Moderniaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mudiad celfyddydol, cerddorol a diwylliannol, yn ogystal â llenyddol, yw Moderniaeth, a ddaeth i fod tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg neu ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae Dafydd Johnston yn cynnig y cyfnod rhwng y 1890au a’r 1920au fel anterth Moderniaeth, ac R. M. Jones 1902-1936, er bod ceisio diffinio hynny yn anodd ac efallai’n anos yn y cyd-destun Cymraeg. Mae’n derm sy’n cwmpasu nifer helaeth ac eang o wahanol symudiadau, tueddiadau a nodweddion a rennir gan nifer o wahanol artistiaid a gweithiau . Gellid awgrymu ei fod â’i wreiddiau yn Ewrop, ond yn sicr yn achos llenyddiaeth chwaraewyd rhan bwysig hefyd gan nifer o awduron Eingl-Americanaidd.

Yn ei hanfod, dull celfyddydol o ymateb i fodernrwydd ydyw Moderniaeth. Yn hynny o beth gwahaniaethir rhwng modernrwydd, sef y cyflwr o fod yn fodern, neu fywyd modern yn ei wahanol agweddau, a Moderniaeth, sef yr ymateb celfyddydol i’r cyflwr hwn. Fel y dywed John Rowlands, ‘Nid yw bod yn gyfoes yr un peth â bod yn fodern [...] Nid ei fwrw’i hun yn egnïol i ganol llif cynhyrfus bywyd cyfoes a wna’r modernydd: buasai’r gwrthwyneb yn debycach o fod yn wir. Nid bod yn fodernistig yw bod yn fodern.’ Wedi dweud hyn, yr oedd elfennau o fewn Moderniaeth a oedd yn hynod awyddus i fabwysiadu dulliau technolegol newydd a ddaeth i fod ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac i bortreadu’r dechnoleg honno yn ogystal â’i hefelychu, boed beiriannau neu foduron neu sinema. Dau fudiad o’r fath a gysylltir yn agos â Moderniaeth yn Ewrop yw Futurismo, dan arweiniad F. T. Marinetti ac eraill, yn yr Eidal, a Vorticism a goleddid gan awduron fel Ezra Pound a Wyndham Lewis.

Er mwyn gallu deall a gwerthfawrogi Moderniaeth, rhaid wrth ddealltwriaeth o newidiadau syfrdanol y cyfnod, yn gymdeithasol, diwydiannol, diwylliannol ac economaidd. Awgryma John Rowlands fod y ffactorau hyn yn eang ac yn bellgyrhaeddol: roeddent yn cynnwys cyhoeddi gweithiau Charles Darwin a Sigmund Freud ym meysydd bioleg a seicoleg, a newidiasai yn sylfaenol y ffordd y meddyliai pobl amdanynt eu hunain; dirywiad cynyddol Cristnogaeth yn y Gorllewin, i raddau helaeth mewn ymateb i weithiau fel rhai Darwin, Freud ac eraill megis Nietzsche a Spengler; y Chwyldro Diwydiannol, a arweiniodd at ad-drefnu cymdeithas yn sylweddol, ac at ddatblygu technoleg yn bellgyrhaeddol, ond a oedd erbyn cyfnod Moderniaeth efallai wedi colli rhywfaint o’r hyder cynnar yng ngwerth ‘Cynnydd’; dinistr enbyd y Rhyfel Byd Cyntaf; dirwasgiad y tridegau; a Dirfodaeth.

Dadleuodd beirniaid megis Edna Longley mai ffôl yw defnyddio diffiniadau monolithig megis Rhamantiaeth a Moderniaeth – sydd yn gymwys ddigon i ddisgrifio llenyddiaethau diwylliannau mwyafrifol megis rhai Ffrainc, Lloegr neu’r Almaen – wrth drafod llenyddiaethau lleiafrifol fel un Iwerddon. Eto i gyd, byddai eraill yn dadlau mai awduron Gwyddelig a arloesodd ac a arweiniodd mewn llenyddiaeth o’r fath. Yn wir, mae modd cynnig, yn hytrach nag ymwrthod â’r term fel un sy’n fwy perthnasol i ddiwylliant mwyafrifol, mai dwysáu’r argyfwng Modernaidd a wna’r profiad lleiafrifol neu Gymraeg hefyd, oherwydd y ceir dimensiwn ychwanegol iddo: daw i ffocws mwy uniongyrchol a thyngedfennol wrth i lenorion Cymraeg wynebu posibilrwydd difodiant eu hiaith a’u diwylliant yn ychwanegol i’r ystyriaethau argyfyngus yr oedd artistiaid mewn gwledydd eraill yn eu hwynebu.

