Lewis, Andrew (g.1963)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr o gerddoriaeth acwsmatig yn bennaf, sef cyfansoddiadau wedi eu creu mewn stiwdio recordio gan ddefnyddio offer a meddalwedd cyfrifiadurol. Yn enedigol o swydd Nottingham, cychwynnodd ei ddiddordeb mewn cyfansoddi electronaidd pan yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Birmingham (1981-84). Aeth ymlaen i gwblhau PhD yno yn 1991 dan arolygaeth y cyfansoddwr Jonty Harrison, ac yn fuan wedyn fe’i penodwyd i swydd darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, lle bu’n dysgu am dros 25 mlynedd.

Yn ystod y cyfnod hwn bu’n bennaf gyfrifol am ddatblygu cyfansoddi acwsmatig ym Mangor, gan droi’r adran gerdd yn un o brif ganolfannau astudio yn y maes (roedd statws yr adran ym maes cyfansoddi acwstig eisoes wedi ei sefydlu yn ystod yr 1960au a’r 70au yn sgil presenoldeb cyfansoddwyr megis Reginald Smith Brindle a William Mathias). Fe benodwyd Lewis yn Athro ym Mhrifysgol Bangor yn 2003.

Daeth sylw i’w gerddoriaeth yn dilyn llwyddiant Scherzo (1992), gyda’r defnydd o leisiau plant yn awgrymu dylanwad Gesang der Jünglinge (1955-56) Karlheinz Stockhausen. Ers hyn, aeth Lewis ati i gyfansoddi darnau sy’n gosod pwyslais ar ddefnyddio seiniau (yn aml o fyd natur) fel deunydd craidd ar gyfer ymdriniaeth soffistigedig, megis yn Penmon Point (2003). Mewn cyngherddau o’i gerddoriaeth, sydd gan amlaf yn cael eu trefnu o dan adain Electroacoustic Wales (grŵp a sefydlwyd gan Lewis yn ystod yr 1990au er mwyn hyrwyddo cerddoriaeth o’r fath), mae’r sain yn aml yn cael ei gwasgaru drwy system octaffonig, sef wyth o uchelseinyddion wedi eu gosod o amgylch yr ystafell, er mwyn ysbrydoli’r gwrandäwr i ymgolli’n llwyr yn effeithiau sonig y gerddoriaeth.

Bu Lewis hefyd yn awyddus i ddatblygu cerddoriaeth acwsmatig ‘fyw’, drwy greu darnau sy’n cyfuno cerddoriaeth gyfrifiadurol ac offerynnau acwstig, megis y piano. Ei ymgais fwyaf uchelgeisiol a llwyddiannus yn y maes hyd yma fu Fern Hill (2014), lle defnyddir recordiad o lais y bardd Dylan Thomas yn adrodd y gerdd enwog ‘Fern Hill’ fel sail ar gyfer cathl symffonig lliwgar a nwyfus. Perfformiwyd y gwaith am y tro cyntaf yn Hydref 2014 gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gyda Grant Llewellyn yn arwain, fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni Dylan Thomas (gw. hefyd Clasurol a Chelfyddydol, Cerddoriaeth).

Pwyll ap Siôn



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.