Gwerthfawrogi

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mewn sawl cylch ar fywyd byddwn yn gwerthfawrogi, yn mynegi ein gwerthfawrogiad o gymwynas neu gyfraniad yn ddiolchgar. Ym maes beirniadaeth lenyddol fe'i defnyddid yn helaeth yn yr 20g. wrth gyfeirio at y gwaith o drafod y testun. Gofynnid i ddisgyblion a myfyrwyr lunio gwerthfawrogiad o gerdd,er enghraifft. Mae defnyddio’r term felly yn cyfleu agwedd gadarnhaol at y testun, yn awgrymu ein bod yn disgwyl canfod pethau gwerthfawr ynddo ac mai gwaith y darllenydd neu’r beirniad yw dod â’r pethau gwerthfawr hyn i’r golwg trwy ddefnyddio arfau beirniadol yn bwrpasol. Pan gyhoeddodd H. J. Hughes lawlyfr ar gyfer astudio llenyddiaeth yn 1959 rhoes iddo’r teitl Gwerthfawrogi Llenyddiaeth.

Yn raddol disodlwyd ‘gwerthfawrogi’ i fesur gan eirfa fwy niwtral a gwrthrychol. (Ond mae ‘Gwerthfawrogi Llenyddiaeth’ yn dal i fod yn elfen yn un o fanylebau cyfredol Cyd-bwyllgor Addysg Cymru yn 2018.) Dadansoddi 14 oedd enw’r gyfrol o ymdriniaethau â cherddi unigol a gyhoeddodd Gwyn Thomas yn 1984. Tuag at ddiwedd yr 20g. yng ngoleuni theori arbennig dechreuwyd defnyddio’r berfenw ‘dadadeiladu’, a soniwyd am ddarllen testun yn groes i’r graen gan awgrymu agwedd fwy drwgdybus at y testun a’i awdur. Nid digon oedd nodi pa ddyfeisiau rhethregol a ddefnyddir gan yr awdur a pha effeithiau a greir ganddynt; rhaid bod yn effro i’r modd y’u defnyddir i rwydo’r darllenydd neu i gadarnhau gafael ideolegau penodol. Caed enghreifftiau o’r pwysleisiadau beirniadol hyn ar waith gan John Rowlands mewn cyfrol a gyhoeddwyd dan nawdd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru yn 1989. Yn y ganrif hon ceir arwyddion o adwaith yn erbyn beirniadaeth sy’n sylfaenol ddrwgdybus o’r testun; mae gwaith Rita Felski yn arwyddocaol yn hyn o beth.

Robert Rhys

Llyfryddiaeth

Felski, R., (2015) The Limits of Critique (Chicago: University of Chicago Press).

Hughes, H. J., (1959) Gwerthfawrogi Llenyddiaeth (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Rowlands. J., (1989) Cnoi Cil ar Lenyddiaeth (Llandysul: Gwasg Gomer).

Thomas, G, (1984) Dadansoddi 14 (Llandysul: Gwasg Gomer).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.