Serch hynny, mae’n rhaid cydnabod dyled Moderniaeth i fudiadau llenyddol eraill a’i rhagflaenodd, megis Rhamantiaeth, a chydnabod hefyd mai annelwig yw’r ffin rhyngddynt yn Gymraeg. Dychwelir at hyn maes o law; am y tro, mae modd gwahaniaethu rhwng Rhamantiaeth a Moderniaeth trwy awgrymu mai’r hyn a wna Moderniaeth yw wynebu erchylltra neu hylltra’r byd modern a’i bortreadu a’i gyfleu, yn hytrach nag adweithio iddo trwy ddelfrydu cyfnod a fu neu ddeisyfu am ddianc i fyd natur. Fel yr awgryma Dafydd Johnston, ‘ymwrthodai â llawer o ddulliau cydnabyddedig celfyddyd glasurol, megis naturiolaeth, soniaredd, naratif, a chynllun rhesymegol eglur – y math o nodweddion a wnâi gelfyddyd yn arwynebol ddymunol a swynol’.

Un datblygiad arall y gellir tynnu sylw ato yw’r symudiad o’r gwrthrychol at y goddrychol, neu symud o fynegiant mwy eang, lle cynhyrchir ‘gwirionedd’ yn allanol ac yn gymdeithasol, tuag at y syniad mai oddi mewn i’r hunan yn unig y gellir profi neu deimlo unrhyw beth i sicrwydd, ac mai’r safbwynt hwnnw yn hytrach na pherspectif allanol, gwrthrychol sydd yn rhoi ystyr i fywyd. Cwestiyna’r unigolyn yn y testun yr hyn sydd o’i gwmpas, gan arwain y darllenydd yn ei dro i amau bodolaeth gwirionedd statig, sylfaenol: mae natur oddrychol y safbwynt yn ei hanfod yn gyfnewidiol ac yn ddarniog. Ceir ymgais yn aml mewn gweithiau Modernaidd, felly, i fynegi’r hunan, hyd yn oed wrth gydnabod drylliedigaeth yr hunan hwnnw, ac amhosibilrwydd hunan-fynegiant cyflawn hefyd. Yn hynny o beth, gellid awgrymu bod Moderniaeth yn cydnabod proses fodern o ddad-ddyneiddio, wrth iddi dynnu sylw at bobl fel awtomata neu beiriannau mecanyddol.

Arloesodd Moderniaeth o ran ffurf, hefyd, wrth i awduron arbrofi â ffurfiau a mesurau traddodiadol, neu ymwrthod yn llwyr â hwynt. Eto yma, mae angen pwysleisio nad ffenomen lenyddol yn unig yw Moderniaeth: gellir gweld yr un math o arbrofi ac arloesi ar waith yn y celfyddydau gweledol (Picasso yw’r enghraifft amlycaf) a cherddoriaeth (Schoenberg, er enghraifft). Yn sgil y diffiniadau hyn, dadleuodd rhai fod Moderniaeth yn hwyr yn cyrraedd Cymru, os cyrhaeddodd o gwbl, a bod un o gysyniadau canolog Moderniaeth, sef ymwrthod yn llwyr â thraddodiad, yn wrthnysig i’r meddylfryd Cymraeg ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Rhydd Moderniaeth bwyslais ar y presennol, y cyfnewidiol a’r newydd, yn hytrach na’r tragwyddol, y sefydlog a’r traddodiadol. O fewn milieu llenyddol y Gymraeg felly, gellid yn hawdd gredu’r haeriad mai hwyr a gwan oedd dyfodiad Moderniaeth .

