Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Jones, Joseph David (1827-70)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Llyfryddiaeth)
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Cymwynaswr, cerddor ac athro a gŵr eithriadol o egnïol a gyflawnodd lawer yn ystod ei oes fer. Fe’i ganed ym Mryncrugog ym mhlwyf Llanfair Caereinion, Sir Drefaldwyn, yn fab i wehydd a oedd yn bregethwr achlysurol gyda’r Wesleaid. Roedd ei fam yn ei annog yn ei ddiddordebau cerddorol ond nid felly y tad, a oedd yn wrthwynebus iawn iddo ymhél â gweithgaredd o’r fath. Daeth yn chwaraewr sielo medrus a gwnaeth gyfraniad sylweddol i ganiadaeth y cysegr ac ym myd y gân Gymreig, yn ogystal ag fel golygydd ac [[addysgwr]]. Cyfansoddodd ''Y Perganiedydd'' cyn cyrraedd ei ben-blwydd yn ugain oed a bu’r gwaith yn llwyddiant masnachol.
+
Cymwynaswr, cerddor ac athro a gŵr eithriadol o egnïol a gyflawnodd lawer yn ystod ei oes fer. Fe’i ganed ym Mryncrugog ym mhlwyf Llanfair Caereinion, Sir Drefaldwyn, yn fab i wehydd a oedd yn bregethwr achlysurol gyda’r Wesleaid. Roedd ei fam yn ei annog yn ei ddiddordebau cerddorol ond nid felly y tad, a oedd yn wrthwynebus iawn iddo ymhél â gweithgaredd o’r fath. Daeth yn chwaraewr sielo medrus a gwnaeth gyfraniad sylweddol i ganiadaeth y cysegr ac ym myd y gân Gymreig, yn ogystal ag fel golygydd ac [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysgwr]]. Cyfansoddodd ''Y Perganiedydd'' cyn cyrraedd ei ben-blwydd yn ugain oed a bu’r gwaith yn llwyddiant masnachol.
  
Wedi marwolaeth ei fam, symudodd J. D. Jones i Dywyn, Meirionnydd, lle bu’n cynnal dosbarthiadau canu, a daeth yn athro yn Ysgol Frutanaidd y dref yn 1851 ar ôl dilyn cwrs hyfforddi yng Ngholeg Borough Road, Llundain. Yn 1865, aeth i fyw i Ruthun lle sefydlodd ysgol ramadeg breifat. Enillodd yn [[Eisteddfod]] Bethesda yn 1853 gyda’r [[anthem]] ‘Ymddyrcha, O Dduw’ ac yn dilyn hyn cafwyd nifer helaeth o ganeuon, anthemau ac [[emyn-donau]] ganddo, yn eu plith ''Cydymaith y Cerddor, Y Delyn Gymreig, Caniadau Bethlehem'' ac ''Alawon y Bryniau.''
+
Wedi marwolaeth ei fam, symudodd J. D. Jones i Dywyn, Meirionnydd, lle bu’n cynnal dosbarthiadau canu, a daeth yn athro yn Ysgol Frutanaidd y dref yn 1851 ar ôl dilyn cwrs hyfforddi yng Ngholeg Borough Road, Llundain. Yn 1865, aeth i fyw i Ruthun lle sefydlodd ysgol ramadeg breifat. Enillodd yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Bethesda yn 1853 gyda’r [[Anthemau | anthem]] ‘Ymddyrcha, O Dduw’ ac yn dilyn hyn cafwyd nifer helaeth o ganeuon, anthemau ac [[Emyn-donau | emyn-donau]] ganddo, yn eu plith ''Cydymaith y Cerddor, Y Delyn Gymreig, Caniadau Bethlehem'' ac ''Alawon y Bryniau.''
  
