Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Newyddiaduraeth ymchwiliol"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 1: Llinell 1:
 
Saesneg : ''Investigative journalism''
 
Saesneg : ''Investigative journalism''
  
[[Newyddiaduraeth]] sy’n datgelu agweddau cudd neu aneglur ar ddigwyddiadau neu faterion cyhoeddus, megis ymddygiad anghyfreithlon, diffygion neu lygredd. Galwodd Ettema a Glasser (1998) ohebwyr ymchwiliol yn ‘''custodians of concience''’ oherwydd eu bod yn datgelu troseddau yn erbyn safonau gwerthfawr cyhoeddus. Mae [[newyddiaduraeth]] ymchwiliol wedi  amrywio ers dyddiau cynharaf newyddiaduraeth.
+
[[Newyddiaduraeth]] sy’n datgelu agweddau cudd neu aneglur ar ddigwyddiadau neu faterion cyhoeddus, megis ymddygiad anghyfreithlon, diffygion neu lygredd. Galwodd Ettema a Glasser (1998) ohebwyr ymchwiliol yn ‘''custodians of concience''’ oherwydd eu bod yn datgelu troseddau yn erbyn safonau gwerthfawr cyhoeddus. Mae [[newyddiaduraeth]] ymchwiliol wedi  amrywio ers dyddiau cynharaf [[newyddiaduraeth]].
  
Roedd cyfnod o gynhyrfu’r dyfroedd yn y 1900au cynnar, ond ers y 1960au, cyrhaeddodd newyddiaduraeth ymchwiliol uchafbwynt oherwydd y diffyg ymddiriedaeth yn y Llywodraeth a’r cynnwrf cymdeithasol a oedd yn bodoli ar y pryd.  
 
Llinell 11: Llinell 11:
 
Oherwydd ei bod wedi ei chysylltu’n rhannol â dyheadau pobl am allu newyddiaduraeth i ddatgelu camwedd swyddogol, mae newyddiaduraeth ymchwiliol wedi derbyn cefnogaeth rhai yn y byd masnachol ynghyd â chefnogaeth mudiadau dielw. Er enghraifft, yn UDA, bu sefydliad cenedlaethol yr ''Investigative Reporters and Editors'' (IRE) yn rhoi hyfforddiant i newyddiadurwyr mewn dulliau ymchwilio ar gyfer gohebu ymchwiliol ers 1975, a chafodd y ''Fund for Investigative Journalism'' (FIJ) ganmoliaeth ar ôl rhoi grant o $250 i alluogi Seymour Hersh i ddechrau ei ymchwiliad i laddfa My Lai yn Fietnam yn ystod y 1960au hwyr. Erbyn diwedd y 2000au, sefydlwyd nifer o fudiadau wedi eu modelu ar fudiad IRE yn Ewrop, America Ladin ac Asia, a sefydlwyd ''Global Investigative Journalism'', rhwydwaith rhyngwladol mewn 30 o wledydd yn 2003 er mwyn rhannu adnoddau.  
 
Yn fwy diweddar, wrth i sawl [[papur newydd]] gau yn 2009, dechreuodd yr ''Huffington Post'' (y wefan newyddion a barn) ffurfio uned newyddiaduraeth ymchwiliol ei hun fel ffordd o gefnogi gohebwyr ymchwiliol di-waith.  
+
Yn fwy diweddar, wrth i sawl [[papur newydd]] gau yn 2009, dechreuodd yr ''Huffington Post'' (y wefan [[newyddion]] a barn) ffurfio uned newyddiaduraeth ymchwiliol ei hun fel ffordd o gefnogi gohebwyr ymchwiliol di-waith.  
  
Mae beirniaid newyddiaduraeth ymchwiliol yn credu y gall fod yn niweidiol gan ei bod yn tanseilio hyder y cyhoedd ac yn arwain at sinigiaeth, ac, os nad yw’n cael ei wneud yn dda, yn tynnu sylw’r cyhoedd at agweddau dibwys bywyd cyhoeddus.
 