Mae lle i ddadlau, fodd bynnag, fod y bardd a'r llenor T. H. Parry-Williams wedi datblygu yn fodernydd o’r iawn ryw, a hynny cyn rhai o’r awduron mwyaf nodedig a gysylltir â’r dull yn Saesneg. Cyhoeddodd T. S. Eliot, er enghraifft, ei gerdd ddylanwadol a charreg filltir fodernaidd 'The Waste Land' yn 1922; ond enillodd Parry-Williams goron yr Eisteddfod Genedlaethol rai blynyddoedd ynghynt gyda’i bryddest arobryn ‘Y Ddinas’ (1915). Awgryma Angharad Price fod y ‘modd y canolbwyntir yn realaidd ar fryntni bywyd y ddinas hyd yn oed wrth ddisgrifio bywydau’r breintiedig, yn gwneud hon yn gerdd nodweddiadol Fodernaidd.’

Gwaith cynnar yw ‘Y Ddinas’ o ystyried cerddi ‘canonaidd’ diweddarach Parry-Williams. Yn sicr nid yr un yw ei Foderniaeth ar y cyfan â moderniaeth Eliot neu Joyce; ni cheir yr un astrusi a chyfeiriadaeth yn y cerddi hynny ag a geir yn 'The Waste Land' neu Ulysses. Yma, fodd bynnag, dychwelir at yr awgrym nad hawdd canfod un diffiniad hollgynhwysol o Foderniaeth. Crynhodd Dafydd Johnston rai o’r elfennau Modernaidd sy’n nodweddu gwaith Parry-Williams ar ei hyd: yr ‘ansicrwydd, yr ymwybod â pherthynolrwydd a chymhlethdod bywyd, yr olwg oddrychol a’r argraff o bersonoliaeth ranedig.’ Wrth ddatblygu’i ddefnydd o’r rhigwm a chyflwyno ieithwedd fwy llafar a llai dyrchafedig neu glasurol i’w waith, yr oedd Parry-Williams hefyd wrth gwrs yn ‘ymwrthod â ffurfiau ac ieithwedd y traddodiad barddol’ – ac yn y cyd-destun Cymraeg, golygai hyn wrthryfela yn erbyn safonau arddulliol John Morris-Jones. Hyn oll a alluogodd beirniad fel J. E. Caerwyn Williams i alw Parry-Williams yn ‘the first unequivocally “modern” literary artist working in Welsh’.

Un Modernydd ni wna Foderniaeth, fodd bynnag, a rhaid gofyn ai ffigur unigryw yn llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif yw Parry-Williams. Eto, dibynna hyn ar ehangder (neu gyfyngder) ein diffiniad o Foderniaeth. Mentrodd R. M. Jones awgrymu na chofleidiodd llenorion Cymraeg mo Foderniaeth erioed yn llwyr, ac mai ‘[m]ater o ddethol’ ydoedd: derbyn vers libre, bydolwg dirfodol, a ‘delweddaeth ymenyddol a chymhlethu’, ond gwrthod cyfeiriadaeth esoterig ac arbrofi’n ormodol â ffurf. ‘Yn fyr’, cynigia R. M. Jones, ‘nid cwbl ddwl yw honni i Gymru goginio ei “Moderniaeth” gynnil hi ei hun’.

Mae’r awgrym hwn yn un hynod dreiddgar, ac â Dafydd Johnston ymhellach trwy ddadlau i ni gael dwy don o Foderniaeth yn Gymraeg: ‘y gyntaf yn fath negyddol o Foderniaeth, a’r ail yn hanfodol gadarnhaol.’ Hynny yw, roedd y don gyntaf hon yn ‘gwbl anwleidyddol’, ond yr ail yn dangos rhagor o ymrwymiad i safbwynt gwleidyddol neu gymdeithasol ymroddedig, gyda barddoniaeth Gwenallt fel yr enghraifft orau o hyn. Ond mae hefyd yma yn awgrymu y gellid ystyried cynnyrch diweddarach R. Williams Parry wrth iddo ymateb i ganlyniadau llosgi’r Ysgol Fomio ym Mhenyberth yn 1936 o fewn yr un garfan, yn ogystal â gwaith to newydd o feirdd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn cynnwys Waldo Williams, Euros Bowen, a Bobi (R. M.) Jones ei hun. Dan ddylanwad Saunders Lewis, bu i’r ail do hwn ailddarganfod pechod a Christnogaeth, ac ymateb yn fwy uniongyrchol ffyrnig hefyd i fodernrwydd o fewn eu Moderniaeth.