Yn ei ganeuon, paratodd y ffordd ar gyfer cyfansoddwyr eraill, fel [[R. S. Hughes]] (1855–93) a [[Joseph Parry]] (1841–1903), ac yn 1868, yn dilyn rhai blynyddoedd o ymchwil, cyhoeddwyd ''Llyfr Tonau ac Emynau'', wedi’i gyd-olygu ganddo ef ac Edward Stephen (Tanymarian). Ei dôn gynulleidfaol fwyaf adnabyddus, ac un sy’n parhau’n boblogaidd, yw ‘Capel y Ddôl’. Bu farw yn 1870 yn gymharol ifanc ond gadawodd waddol gyfoethog ar ei ôl fel un o gymwynaswyr cerddorol amlycaf ei gyfnod.
+
Yn ei ganeuon, paratodd y ffordd ar gyfer cyfansoddwyr eraill, fel [[Hughes, R. S. (1855-1893) | R. S. Hughes]] (1855–93) a [[Parry, Joseph (1841-1903) | Joseph Parry]] (1841–1903), ac yn 1868, yn dilyn rhai blynyddoedd o ymchwil, cyhoeddwyd ''Llyfr Tonau ac Emynau'', wedi’i gyd-olygu ganddo ef ac Edward Stephen (Tanymarian). Ei dôn gynulleidfaol fwyaf adnabyddus, ac un sy’n parhau’n boblogaidd, yw ‘Capel y Ddôl’. Bu farw yn 1870 yn gymharol ifanc ond gadawodd waddol gyfoethog ar ei ôl fel un o gymwynaswyr cerddorol amlycaf ei gyfnod.
  
 
'''Lyn Davies'''
 
'''Lyn Davies'''

Y diwygiad cyfredol, am 19:48, 13 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cymwynaswr, cerddor ac athro a gŵr eithriadol o egnïol a gyflawnodd lawer yn ystod ei oes fer. Fe’i ganed ym Mryncrugog ym mhlwyf Llanfair Caereinion, Sir Drefaldwyn, yn fab i wehydd a oedd yn bregethwr achlysurol gyda’r Wesleaid. Roedd ei fam yn ei annog yn ei ddiddordebau cerddorol ond nid felly y tad, a oedd yn wrthwynebus iawn iddo ymhél â gweithgaredd o’r fath. Daeth yn chwaraewr sielo medrus a gwnaeth gyfraniad sylweddol i ganiadaeth y cysegr ac ym myd y gân Gymreig, yn ogystal ag fel golygydd ac addysgwr. Cyfansoddodd Y Perganiedydd cyn cyrraedd ei ben-blwydd yn ugain oed a bu’r gwaith yn llwyddiant masnachol.

Wedi marwolaeth ei fam, symudodd J. D. Jones i Dywyn, Meirionnydd, lle bu’n cynnal dosbarthiadau canu, a daeth yn athro yn Ysgol Frutanaidd y dref yn 1851 ar ôl dilyn cwrs hyfforddi yng Ngholeg Borough Road, Llundain. Yn 1865, aeth i fyw i Ruthun lle sefydlodd ysgol ramadeg breifat. Enillodd yn Eisteddfod Bethesda yn 1853 gyda’r anthem ‘Ymddyrcha, O Dduw’ ac yn dilyn hyn cafwyd nifer helaeth o ganeuon, anthemau ac emyn-donau ganddo, yn eu plith Cydymaith y Cerddor, Y Delyn Gymreig, Caniadau Bethlehem ac Alawon y Bryniau.

Yn ei ganeuon, paratodd y ffordd ar gyfer cyfansoddwyr eraill, fel R. S. Hughes (1855–93) a Joseph Parry (1841–1903), ac yn 1868, yn dilyn rhai blynyddoedd o ymchwil, cyhoeddwyd Llyfr Tonau ac Emynau, wedi’i gyd-olygu ganddo ef ac Edward Stephen (Tanymarian). Ei dôn gynulleidfaol fwyaf adnabyddus, ac un sy’n parhau’n boblogaidd, yw ‘Capel y Ddôl’. Bu farw yn 1870 yn gymharol ifanc ond gadawodd waddol gyfoethog ar ei ôl fel un o gymwynaswyr cerddorol amlycaf ei gyfnod.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth

  • Y Gwyddoniadur Cymreig, 1889–96, x, 624
  • Y Cerddor, 1870, 78, 85; Mawrth a Medi 1893, Ebrill 1910
  • M. O. Jones, Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig (Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890)
  • Archif Tŷ Cerdd, Bae Caerdydd



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.