Gwaith Hwylustod

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Pan fo tir ac eiddo neu ran o dir ac eiddo wedi ei feddiannu gan awdurdod [fel arfer cynghorau, cyrff statudol neu lywodraeth] dan reolau gorchmynion prynu gorfodol, yn aml bydd angen i’r corff sydd yn prynu wneud gwaith er mwyn amddiffyn neu arbed difrod i weddill tir y deiliad. Pwrpas hyn yw lliniaru colled neu ddifrod i dir ac eiddo a fydd yn aros ym mherchnogaeth y deiliad gwreiddiol ac sy’n deillio o’r pryniant gorfodol.

Gall enghreifftiau cyffredin gynnwys codi waliau neu ffensys neu fel arall ailgyfeirio pibellau draen a gwasanaethau eraill.

Gall y term hefyd gyfeirio at waith a gwblheir gan y perchennog ei hunan, i dir ac eiddo a fydd yn aros dan ei berchnogaeth, lle mae’r awdurdod prynu perthnasol yn talu am y gwaith.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“Compulsory Purchase and Compensation”, Barry Denyer-Green, Estates Gazette Books, wythfed argraffiad, tudalennau 377 a 385



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.