Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gibbard, Gwenan (g.1978)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddori...')
 
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Un o artistiaid [[cerddoriaeth werin]] amlycaf Cymru ac un o’r ychydig berfformwyr sy’n arbenigo yn yr hen grefft o ganu cerdd dant hunan-gyfeiliant. Yn enedigol o Bwllheli, graddiodd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gan gwblhau gradd Meistr yno mewn [[perfformio]] ac ymchwil ym maes cerddoriaeth Cymru. Aeth ymlaen wedyn i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Bu’n enillydd ym mhrif gystadlaethau [[telyn]] a chanu’r [[Eisteddfod]] Genedlaethol, yr Ŵyl [[Cerdd Dant]] a’r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
+
Un o artistiaid [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | cerddoriaeth werin]] amlycaf Cymru ac un o’r ychydig berfformwyr sy’n arbenigo yn yr hen grefft o ganu cerdd dant hunan-gyfeiliant. Yn enedigol o Bwllheli, graddiodd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gan gwblhau gradd Meistr yno mewn perfformio ac ymchwil ym maes cerddoriaeth Cymru. Aeth ymlaen wedyn i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Bu’n enillydd ym mhrif gystadlaethau [[telyn]] a chanu’r [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol, yr Ŵyl [[Cerdd Dant]] a’r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
  
Roedd ei halbwm cyntaf ''Y Gwenith Gwynnaf'' (Sain, 2006) yn arddangos agwedd ffres a dyfeisgar, gan gynnwys trefniannau o ganeuon ac [[alawon gwerin]] Cymraeg ar y delyn Geltaidd, gyda chyfraniadau gan [[Maartin Allcock]] ar gitâr, bas a bouzar, Huw Roberts a [[Stephen Rees]] ar y [[ffidil]], [[Dafydd]] Roberts ar y ffliwt a chwistl a Deian Elfryn ar offer taro, gydag Allcock hefyd yn cynhyrchu. Clywid amrediad eang o’r traddodiad gwerin ar y recordiad, o alawon [[dawns]] a chyfansoddiadau gan delynorion Cymreig yr 18g. a’r 19g. i [[ganu penillion]].
+
Roedd ei halbwm cyntaf ''Y Gwenith Gwynnaf'' (Sain, 2006) yn arddangos agwedd ffres a dyfeisgar, gan gynnwys trefniannau o ganeuon ac [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon gwerin]] Cymraeg ar y delyn Geltaidd, gyda chyfraniadau gan [[Allcock, Maartin (g.1957) | Maartin Allcock]] ar gitâr, bas a bouzar, Huw Roberts a [[Rees, Stephen (g.1963) | Stephen Rees]] ar y [[ffidil]], Dafydd Roberts ar y ffliwt a chwistl a Deian Elfryn ar offer taro, gydag Allcock hefyd yn cynhyrchu. Clywid amrediad eang o’r traddodiad gwerin ar y recordiad, o alawon [[Gwerin, Arferion Dawnsio | dawns]] a chyfansoddiadau gan delynorion Cymreig yr 18g. a’r 19g. i [[Canu Penillion (gwreiddiau) | ganu penillion]].
  
Cadarnhaodd ''Sidan Glas'' (Sain, 2009) ei thalentau fel telynores, cantores, cyfansoddwraig a’i dawn wrth drefnu caneuon. Bu’n perfformio’n helaeth mewn [[gwyliau]] yng Nghymru a thu hwnt, gan gyflwyno ei threfniannau ffres a chyfoes o ganeuon ac alawon traddodiadol. Ynghyd â phersonél ''Y Gwenith Gwynnaf'' – Allcock, Rees a Roberts – cafwyd cyfraniadau hefyd gan Angharad Jenkins ([[ffidil]]) o’r grŵp [[Calan]], yr offerynnwr taro medrus Dewi Ellis Jones a’r cerddor Asiaidd amryddawn Kuljit Bhamra ar y tabla.
+
Cadarnhaodd ''Sidan Glas'' (Sain, 2009) ei thalentau fel telynores, cantores, cyfansoddwraig a’i dawn wrth drefnu caneuon. Bu’n perfformio’n helaeth mewn [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau]] yng Nghymru a thu hwnt, gan gyflwyno ei threfniannau ffres a chyfoes o ganeuon ac alawon traddodiadol. Ynghyd â phersonél ''Y Gwenith Gwynnaf'' – Allcock, Rees a Roberts – cafwyd cyfraniadau hefyd gan Angharad Jenkins (ffidil) o’r grŵp [[Calan]], yr offerynnwr taro medrus Dewi Ellis Jones a’r cerddor Asiaidd amryddawn Kuljit Bhamra ar y tabla.
  
Roedd ei thrydedd albwm, ''Cerdd Dannau'' (Sain, 2013) yn gasgliad blaengar gan dorri tir newydd ym maes cerdd dant. Fe’i clywid hefyd yn canu gyda’r gantores bop [[Meinir Gwilym]] yn ‘Rowndio’r Horn’. Bu’n cynrychioli Cymru mewn gwyliau megis [[Gŵyl]] Ryng-Geltaidd Lorient yn Llydaw, Cyngres Telynau’r Byd yn Nulyn, Gŵyl Gymreig Gogledd America, Celtic Colours (Nova Scotia, Canada) a Gŵyl Delynau Ryngwladol Caeredin a Celtic Connections (Glasgow).
+
Roedd ei thrydedd albwm, ''Cerdd Dannau'' (Sain, 2013) yn gasgliad blaengar gan dorri tir newydd ym maes cerdd dant. Fe’i clywid hefyd yn canu gyda’r gantores bop [[Gwilym, Meinir (g.1983) | Meinir Gwilym]] yn ‘Rowndio’r Horn’. Bu’n cynrychioli Cymru mewn gwyliau megis [[Gwyliau Cerddoriaeth | Gŵyl]] Ryng-Geltaidd Lorient yn Llydaw, Cyngres Telynau’r Byd yn Nulyn, Gŵyl Gymreig Gogledd America, Celtic Colours (Nova Scotia, Canada) a Gŵyl Delynau Ryngwladol Caeredin a Celtic Connections (Glasgow).
  
