Heb ragfarn

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ymadrodd a ddefnyddir i alluogi partïon i drafod cytundeb neu ddod i gytundeb ar fater o anghydfod. Gellid defnyddio’r ymadrodd ar lafar neu o fewn dogfen ac o ganlyniad, gwaherddir i unrhyw osodiad neu gyfaddefiad a wneir o fewn y drafodaeth neu’r ddogfen gael ei ddatgelu a’i gyflwyno fel tystiolaeth mewn unrhyw achos neu wrandawiad yn y mater dan sylw.

Wrth hawlio'r fraint o ‘heb ragfarn’ mae rhaid bod yn ofalus i osgoi gosodiadau/datganiadau sydd un ai’n gelwydd neu yn ddifenwol oherwydd gall y llys mewn amgylchiadau o’r fath ganiatáu iddynt gael eu defnyddio mewn tystiolaeth dan gais un o’r partïon.

Dylid nodi hefyd fod yr amddiffyniad ond yn berthnasol i’r achos dan sylw oni bai fod y partïon wedi cytuno ar gytundeb peidio â datgelu [Non disclosure agreement].

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

https://gowlingwlg.com/en/insights-resources/articles/2019/without-prejudice-meaning-and-when-to-use-it/

“The Glossary of Property Terms”, Estates Gazette, argraffiad 1993, tudalen 197



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.