Gwarant

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ymgymeriad datganedig neu ymhlyg [express or implied undertaking] fod gosodiad yn gymwys a ble mae’r ymgymerwr yn gyfreithiol gyfrifol os yw’r ffeithiau/gwirionedd yn wahanol i’r hyn a ymgymerwyd.

Cyfyd ran amlaf yn y byd tir ac eiddo pan fo contractwr yn datgan i’r adeilad gael ei adeiladu a’i gwblhau yn unol â chynlluniau a gymeradwywyd gan y cleient.

Dylid gwahaniaethu rhwng gwarant ag amod mewn cytundeb ble mae baich prawf a sancsiynau tra gwahanol.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“Construction Law”, John Uff, degfed argraffiad, tudalennau 301-303



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.