Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jones, Dora Herbert (1890-1974)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Ganed Dora Jarret Rowlands yn Llangollen, yr ieuengaf o bump o ferched a fagwyd ar aelwyd Gymraeg ac a ddilynodd gwrs gradd yn y Gymraeg yng Ngholeg [[Prifysgol]] Cymru, Aberystwyth. Yn 1916 priododd Herbert Jones o Langernyw. Canu oedd ei diddordeb pennaf a bu’n ymwneud â nifer o gymdeithasau cerddorol tra oedd yn y coleg. Er enghraifft, roedd hi’n aelod o bedwarawd a wahoddwyd i berfformio yn y Sorbonne ym Mharis yn 1913 a chanodd Dora [[ganeuon gwerin]] Cymreig yno yn ogystal. Dyma pryd y daeth i gyswllt â [[Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] am y tro cyntaf, gan ganu enghreifftiau cerddorol fel rhan o ddarlith a draddodwyd gan [[Mary Davies]], un o hoelion wyth y gymdeithas, yn Aberystwyth (Gibbard 2006, 123).
+
Ganed Dora Jarret Rowlands yn Llangollen, yr ieuengaf o bump o ferched a fagwyd ar aelwyd Gymraeg ac a ddilynodd gwrs gradd yn y Gymraeg yng Ngholeg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru, Aberystwyth. Yn 1916 priododd Herbert Jones o Langernyw. Canu oedd ei diddordeb pennaf a bu’n ymwneud â nifer o gymdeithasau cerddorol tra oedd yn y coleg. Er enghraifft, roedd hi’n aelod o bedwarawd a wahoddwyd i berfformio yn y Sorbonne ym Mharis yn 1913 a chanodd Dora [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | ganeuon gwerin]] Cymreig yno yn ogystal. Dyma pryd y daeth i gyswllt â [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru | Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] am y tro cyntaf, gan ganu enghreifftiau cerddorol fel rhan o ddarlith a draddodwyd gan [[Davies, Mary (1855-1930) | Mary Davies]], un o hoelion wyth y gymdeithas, yn Aberystwyth (Gibbard 2006, 123).
  
Gafaelodd diddordeb oes ynddi mewn canu traddodiadol o’r cyfnod hwnnw ymlaen, gan ennill ar gystadleuaeth [[canu gwerin]] yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Wrecsam yn 1912. Bu’n aelod blaenllaw o’r gymdeithas fel ysgrifenyddes, trysorydd a llywydd, sef swydd a ddaliodd hyd ei marwolaeth yn 1974 (Gibbard 2003, 13). Gwnaeth ei dawn fel unawdydd argraff ar Mary Davies a cheisiodd hithau annog y gantores ifanc i ddilyn gyrfa broffesiynol yn y maes, ond ystyriai Dora hyn yn ormod iddi (Gibbard 2003, 9). Yn 1913 wedi iddi raddio a dilyn cwrs ôl-radd aeth i Lundain yn ysgrifenyddes i Aelod Seneddol Sir y Fflint, Syr John Herbert Lewis. Tybir mai hi oedd y wraig gyntaf i gymryd swydd ysgrifenyddes yn Nhŷ’r Cyffredin.  
+
Gafaelodd diddordeb oes ynddi mewn canu traddodiadol o’r cyfnod hwnnw ymlaen, gan ennill ar gystadleuaeth [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | canu gwerin]] yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Wrecsam yn 1912. Bu’n aelod blaenllaw o’r gymdeithas fel ysgrifenyddes, trysorydd a llywydd, sef swydd a ddaliodd hyd ei marwolaeth yn 1974 (Gibbard 2003, 13). Gwnaeth ei dawn fel unawdydd argraff ar Mary Davies a cheisiodd hithau annog y gantores ifanc i ddilyn gyrfa broffesiynol yn y maes, ond ystyriai Dora hyn yn ormod iddi (Gibbard 2003, 9). Yn 1913 wedi iddi raddio a dilyn cwrs ôl-radd aeth i Lundain yn ysgrifenyddes i Aelod Seneddol Sir y Fflint, Syr John Herbert Lewis. Tybir mai hi oedd y wraig gyntaf i gymryd swydd ysgrifenyddes yn Nhŷ’r Cyffredin.  
  
