James, Siân (g.1961)
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Un o gantorion gwerin amlycaf Cymru o’r 1980au ymlaen, ond cantores sydd hefyd wedi arbrofi llawer gydag arddull jazz a blues. Mae hi’n adnabyddus hefyd fel actores, athrawes, hyfforddwraig a chyfansoddwraig. Cafodd ei geni a’i magu yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn, ar aelwyd ddiwylliedig lle’r oedd cerddoriaeth a barddoniaeth yn cael lle amlwg, a’r ardal hefyd yn ferw o ddiwylliant. Dechreuodd ganu’r piano yn chwech oed, y ffidil yn wyth oed, a’r delyn yn un ar ddeg oed. Ei hathrawes delyn oedd Frances Môn Jones. Yn ei harddegau roedd Siân James eisoes yn cyfansoddi ac yn trefnu ei chaneuon ei hun ac yn dechrau ymddiddori yn y byd canu gwerin.
Aeth i Brifysgol Bangor yn 1980 i astudio cerddoriaeth o dan law William Mathias. Tra oedd yn y coleg bu’n rhan o’r grŵp gwerin-roc Bwchadanas, a fu’n boblogaidd ledled Cymru am tua deng mlynedd, gan ryddhau sengl ‘Eryr Eryri’ (Bwchadanas, 1983) a record hir Cariad Cywir (Sain, 1984). Yn ystod y cyfnod hwn y tyfodd ei diddordeb ym myd y theatr, a chymerodd ran flaenllaw yng nghynyrchiadau drama’r coleg.
Dechreuodd ei gyrfa recordio fel artist unigol yn 1990 gyda’r albwm eclectig Cysgodion Karma (Sain, 1990), gyda Les Morrison yn cynhyrchu. Parhaodd y berthynas hon gyda’r ail albwm Distaw (Sain, 1993), a sefydlwyd partneriaeth ysgrifennu lwyddiannus gyda’r awdur a’r bardd Angharad Jones. Dilynwyd Distaw gan yr albwm gwerin Gweini Tymor (Sain, 1996), gyda’r cerddor amryddawn Geraint Cynan yn cynhyrchu, sef detholiad o ganeuon gwerin y bu Siân James yn eu canu ers ei phlentyndod. Ymddangosodd rhai o’r caneuon yn y ffilm Tylluan Wen (Ffilmiau’r Nant, 1997), a sgriptiwyd gan Angharad Jones, gyda Siân yn chwarae’r brif ran, Martha/Eirlys. Cynhyrchydd yr albwm nesaf, Di-Gwsg (Sain, 1996) - albwm arbrofol yn cyfuno seiniau gwerin gyda rhythmau dawns electronaidd - oedd Ronnie Stone, gŵr a oedd wedi gweithio gydag artistiaid megis Anhrefn, Enya, Mansun a’r Lotus Eaters. Profai’r recordiau hyn ddawn gerddorol Siân James wrth symud rhwng genres cerddorol, ynghyd â’i hadnoddau lleisiol arbennig.
Yn 2001 sefydlodd stiwdio Recordiau Bos yn ei chartref gyda Gwyn Jones (drymiwr Maffia Mr Huws), ac ar label Bos y rhyddhawyd ei phedwar albwm nesaf, sef Pur, Y Ferch o Bedlam, Adar ac Anifeiliaid (casgliad o hwiangerddi a oedd yn gomisiwn gan y Mudiad Ysgolion Meithrin) a Cymun. Yn 1985 treuliodd flwyddyn yn gweithio yng Nghanolfan EPCOT, Disneyworld, Florida, ac yn ystod ei gyrfa bu’n teithio gyda’i chanu yn Japan, yr Unol Daleithiau, Canada, yr Almaen, yr Eidal, Llydaw, Ffrisia, Iwerddon, yr Alban a Lloegr.
