrifennodd The Interpretation of the Music of the Sixteenth and Seventeenth Centuries (1915) a ddaeth yn gyfrol gydnabyddedig ar y pwnc. Yn 1925, sefydlodd ŵyl gerddoriaeth gynnar flynyddol yn y pentref. Sefydlodd y Dolmetsch Foundation yn 1928 a’r cylchgrawn The Consort yn 1929. Ymhlith ei liaws o fyfyrwyr (ym myd llunio offerynnau, perfformio, neu astudiaethau cerddoriaeth gynnar) yr oedd Mabel Johnston (a briododd yn 1903) a Dr Llewelyn Wyn Griffith (1890–1977), a anogodd Dolmetsch i astudio llawysgrif Robert ap Huw yn nechrau’r 1930au.
Er nad ef oedd y cyntaf (na’r olaf) i gynnig dehongliad o dabl nodiant ap Huw, roedd Dolmetsch yn grediniol fod ei ddehongliad ef, a gwblhawyd erbyn dechrau Ionawr 1935, yn rhagori – gwrthodai gasgliadau John Thomas (Pencerdd Gwalia), Barthélémon, Burney a Margaret Glyn. Yn ddiweddarach y mis hwnnw (gyda Mabel Dolmetsch yn perfformio naw enghraifft ar delyn fechan) anerchodd Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain, yna daeth i Gaerdydd ac, ar 16 Mawrth, i Fangor i roi darlith i’r Gymdeithas Caredigion Cerdd o dan nawdd y Bangor Musical Club (gan ganu’r crwth o bryd i’w gilydd), gyda Mabel Dolmetsch yn canu rhannau o’r llawysgrif ar delynau a luniwyd gan ei gŵr. Cychwynnai’r rhaglen â ‘Gosteg yr Halen’ a ‘Gosteg Dafydd Athraw’.
Yn y cyfarfod hwn yr anogodd Dolmetsch sefydlu cymdeithas neu fudiad i astudio’r llawysgrif a’i hofferynnau, gan gynnwys recordio perfformiadau gramoffon o’r gerddoriaeth ganddo ef ei hun a’i gydweithwyr. Arweiniodd hyn at sefydlu’r Early Welsh Music Society yn 1936, ac at gyhoeddi dan nawdd y gymdeithas honno rannau o ddehongliad Dolmetsch gyda Mabel Dolmetsch yn chwarae’r delyn ‘farddol’. Yr enghreifftiau oedd ‘Caniad Llywelyn ap Ifan ap y Gof’, ‘Caniad Marwnad Ifan ap y Gof’, ‘Profiad yr Eos’ a nodau cyntaf ‘Caniad Bach ar y Go Gywair’.
David R. Jones
Llyfryddiaeth
- Robert Donnington, The Work and Ideas of Arnold Dolmetsch: The Renaissance of Early Music (Haslemere, 1932)
- Margaret Campbell, Dolmetsch: the man and his work (Washington, 1975)
- Wyn Thomas, ‘The Early Welsh Music Society’, Barn, 338 (Mawrth, 1991), 32–37
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.