Neogeidwadaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Neoconservatism)

Mae’r dadleuon a gysylltir â’r gangen hon o’r Dde Newydd yn tueddu i ategu pwyslais neoryddfrydiaeth ar sicrhau bod angen cyfyngu’n sylweddol ar ymyrraeth economaidd y wladwriaeth. Ar yr un pryd mae’r adain neogeidwadol hefyd yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol ychwanegol ac wrth wneud hynny yn adeiladu ar syniadau Ceidwadol ynglŷn â phwysigrwydd trefn, awdurdod a disgyblaeth (Vaïsse 2010) – syniadau y gellir eu holrhain yn ôl i Geidwadwaeth Awdurdodaidd a fu’n weithredol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhoddwyd sylw o’r newydd i’r math yma o syniadau yn sgil y dybiaeth bod rhai o’r diwygiadau cymdeithasol rhyddfrydol a gyflwynwyd ar draws gwledydd gorllewinol yn ystod y 1960au, er enghraifft cyfreithloni ysgaru ac erthylu, diddymu’r gosb eithaf, llacio rheolau ar sensoriaeth a hefyd cydnabod amrywiaeth trwy bolisïau ar amlddiwylliannedd, wedi tanseilio ymdeimlad o sefydlogrwydd a dyletswydd gymdeithasol. Yn sgil hynny, mynnwyd y bu dirywiad difrifol mewn cyfraith a threfn a hefyd mewn moesoldeb cyhoeddus.

Bu’r agenda neogeidwadol yma yn un arbennig o flaenllaw yn yr Unol Daleithiau ers y 1970au. Ffigwr allweddol yn y datblygiad hwn oedd y sylwebydd cymdeithasol Irving Kristol. Cynigiodd Kristol (1995) feirniadaeth hallt o unigolyddiaeth a goddefgarwch ryddfrydol y 1960au a dadleuodd o blaid yr angen i ailsefydlu ‘safonau’ a oedd yn adlewyrchu gwerthoedd y ‘mwyafrif moesol’. Roedd hyn yn cynnwys mynnu y dylid rhoi pwyslais o’r newydd ar rinweddau’r teulu traddodiadol a beirniadu’r duedd i gofleidio ffyrdd newydd o drefnu bywyd domestig; beirniadu’n hallt y duedd i arddel agweddau mwy goddefgar ar faterion megis rhyw a rhywioldeb; galw am ail-gyflwyno cosbau troseddol llymach, gan gynnwys mewn perthynas â man-droseddau; a gwrthwynebu mewnfudo a datblygiad cymdeithasau amlddiwylliannol ac aml-ethnig. Yn aml, roedd dadleuon o’r fath yn cael eu mynegi gan gyfeirio yn ôl at orffennol euraidd mwy trefnus a llewyrchus lle roedd pobl yn byw bywydau mwy disgybledig. Er enghraifft ym Mhrydain byddai lladmeryddion dadleuon o’r fath megis Margaret Thatcher, prif Weinidog y Deyrnas Unedig rhwng 1979 a 1990, yn aml yn sôn am yr angen i ail-sefydlu gwerthoedd ‘Fictorianaidd’ (gweler Samuel 1992).

Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Ceidwadaeth: Ffrydiau Amrywiol gan Dr Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) wedi’u haddasu gan Adam Pierce a Dr Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd .

Llyfryddiaeth

Kristol, I. (1995). Neoconservatism. (New York: Free Press)

Samuel, R. (1992). ‘Margaret Thatcher’s Return to ‘Victorian Values’.’ Proceedings of the British Academy, 78, 9-29

Vaïsse (2010). Neoconservatism: The Biography of a Movement. (Cambridge, MA: The Belknap Press of Harvard University Press)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.