 
Roedd Gwenan yn un o brif artistiaid cyngerdd agoriadol WOMEX yng Nghaerdydd yn 2013 a bu hefyd yn perfformio yn Efrog Newydd fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Bu’n perfformio yn Hong Kong a draw yn y Wladfa, Patagonia – profiad a fu’n ysbrydoliaeth ar gyfer ''Y Gorwel Porffor'' (Sain 2015), casgliad o chwech o ganeuon a cherdd dant am Y Wladfa, am Gymru ac am fywyd.
 
Roedd Gwenan yn un o brif artistiaid cyngerdd agoriadol WOMEX yng Nghaerdydd yn 2013 a bu hefyd yn perfformio yn Efrog Newydd fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Bu’n perfformio yn Hong Kong a draw yn y Wladfa, Patagonia – profiad a fu’n ysbrydoliaeth ar gyfer ''Y Gorwel Porffor'' (Sain 2015), casgliad o chwech o ganeuon a cherdd dant am Y Wladfa, am Gymru ac am fywyd.
Llinell 15: Llinell 16:
 
==Disgyddiaeth==
 
==Disgyddiaeth==
  
:''Y Gwenith Gwynnaf'' (Sain SCD2504, 2006)
+
*''Y Gwenith Gwynnaf'' (Sain SCD2504, 2006)
  
:''Sidan Glas'' (Sain SCD2581, 2009)  
+
*''Sidan Glas'' (Sain SCD2581, 2009)  
  
:''Cerdd Dannau'' (Sain SCD2702, 2013)  
+
*''Cerdd Dannau'' (Sain SCD2702, 2013)  
  
:''Y Gorwel Porffor'' (Sain SCD2737, 2015)
+
*''Y Gorwel Porffor'' (Sain SCD2737, 2015)
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 15:29, 8 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o artistiaid cerddoriaeth werin amlycaf Cymru ac un o’r ychydig berfformwyr sy’n arbenigo yn yr hen grefft o ganu cerdd dant hunan-gyfeiliant. Yn enedigol o Bwllheli, graddiodd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gan gwblhau gradd Meistr yno mewn perfformio ac ymchwil ym maes cerddoriaeth Cymru. Aeth ymlaen wedyn i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Bu’n enillydd ym mhrif gystadlaethau telyn a chanu’r Eisteddfod Genedlaethol, yr Ŵyl Cerdd Dant a’r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.

Roedd ei halbwm cyntaf Y Gwenith Gwynnaf (Sain, 2006) yn arddangos agwedd ffres a dyfeisgar, gan gynnwys trefniannau o ganeuon ac alawon gwerin Cymraeg ar y delyn Geltaidd, gyda chyfraniadau gan Maartin Allcock ar gitâr, bas a bouzar, Huw Roberts a Stephen Rees ar y ffidil, Dafydd Roberts ar y ffliwt a chwistl a Deian Elfryn ar offer taro, gydag Allcock hefyd yn cynhyrchu. Clywid amrediad eang o’r traddodiad gwerin ar y recordiad, o alawon dawns a chyfansoddiadau gan delynorion Cymreig yr 18g. a’r 19g. i ganu penillion.

Cadarnhaodd Sidan Glas (Sain, 2009) ei thalentau fel telynores, cantores, cyfansoddwraig a’i dawn wrth drefnu caneuon. Bu’n perfformio’n helaeth mewn gwyliau yng Nghymru a thu hwnt, gan gyflwyno ei threfniannau ffres a chyfoes o ganeuon ac alawon traddodiadol. Ynghyd â phersonél Y Gwenith Gwynnaf – Allcock, Rees a Roberts – cafwyd cyfraniadau hefyd gan Angharad Jenkins (ffidil) o’r grŵp Calan, yr offerynnwr taro medrus Dewi Ellis Jones a’r cerddor Asiaidd amryddawn Kuljit Bhamra ar y tabla.

Roedd ei thrydedd albwm, Cerdd Dannau (Sain, 2013) yn gasgliad blaengar gan dorri tir newydd ym maes cerdd dant. Fe’i clywid hefyd yn canu gyda’r gantores bop Meinir Gwilym yn ‘Rowndio’r Horn’. Bu’n cynrychioli Cymru mewn gwyliau megis Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient yn Llydaw, Cyngres Telynau’r Byd yn Nulyn, Gŵyl Gymreig Gogledd America, Celtic Colours (Nova Scotia, Canada) a Gŵyl Delynau Ryngwladol Caeredin a Celtic Connections (Glasgow).

Roedd Gwenan yn un o brif artistiaid cyngerdd agoriadol WOMEX yng Nghaerdydd yn 2013 a bu hefyd yn perfformio yn Efrog Newydd fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Bu’n perfformio yn Hong Kong a draw yn y Wladfa, Patagonia – profiad a fu’n ysbrydoliaeth ar gyfer Y Gorwel Porffor (Sain 2015), casgliad o chwech o ganeuon a cherdd dant am Y Wladfa, am Gymru ac am fywyd.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Y Gwenith Gwynnaf (Sain SCD2504, 2006)
  • Sidan Glas (Sain SCD2581, 2009)
  • Cerdd Dannau (Sain SCD2702, 2013)
  • Y Gorwel Porffor (Sain SCD2737, 2015)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.