Ffatrïoedd parod

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Adeiladau diwydiannol yw'r rhain, a adeiladir cyn bod galw penodol yn bodoli a thenant penodol wedi ei bennu. Defnyddir y broses gyda’r bwriad o annog meddiannydd i ymrwymo i brydles, neu brynwr i brynu, ac er mwyn hybu datblygiad economaidd lleol mewn ardaloedd difreintiedig neu sydd wedi dioddef tranc diwydiant traddodiadol.

Roedd y broses yn arbennig o boblogaidd a llwyddiannus yng Nghymru wedi sefydlu Awdurdod Datblygu Cymru [Welsh Development Agency neu’r WDA] ym 1975.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“The Rational Factory: Architecture, Technology and Work in America's Age of Mass Production”, Lindy Biggs, Johns Hopkins Press, 1996.

“The Glossary of Property Terms”, Estates Gazette, argraffiad 1993, tudalen 5



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.