Embargo

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Embargo

Cytundeb rhwng newyddiadurwyr a ffynonellau i ohirio cyhoeddi stori newyddion tan ddyddiad ac amser penodedig. Caiff datganiadau i’r wasg eu rhyddhau ymlaen llaw, e.e. copi o araith, neu restr o bobl sy’n derbyn gwobrau, ond rhoddir embargo clir arnynt.

Mae deunydd dan embargo yn ddefnyddiol i newyddiadurwyr a ffynonellau oherwydd maen nhw’n rhoi mwy o amser i’r newyddiadurwr gasglu rhagor o wybodaeth a deunydd mewn da bryd ar gyfer y dyddiad ac amser darlledu, er enghraifft. Mae’r ffynhonnell hefyd yn elwa drwy wneud y mwyaf o gylchrediad ac effaith stori. Mae embargo, serch hynny, yn fodd i reoli newyddion a’r ymdriniaeth a wneir ohono oherwydd gall ffynonellau ddewis pa bryd i ryddhau stori at eu dibenion nhw.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.