Llinell enw'r awdur

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Byline

Llinell lle y nodir awdur yr erthygl bapur newydd neu gylchgrawn, gan amlaf rhwng y pennawd a’r paragraff cyntaf.

Roedd y wasg fasnachol yn annog cyhoeddi enw’r gohebydd ar frig stori oherwydd y cysylltiad rhwng y byline a chyflog y newyddiadurwyr. Oni bai bod y gohebydd yn ychwanegu eu henwau i’w herthyglau, yn ôl y ddadl, ni fydden nhw’n gallu hawlio statws uwch na chyflog gwell.

Yn ystod y 1920au a’r 1930au yn Unol Daleithiau’r America, defnyddiwyd enwau’r gohebwyr yn eang pan, yn ôl Schudson (1978), y daethant yn arf allweddol ar gyfer gwahanu gwerthoedd personol oddi wrth ohebu gwrthrychol. Hefyd, roedd y bylines yn arwydd o gynnydd ym mhroffesiynoldeb ac arbenigedd newyddiadurwyr wrth gyflwyno’r newyddion gan iddynt ddangos pwy oedd awdur yr erthyglau. Nid yn unig yr oedden nhw’n rhoi statws i ohebwyr penodol, ond dechreuodd darllenwyr chwilio am erthyglau gan ohebwyr yr oedden nhw’n credu y gellid ymddiried ynddynt.

Llyfryddiaeth

Schudson, M. 1978. Discovering the News. Efrog Newydd: Basic Books.




Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.