Mater arall yw ceisio dosbarthu cynnyrch llenyddol Saunders Lewis ei hun: ‘[a]r yr olwg gyntaf y mae Saunders Lewis yn gymysgedd rhyfedd o’r Modernaidd a’r traddodiadol,’ awgryma Dafydd Johnston. Ac eto, y mae’r berthynas hon rhwng ei Foderniaeth a’i bwyslais ar draddodiad yn dangos mor anodd yw diffinio Moderniaeth yn y cyd-destun Cymraeg, a chaiff Johnston drafferth hefyd wrth geisio disgrifio testunau fel ‘Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu’ (1953), cerdd J. Kitchener Davies. Awgryma, fodd bynnag, mai un nodwedd gyffredin ymhlith yr ail don o Fodernwyr Cymraeg nas cafwyd gan y gyntaf yw’r ‘gred ym mhŵer y dychymyg creadigol’: trwyddo, gall ‘grym trosgynnol celfyddyd’ ail-greu byd drylliedig, ac estyn yn ôl i archwilio traddodiad er mwyn cyflawni hynny. Gellir cymharu hyn â Moderniaeth gwledydd fel Iwerddon yn yr un cyfnod hefyd, yn ogystal â phwyslais rhai fel Eliot ar y ‘Traddodiad’ a’r ‘Talent Unigol’.

Mae’r olwg hon ar Foderniaeth, fodd bynnag, yn rhwym o’n harwain i ailystyried y ‘don gyntaf’ honno drachefn, ac i ofyn beth yn union yw’r berthynas rhwng Moderniaeth a Rhamantiaeth yn Gymraeg. Dadleuodd beirniaid megis Alun Llywelyn-Williams na ddaeth Rhamantiaeth i’w llawn dwf yn yr iaith hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif – sef pan oedd gweddill y byd, i bob golwg, eisoes yn ymrafael â Moderniaeth. Cynigiodd R. M. Jones mai dyna pam na ddaeth Moderniaeth yn gyflawn i’r Gymraeg – roedd ei llenorion yn rhy brysur o hyd yn ceisio cyfuno Moderniaeth a Rhamantiaeth Sioraidd. Ymateb i’r un argyfwng y mae’r ddau fudiad, yn ôl John Rowlands: ‘[o]s mynegi ymdeimlad yr unigolyn o ddieithrwch wyneb yn wyneb â’r Chwyldro Diwydiannol a wnâi’r rhamantwyr cynnar, rhaid cydnabod mai parhau i ymdrin â dieithrwch [...] y mae’r modernwyr hefyd’.

Awgryma Rowlands, felly, fod y ‘llinell derfyn rhwng y rhamantaidd a’r modern mewn llenyddiaeth Gymraeg yn annelwig iawn. Gwelwn newid graddol yn agwedd beirdd unigol’. Enghreifftia hyn trwy enwi R. Williams Parry a T. Gwynn Jones, ac mae’r olaf yn enghraifft dda o’r modd y syniodd beirniaid gwahanol amdano mewn ffyrdd gwahanol. Er i Alun Llywelyn-Williams, er enghraifft, ddefnyddio Jones yn enghraifft allweddol wrth ddisgrifio Rhamantiaeth Gymraeg, ystyria Jerry Hunter ei ddefnydd o ‘frithluniau dychymyg y canrifoedd’ – hynny yw, drylliau neu ddarnau o wahanol rannau o’r traddodiad llenyddol a hanesyddol Cymraeg – a’i ailddyfeisiad ohonynt, yn weithred nodweddiadol Fodernaidd. Eto i gyd, gellir olrhain y lle canolog a roddir i’r dryll a’r drylliedig mewn Moderniaeth yn ôl i’r modd y mawrygid y drylliedig a’r maluriedig gan artistiaid Rhamantaidd a Gothig.