Gwraig Herbert Lewis oedd y Fonesig [[Ruth Herbert Lewis]], aelod amlwg arall o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ac yn ystod ei chyfnod yno daeth Dora i adnabod [[Morfydd Llwyn Owen]], y gantores a’r gyfansoddwraig. Ymhen amser, rhannai’r ddwy lwyfan â’i gilydd wrth ganu [[alawon gwerin]] a byddai Dora yn cynorthwyo Ruth gyda’i gwaith casglu, sef un agwedd bwysig ar ei chyfraniad i gerddoriaeth draddodiadol Cymru.
+
Gwraig Herbert Lewis oedd y Fonesig [[Lewis, Ruth Herbert (1871-1946) | Ruth Herbert Lewis]], aelod amlwg arall o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ac yn ystod ei chyfnod yno daeth Dora i adnabod [[Morfydd Llwyn Owen]], y gantores a’r gyfansoddwraig. Ymhen amser, rhannai’r ddwy lwyfan â’i gilydd wrth ganu [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon gwerin]] a byddai Dora yn cynorthwyo Ruth gyda’i gwaith casglu, sef un agwedd bwysig ar ei chyfraniad i gerddoriaeth draddodiadol Cymru.
  
Bu dylanwad y ddwy yn amlwg arni ac fe’i taflodd ei hun i weithgarwch y gymdeithas o’r cyfnod hwnnw ymlaen. Daeth yn llais canu poblogaidd yn eu cyfarfodydd blynyddol rhwng 1912 ac 1934 ac fe’i gwahoddwyd i ddatgan yr enghreifftiau cerddorol adeg eu darlithoedd cyhoeddus. Diddanai Dora gynulleidfaoedd ledled Prydain mewn cyngherddau a chyfarfodydd. Bu’n beirniadu mewn eisteddfodau ac erbyn 1918 teithiai ledled Ewrop yn canu ac yn traethu ar hanes a chyd-destun alawon gwerin Cymru. Ei phrif neges oedd pwysigrwydd gosod yr alawon yn eu cyd-destun cyn eu canu. O ganlyniad, roedd Dora yn ‘gennad gloyw ac effeithiol’ (Gibbard 2003, 20) dros y gymdeithas a daeth yn un o’r cyntaf i ddarlledu am gerddoriaeth Cymru yn y Gymraeg ar y [[cyfryngau]] (Gibbard 2006, 129).
+
Bu dylanwad y ddwy yn amlwg arni ac fe’i taflodd ei hun i weithgarwch y gymdeithas o’r cyfnod hwnnw ymlaen. Daeth yn llais canu poblogaidd yn eu cyfarfodydd blynyddol rhwng 1912 ac 1934 ac fe’i gwahoddwyd i ddatgan yr enghreifftiau cerddorol adeg eu darlithoedd cyhoeddus. Diddanai Dora gynulleidfaoedd ledled Prydain mewn cyngherddau a chyfarfodydd. Bu’n beirniadu mewn eisteddfodau ac erbyn 1918 teithiai ledled Ewrop yn canu ac yn traethu ar hanes a chyd-destun alawon gwerin Cymru. Ei phrif neges oedd pwysigrwydd gosod yr alawon yn eu cyd-destun cyn eu canu. O ganlyniad, roedd Dora yn ‘gennad gloyw ac effeithiol’ (Gibbard 2003, 20) dros y gymdeithas a daeth yn un o’r cyntaf i ddarlledu am gerddoriaeth Cymru yn y Gymraeg ar y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]] (Gibbard 2006, 129).
  
