Monograff

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Gwaith ysgrifenedig estynedig sy’n cyflwyno ymchwil gwreiddiol awdur (neu awduron) ar bwnc penodol, unigol yw monograff. Defnyddir ffynonellau gwreiddiol yn yr ymchwil hwn er mwyn cynnig dadl ac ymdriniaeth newydd â’r testunau hynny yn y monograff ei hun. Datblygir a chynhelir y ddadl ar hyd nifer o benodau o’i fewn, yn wahanol i ysgrif neu erthygl mewn cyfnodolyn. Yn aml, fe’i seilir ar draethawd doethurol yr awdur, a gwelir cyhoeddi monograff yn gyffredinol, felly, fel cam cyntaf pwysig yng ngyrfa awduron academaidd. Rhydd gyfle iddynt ledaenu ffrwyth eu hymchwil a chyfrannu i drafodaeth ysgolheigaidd ehangach.

Ymchwilwyr ac academyddion eraill yw cynulleidfa monograffau fel arfer, ac fe’u cyhoeddir gan mwyaf gan weisg academaidd, arbenigol mewn niferoedd cyfyngedig. Mae disgwyl iddynt ddilyn confensiynau academaidd, megis cynnwys troednodiadau (neu ôl-nodiadau) cyflawn, mynegai, a llyfryddiaeth helaeth er mwyn cydnabod a rhestru’r ffynonellau a drafodir o’u mewn. Ceir enghreifftiau pwysig o fonograffau cyfoes Cymraeg yng nghyfres ‘Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig’, a gyhoeddwyd o 1995 ymlaen dan olygyddiaeth gyffredinol John Rowlands, ac yn ddiweddarach Gerwyn Wiliams, ac sy’n cynnwys astudiaethau o agweddau penodol, arbenigol ar lenyddiaeth a theori ddiwylliannol Gymraeg.

Llion Wigley


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.