Newyddiaduraeth clecs caru

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Kiss and tell journalism

Math o newyddiaduraeth sydd o werth mawr i’r papurau tabloid neu’r newyddiaduraeth boblogaidd, lle y mae ffynhonnell yn datgelu manylion (kiss and tell) am berthynas rywiol gyda ffigwr cyhoeddus (gwleidydd, person enwog, actor, seren y byd chwaraeon, ac ati) yn gyfnewid am daliad o sefydliad newyddion. Gall y math hwn o newyddiaduraeth ‘llyfr siec’ gynhyrchu gwerthiant sylweddol, ond mae’n dod yn gynyddol beryglus (ac yn ddrud) i fynd ar eu trywydd mewn gwledydd lle y gellir defnyddio’r llysoedd i ddiogelu preifatrwydd y cyfoethog a’r enwog.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.