Ymysg uchafbwyntiau ei gyrfa y mae taith yn 2000 i’r Unol Daleithiau gyda chyngherddau yn Chicago, Milwaukee, Dallas, Houston, San Fransisco, Denver ac Albuquerque, ei pherfformiad yn y cyngerdd mawreddog yn 2006 i ddathlu agor adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd (gyda Shirley Bassey a Tom Jones), perfformiadau i Womad yng Ngŵyl Reading a Theatr y Globe yn Llundain, a chanu ar gerddoriaeth y ffilm The Englishman who went up a hill and came down a mountain (Miramax, 1995) a recordiwyd yn Stiwdio Abbey Road.
Yn 2011 bu ar daith trwy’r Iseldiroedd gyda’r band Gwyddelig poblogaidd Dervish, ac yn 2014 bu’n gweithio ar brosiect gyda grŵp lleisiol o Niwbia, yr Aifft, o’r enw Nuba Nour. Perfformiodd gyda’r grŵp yng Nghymru ac yng Nghairo. Y flwyddyn ganlynol cafodd y gwaith o gydlynu’r cyngerdd gwerin ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod a chyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer cynhyrchiad Ysgol Theatr Maldwyn, Noson Lawen Nansi.
Y mae hefyd wedi cyfrannu i fyd y ddrama lwyfan a theledu. Yn yr 1990au cafodd rannau gyda Chwmni Theatr Gorllewin Morgannwg, cynyrchiadau amrywiol gyda Theatr Bara Caws, un o’r prif rannau yn y gyfres ddrama Pengelli a phrif ran yn y gyfres ddrama Iechyd Da. Cafodd gyfres o raglenni cerddorol ar S4C yn 1998 ac ar ddechrau’r 1980au bu’n cyflwyno’r rhaglen i bobl ifanc, Larwm.
Bu galw amdani gan fyd teledu fel cyfansoddwraig hefyd, fel y dengys y gyfres Birdman (BBC2, 2000), cyfres radio Y Clwy (2001), y ffilm Llythyrau Ellis Williams (2006, cyfarwyddwr cerdd), y rhaglen deledu Ysgol Pendalar (2007) a’r rhaglen ddogfen Ann Griffiths (2014). Yn 2013 roedd yn gyd-olygydd y gyfrol Tant, casgliad o 101 o alawon telyn Cymreig traddodiadol. Yn yr un cyfnod cafodd gomisiwn gan yr asiantaeth hyrwyddo traddodiadau gwerin trac, i gasglu hen ganeuon Sir Drefaldwyn, prosiect Canu yn y Cof.
Yn 2003 sefydlodd barti o fechgyn i gystadlu ar y Parti Cân Werin yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, sef Parti Cut Lloi a enwyd ar ôl ystafell arbennig yng ngwesty’r Cann Office, Llangadfan. Llwyddodd y parti i ennill yr wobr gyntaf a buont yn cynnal cyngherddau ar hyd a lled Cymru yn y blynyddoedd wedi hynny, gan ennill cryn boblogrwydd gyda’u nosweithiau hwyliog a gwerinol. Yn 2007 gwnaed Siân James yn Gymrodor er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor am ei gwasanaeth i ddiwylliant Cymru, ac yn 2011 cyhoeddodd ei hunangofiant fel rhan o Gyfres y Cewri (Gwasg Gwynedd).
Arfon Gwilym
Disgyddiaeth
[gyda Bwchadanas]
- ‘Eryr Eryri’ [sengl] (Bwchadanas BW1, 1983)
- Cariad Cywir (Sain 1306M, 1984)
[fel artist unigol]
- Cysgodion Karma (Sain SCD4037, 1990)
- Distaw (Sain SCD2025, 1993)
- Gweini Tymor (Sain SCD2145, 1996)
- Di-Gwsg (Sain SCD2153, 1996)
- Birdman/Aderyn Prin (BBC WMSF6007-2, 2000)
- Pur (Recordiau Bros RBOS001, 2001)
- Y Ferch o Bedlam (Recordiau Bros RBOS006, 2005)
- Adar ac Anifeiliaid (Recordiau Bros RBOS010, 2005)
- Cymun (Recordiau Bros RBOS022, 2012)
Llyfryddiaeth
- Siân James: Cyfres y Cewri: 34 (Caernarfon, 2011)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.