Erbyn 1927, a hithau’n weddw gyda dau o blant, ymgartrefodd yng Ngregynog lle bu’n ysgrifenyddes bersonol i’r ddwy chwaer, Gwendoline a Margaret Davies. Er iddi ymgartrefu mewn sawl ardal arall cyn iddi ymddeol yn 1956, gan gynnwys Caerdydd ac Abertawe, dychwelyd i stad Gregynog a wnaeth Dora ac yno y bu weddill ei hoes. Aeth Gwendoline ar ofyn Gustav Holst a Ralph Vaughan Williams am drefniannau o alawon gwerin ar gyfer y côr a berfformiai adeg [[Gŵyl Gregynog]] (Gibbard 2003, 45–6), a dyma ddechrau cyfnod o gydweithio parod rhwng Dora a’r cyfansoddwyr hyn. Cawsant eu swyno gan ei chanu a rhoddodd hi gyd-destun a chefndir yr alawon i gynorthwyo Holst gyda’i drefniannau. O ganlyniad, llwyddodd i ddwyn sylw a bri i ganeuon gwerin Cymru ar lefel ryngwladol. Fe’i hadwaenid fel ‘Brenhines Powys’ (Gibbard 2003, 5; Gibbard 2006, 125) ac fel cantores a darlithydd hawliodd ei lle ymysg arbenigwyr pennaf Cymru ym maes yr alaw werin.
+
Erbyn 1927, a hithau’n weddw gyda dau o blant, ymgartrefodd yng Ngregynog lle bu’n ysgrifenyddes bersonol i’r ddwy chwaer, Gwendoline a Margaret Davies. Er iddi ymgartrefu mewn sawl ardal arall cyn iddi ymddeol yn 1956, gan gynnwys Caerdydd ac Abertawe, dychwelyd i stad Gregynog a wnaeth Dora ac yno y bu weddill ei hoes. Aeth Gwendoline ar ofyn Gustav Holst a Ralph Vaughan Williams am drefniannau o alawon gwerin ar gyfer y côr a berfformiai adeg [[Gregynog, Gŵyl | Gŵyl Gregynog]] (Gibbard 2003, 45–6), a dyma ddechrau cyfnod o gydweithio parod rhwng Dora a’r cyfansoddwyr hyn. Cawsant eu swyno gan ei chanu a rhoddodd hi gyd-destun a chefndir yr alawon i gynorthwyo Holst gyda’i drefniannau. O ganlyniad, llwyddodd i ddwyn sylw a bri i ganeuon gwerin Cymru ar lefel ryngwladol. Fe’i hadwaenid fel ‘Brenhines Powys’ (Gibbard 2003, 5; Gibbard 2006, 125) ac fel cantores a darlithydd hawliodd ei lle ymysg arbenigwyr pennaf Cymru ym maes yr alaw werin.
  
 
'''Leila Salisbury'''
 
'''Leila Salisbury'''

Diwygiad 21:01, 13 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Dora Jarret Rowlands yn Llangollen, yr ieuengaf o bump o ferched a fagwyd ar aelwyd Gymraeg ac a ddilynodd gwrs gradd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1916 priododd Herbert Jones o Langernyw. Canu oedd ei diddordeb pennaf a bu’n ymwneud â nifer o gymdeithasau cerddorol tra oedd yn y coleg. Er enghraifft, roedd hi’n aelod o bedwarawd a wahoddwyd i berfformio yn y Sorbonne ym Mharis yn 1913 a chanodd Dora ganeuon gwerin Cymreig yno yn ogystal. Dyma pryd y daeth i gyswllt â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru am y tro cyntaf, gan ganu enghreifftiau cerddorol fel rhan o ddarlith a draddodwyd gan Mary Davies, un o hoelion wyth y gymdeithas, yn Aberystwyth (Gibbard 2006, 123).

