Eryr Wen

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:24, 6 Mawrth 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Yn ystod yr 1980au cynnar daeth genre roc trwm yn fwyfwy poblogaidd yn y sîn yng Nghymru gyda grwpiau fel Brân a Shwn ar ddiwedd yr 1970au yn braenaru’r tir ar gyfer bandiau megis Crys, Rhiannon Tomos a’r Band, Hywel Ffiaidd a’r Diawled ar ddechrau’r 1980au. Fe wnaeth hyd yn oed Delwyn Siôn, a fu’n aelod o’r grŵp roc-gwladaidd Hergest yn ystod yr 1970au, ffurfio’r grŵp roc caled Omega, gan ryddhau’r sengl boblogaidd ‘Nansi’ a record hir eponymaidd ar label Sain yn 1983 cyn dod i ben. (Roedd aelodau’r band yn cynnwys y talentog Len Jones ar y gitâr flaen, Graham Land ar y drymiau a Gorwel Owen ar yr allweddellau.)

O bosib mewn ymateb i agwedd ac arddull y bandiau hyn, datblygodd genre o ganu pop ysgafnach a mwy melodig ei naws a ddangosai ddylanwad y don newydd (new wave) yn Lloegr. Roedd Ail Symudiad a’r grŵp ska y Ficar yn ganolog i’r adfywiad yma ynghyd â Chwarter i Un, Angylion Stanli, Rocyn a Doctor.

Perthynai Eryr Wen i’r symudiad yma. Ffurfiodd y band yn 1980. Roedd yr aelodaeth yn eithaf hyblyg (gyda rhai yn gyn-ddisgyblion o Ysgol Ramadeg Caerfyrddin), ond yn cynnwys ar wahanol adegau: Andrew ‘Pwmps’ Davies (drymiau), Paul ‘Tubbs’ Davies (drymiau), Geraint Evans (gitâr a llais), Ioan ‘Iogi’ Hefin (trwmped), Euros Jones (llais), Llion Jones (gitâr), Dewi Rhisiart (gitâr fas), Aled Siôn (gitâr fas, llais) a Nigel Williams (llais). Bu Wyn Jones o Ail Symudiad hefyd yn chwarae’r gitâr fas ar sawl achlysur.

Rhyddhaodd y grŵp gyfres o senglau ar eu label eu hunain (Calimero) cyn recordio albwm ar label Sain yn 1987. Erbyn hynny roedd y band wedi cael llwyddiant yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1987 gyda’r gân ‘Gloria Tyrd Adre’, a fu hefyd yn fuddugol yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon. Fel yn achos nifer o ganeuon y grŵp, megis ‘Dyffryn Tywi’ a ‘Siop Ddillad Bala’, rhoddai ‘Gloria Tyrd Adre’ sylw i’r elfen felodig uwchben patrymau cordiol bachog, gyda’r ddeialog gerddorol yn cael ei rhannu rhwng y llais a thrwmped Ioan Hefin.

Disgrifiodd Hefin Wyn sain y band fel un ‘lân, hafaidd, ffwrdd-â-hi … gyda phinsied helaeth o hiwmor’ (Wyn 2006. 58), ond roedd dimensiwn gwleidyddol, mwy difrifol hefyd yn perthyn i rai caneuon, megis ‘Llais Cilmeri’ a ‘Heno Heno’, gyda Llion Jones yn cyfrannu’r geiriau ar gyfer nifer ohonynt. Ailffurfiodd y grŵp am un noson yn Hydref 2016 i berfformio yn Neuadd Bronwydd, Caerfyrddin er mwyn codi arian ar gyfer elusen y diweddar Andrew Davies, drymiwr y band.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

‘Efo Mi’ [ar EP yn cynnwys caneuon gan Y Ficar, Malcolm Neon, Diawled] (Fflach 004, 1982)
‘Dyffryn Tywi’ [sengl] (Fflach AS008, 1982)
‘Siop Dillad Bala’ [sengl] (Recordiau Calimero RC001, 1983)
‘Hwre’ [sengl] (Recordiau Calimero RC002, 1984)
‘Cenhedlaeth Goll’ [sengl] (Recordiau Calimero RC003,

1985)

Manamanamwnci (Sain 1401M, 1987)
‘Cydio’n Dynn’, Cân i Gymru ’90 (Sain C434A, 1990)

Llyfryddiaeth

Hefin Wyn, Ble Wyt Ti Rhwng? (Talybont, 2006)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.