Hogia'r Gogledd
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Grŵp canu ysgafn a ffurfiwyd yn yr 1940au. Yr aelodau gwreiddiol oedd Emrys Cleaver (gweinidog ac yna athro ysgol yn Nyffryn Clwyd), Meic Parri (gweinidog yng Nghapel Curig), Ifan O. Williams, W. H. Roberts (prifathro yn Sir Fôn), W. E. Thomas (tad yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas) a T. Gwynn Jones.
Canai Hogia’r Gogledd ganeuon ar bynciau cyfredol wedi’u gosod ar alawon cyfarwydd o’r Unol Daleithiau a Phrydain, gan droi hefyd ar brydiau at alawon Cymreig. Cawsant gynulleidfa gyson drwy gyfrwng rhaglenni radio a oedd yn cael eu darlledu o stiwdio’r BBC ym Mangor. Cynhyrchwyd y rhain gan Sam Jones a Nan Davies.
Sarah Hill
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.