Gafaelodd diddordeb oes ynddi mewn canu traddodiadol o’r cyfnod hwnnw ymlaen, gan ennill ar gystadleuaeth canu gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1912. Bu’n aelod blaenllaw o’r gymdeithas fel ysgrifenyddes, trysorydd a llywydd, sef swydd a ddaliodd hyd ei marwolaeth yn 1974 (Gibbard 2003, 13). Gwnaeth ei dawn fel unawdydd argraff ar Mary Davies a cheisiodd hithau annog y gantores ifanc i ddilyn gyrfa broffesiynol yn y maes, ond ystyriai Dora hyn yn ormod iddi (Gibbard 2003, 9). Yn 1913 wedi iddi raddio a dilyn cwrs ôl-radd aeth i Lundain yn ysgrifenyddes i Aelod Seneddol Sir y Fflint, Syr John Herbert Lewis. Tybir mai hi oedd y wraig gyntaf i gymryd swydd ysgrifenyddes yn Nhŷ’r Cyffredin.

Gwraig Herbert Lewis oedd y Fonesig Ruth Herbert Lewis, aelod amlwg arall o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ac yn ystod ei chyfnod yno daeth Dora i adnabod Morfydd Llwyn Owen, y gantores a’r gyfansoddwraig. Ymhen amser, rhannai’r ddwy lwyfan â’i gilydd wrth ganu alawon gwerin a byddai Dora yn cynorthwyo Ruth gyda’i gwaith casglu, sef un agwedd bwysig ar ei chyfraniad i gerddoriaeth draddodiadol Cymru.

Bu dylanwad y ddwy yn amlwg arni ac fe’i taflodd ei hun i weithgarwch y gymdeithas o’r cyfnod hwnnw ymlaen. Daeth yn llais canu poblogaidd yn eu cyfarfodydd blynyddol rhwng 1912 ac 1934 ac fe’i gwahoddwyd i ddatgan yr enghreifftiau cerddorol adeg eu darlithoedd cyhoeddus. Diddanai Dora gynulleidfaoedd ledled Prydain mewn cyngherddau a chyfarfodydd. Bu’n beirniadu mewn eisteddfodau ac erbyn 1918 teithiai ledled Ewrop yn canu ac yn traethu ar hanes a chyd-destun alawon gwerin Cymru. Ei phrif neges oedd pwysigrwydd gosod yr alawon yn eu cyd-destun cyn eu canu. O ganlyniad, roedd Dora yn ‘gennad gloyw ac effeithiol’ (Gibbard 2003, 20) dros y gymdeithas a daeth yn un o’r cyntaf i ddarlledu am gerddoriaeth Cymru yn y Gymraeg ar y cyfryngau (Gibbard 2006, 129).

Erbyn 1927, a hithau’n weddw gyda dau o blant, ymgartrefodd yng Ngregynog lle bu’n ysgrifenyddes bersonol i’r ddwy chwaer, Gwendoline a Margaret Davies. Er iddi ymgartrefu mewn sawl ardal arall cyn iddi ymddeol yn 1956, gan gynnwys Caerdydd ac Abertawe, dychwelyd i stad Gregynog a wnaeth Dora ac yno y bu weddill ei hoes. Aeth Gwendoline ar ofyn Gustav Holst a Ralph Vaughan Williams am drefniannau o alawon gwerin ar gyfer y côr a berfformiai adeg Gŵyl Gregynog (Gibbard 2003, 45–6), a dyma ddechrau cyfnod o gydweithio parod rhwng Dora a’r cyfansoddwyr hyn. Cawsant eu swyno gan ei chanu a rhoddodd hi gyd-destun a chefndir yr alawon i gynorthwyo Holst gyda’i drefniannau. O ganlyniad, llwyddodd i ddwyn sylw a bri i ganeuon gwerin Cymru ar lefel ryngwladol. Fe’i hadwaenid fel ‘Brenhines Powys’ (Gibbard 2003, 5; Gibbard 2006, 125) ac fel cantores a darlithydd hawliodd ei lle ymysg arbenigwyr pennaf Cymru ym maes yr alaw werin.

Leila Salisbury

Llyfryddiaeth

  • Gwenan Gibbard, Brenhines Powys: Cyfraniad Dora Herbert Jones i fyd yr alaw werin yng Nghymru (Llanrwst, 2003)
  • ———, ‘Dora Herbert Jones, 1890–1974’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 12 (2006), 121–35



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.