Hawlrwym
Oddi ar WICI
Yn unol â chyfraith gyffredin, hawlrwym [lien] yw'r hawl i ddal gafael ar dir er mwyn sicrhau a gorfodi perfformiad cymal/neu amod, ac fel arall a wnelo ag ad-dalu dyled.
Mae gan werthwr tŷ'r hawl i ddal gafael ar ei berchnogaeth hyd nes y telir y pris a gytunwyd. Daw'r hawl i ben os bydd yn ildio ar berchnogaeth.
Owain Llywelyn
Llyfryddiaeth
The Law of Contract, G H Treitel, Thomson, Sweet and Maxwell, argraffiad 11, tudalennau 744-745
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.