Newyddiaduraeth drwy gymorth cyfrifiadur

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Computer assisted reporting CAR

Ysgrifennu storïau newyddion trwy ddefnyddio technolegau cyfrifiadurol, gan gynnwys casglu a dehongli setiau data cymhleth (yn ystod y 1950au, cyn i gyfrifiaduron personol ddod yn fwy poblogaidd, gelwid y math hwn o newyddiaduraeth yn ‘newyddiaduraeth cronfa ddata’).

Mae CAR yn galluogi newyddiadurwyr i wneud gwaith trefnus, analytig a thrylwyr. Gan ddefnyddio’r cyfrifiadur, mae’n bosibl profi rhagdybiaethau, cyfrifo tebygolrwydd, dadansoddi cofnodion cyhoeddus, cynnal arolygon ac ati. Mae’n fath o newyddiaduraeth sy’n rhoi’r pwyslais ar ddadansoddi, ond mae’r defnydd o’r term ei hun yn diflannu wrth i gyfrifiaduron ddod yn gynyddol ganolog i gasglu newyddion o bob math.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.