Hawl dramwy
Hawl yw hon a roddir gan un perchennog i berson[au] i groesi dros ei dir ar lwybr sydd wedi ei ddynodi/ddiffinio. Gall ddigwydd fel ag a ganlyn:
a] Hawl ynghlwm â pherchnogaeth tir.
b] Drwy drwydded, sef trefniant personol rhwng dau barti.
c] Hawl gan aelodau o’r cyhoedd e.e. llwybr cyhoeddus.
Ym mhob achos fodd bynnag, gall fod cyfyngiadau ar yr hawl mewn nifer o wahanol ffyrdd:
i] Cyfyngiad ar yr amseroedd/dyddiau y gellir tramwyo e.e. ar ddydd Sul yn unig, rhwng 10 y bore a 5 y prynhawn.
ii] Y pwrpas e.e. caniatáu mynediad i garej dros ddreif cymydog.
iii] Y modd o dramwyo a ganiateir e.e. ar droed, ar gefn ceffyl neu mewn cerbyd
iv] Y modd o wirio pwy sy’n manteisio ar yr hawl ac yn ei ddefnyddio e.e. cerdyn adnabod
Owain Llywelyn
Llyfryddiaeth
“Property Development”, Sara Wilkinson a Richard Reed, Routledge, pumed argraffiad, tudalen 4
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.