Estroneiddio

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:02, 26 Medi 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Dull cyfieithu yw estroneiddio, neu estronoli, lle y mae’r cyfieithydd yn rhoi pwyslais ar natur estron y testun a gyfieithir. Mae’r cyfieithydd yn parchu bwriad yr awdur gwreiddiol gan adael y testun yng nghyd-destun yr iaith ffynhonnell. Er enghraifft, wrth gyfieithu nofel Ffrangeg i'r Gymraeg, y mae'r cyfieithiad yn aros yn Ffrengig o ran ei naws a’i gyd-destun. Ni wneir ymdrech i drosi cyfeiriadau diwylliannol ac elfennau ieithyddol megis idiomau er lles y gynulleidfa. Wrth estroneiddio blaenoriaethir gofynion yr awdur gwreiddiol yn hytrach na gofynion y gynulleidfa darged. Bathwyd y term gan Lawrence Venuti ym 1995 er bod y cysyniad yn bodoli ers canrifoedd, a chysylltir y theori yn bennaf â’r athronydd, Friederich Schleiermacher. Dadleua Schleiermacher y dylai cyfieithiad ddatgan yn glir mai cyfieithiad ydyw yn hytrach nag esgus mai testun hollol newydd ydyw. At hynny, dylai cyfieithiad bwysleisio'r gwahaniaeth sydd rhwng yr ieithoedd yn ogystal â'r bwlch anochel sydd rhwng y cyfieithiad a'r gwreiddiol. Domestigeiddio yw'r dull cyfieithu cyferbyniol.

Rhianedd Jewell

Llyfryddiaeth

Schleiermacher, F. (1963), ‘Über die verschiedenen Methoden des Übersetzens’ yn Störig, H. J. (gol.), Das Problem des Übersetzens (Darmstadt: Wissenschaftliche Buchgesellschaft), tt. 38-70.

Venuti, L. (2008), The Translator's Invisibility: A History of Translation, ail argraffiad (London and New York: Routledge).