Wrth ymrafael â’r amryw ddiffiniadau hyn, dychwelir at berthynas unigryw Moderniaeth Gymraeg â thraddodiad. Gwthiodd Hunter awgrym R. M. Jones ymhellach eto a chynnig ‘I would, however, put the noun in the plural, stating that a number of Welsh artists have cooked up a number of uniquely Welsh Modernisms’. Fel yr awgryma John Rowlands, ‘[e]fallai’n wir fod awydd cryf am ein gweddnewid ein hunain (trwy gyfrwng seicoleg) neu drawsffurfio cymdeithas (trwy gyfrwng gwleidyddiaeth chwyldroadol) yn un o nodweddion pwysicaf ein canrif ni’. Yn hytrach, felly, nag awgrymu mai’n hwyrfrydig y daeth Rhamantiaeth i’r Gymraeg, neu na ddigwyddodd Moderniaeth ‘go iawn’ yn yr iaith, gellid ystyried mai rhyw fath ar raddfa neu gontinwwm yw’r gwahanol fudiadau a gafwyd mewn llenyddiaeth Gymraeg dros y ganrif a hanner ddiwethaf, a’u bod i gyd i raddau yn ymdrin ac yn ymhél â’r ymdeimlad cynyddol o ddieithrwch, o argyfwng gwacter ystyr, ac o geisio canfod ystyr a hunaniaeth mewn byd cynyddol eang ond cynyddol ddrylliedig. Os felly, ac os gellir galw peth fel hyn yn Foderniaeth, yna mae achos cryf dros ddadlau mai Moderniaeth, yn ei hamryfal ffurfiau ac agweddau, yw mudiad artistig llywodraethol, os nad diffiniol, yr 20g yn Gymraeg.

Llŷr Gwyn Lewis

Llyfryddiaeth

Davies, G. (1999), Sefyll yn y Bwlch: Cymru a'r mudiad gwrth-fodern: astudiaeth o waith R.S. Thomas, Saunders Lewis, T.S. Eliot a Simone Weil (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Hunter, J. (1997), ‘Y Nos, y Niwl a’r Ynysig: Estheteg Fodernaidd T. Gwynn Jones’, Taliesin, 98, 37-54.

Hunter, J. (2007), ‘Llywelyn’s Breath, Arthur’s Nightmare: The Medievalism within Welsh Modernism’, Cambrian Medieval Celtic Studies, 53/54, 113-132.

Janowitz, A. (1999), ‘The Romantic Fragment’, yn Wu, D. (gol), A Companion to Romanticism (Oxford: Blackwell Publishing), tt. 442-51.

Johnston, D. (1993), ‘Moderniaeth a Thraddodiad’, Taliesin, 80, 13-24.

Jones, R. M. (1987), Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936 (Llandybie: Cyhoeddiadau Barddas).

Josipovici, G. (2010) What ever happened to Modernism? (London: Yale University Press).

Longley, E. (2013), Yeats and Modern Poetry (Cambridge: Cambridge University Press).

Llywelyn-Williams, A. (1960), Y Nos, y Niwl a’r Ynys: Agweddau ar y Profiad Rhamantaidd yng Nghymru 1890-1914 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Price, A. (2013), Ffarwél i Freiburg: crwydriadau cynnar T.H. Parry-Williams (Llandysul: Gwasg Gomer).

Rowlands, J. (1971), ‘Wêr-an-têr: Agwedd ar Waith T. H. Parry-Williams’, yn Williams, J. E. C. (gol.), Ysgrifau Beirniadol VII (Dinbych: Gwasg Gee), tt. 167-83.

Williams, J. E. C. (1970), ‘The Poetry of T. H. Parry-Williams’, Poetry Wales, VI: i, 10.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.