Llinell 18: Llinell 18:
  
Ettema, J. a Glasser, T. 1998. ''Custodians of Conscience: Investigative Journalism and Public Virtue.'' New York: Columbia University Press.
 
Ettema, J. a Glasser, T. 1998. ''Custodians of Conscience: Investigative Journalism and Public Virtue.'' New York: Columbia University Press.
 +
  
{{CC BY-SA}}
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Newyddiaduraeth]]
 
[[Categori:Newyddiaduraeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 11:10, 2 Mai 2019

Saesneg : Investigative journalism

Newyddiaduraeth sy’n datgelu agweddau cudd neu aneglur ar ddigwyddiadau neu faterion cyhoeddus, megis ymddygiad anghyfreithlon, diffygion neu lygredd. Galwodd Ettema a Glasser (1998) ohebwyr ymchwiliol yn ‘custodians of concience’ oherwydd eu bod yn datgelu troseddau yn erbyn safonau gwerthfawr cyhoeddus. Mae newyddiaduraeth ymchwiliol wedi amrywio ers dyddiau cynharaf newyddiaduraeth.

Roedd cyfnod o gynhyrfu’r dyfroedd yn y 1900au cynnar, ond ers y 1960au, cyrhaeddodd newyddiaduraeth ymchwiliol uchafbwynt oherwydd y diffyg ymddiriedaeth yn y Llywodraeth a’r cynnwrf cymdeithasol a oedd yn bodoli ar y pryd.

O gymharu â dulliau eraill o ohebu, yn ôl y gohebydd Martha Gellhorn, mae newyddiaduraeth ymchwiliol yn tueddu i weithio ‘o’r gwaelod i fyny’, sef dechrau gyda ffaith neu ddigwyddiad ac yna ymchwilio a thwrio ymhellach. Mae hyn yn golygu ymdrechion hirfaith gan newyddiadurwyr ymchwiliol, sy’n defnyddio cofnodion cyhoeddus, dogfennau cyfrinachol a chudd, a nifer fawr o gyfweliadau (yn aml yn y dirgel) er mwyn gwau eu storïau at ei gilydd.

Fel rheol, mae adroddiadau ymchwiliol yn cynnig ymdriniaeth fanylach a mwy cynhwysfawr na mathau eraill o storïau newyddion. Bu rhai sefydliadau newyddion yn gysylltiedig am flynyddoedd â chyflwyno adroddiadau ymchwiliol, er enghraifft 60 Minutes CBS a chyfnodolion megis Mother Jones a The Nation yn Unol Daleithiau America (UDA), ac yn y Deyrnas Unedig (DU), papurau newydd fel The Sunday Times yn y 1960au neu raglen flaenllaw Panorama (BBC) a’r Byd ar Bedwar (S4C). Yn fwy diweddar, bu menter ddielw’r Bureau of Investigative Journalism yn ceisio dod o hyd i’r gwir.

Oherwydd ei bod wedi ei chysylltu’n rhannol â dyheadau pobl am allu newyddiaduraeth i ddatgelu camwedd swyddogol, mae newyddiaduraeth ymchwiliol wedi derbyn cefnogaeth rhai yn y byd masnachol ynghyd â chefnogaeth mudiadau dielw. Er enghraifft, yn UDA, bu sefydliad cenedlaethol yr Investigative Reporters and Editors (IRE) yn rhoi hyfforddiant i newyddiadurwyr mewn dulliau ymchwilio ar gyfer gohebu ymchwiliol ers 1975, a chafodd y Fund for Investigative Journalism (FIJ) ganmoliaeth ar ôl rhoi grant o $250 i alluogi Seymour Hersh i ddechrau ei ymchwiliad i laddfa My Lai yn Fietnam yn ystod y 1960au hwyr. Erbyn diwedd y 2000au, sefydlwyd nifer o fudiadau wedi eu modelu ar fudiad IRE yn Ewrop, America Ladin ac Asia, a sefydlwyd Global Investigative Journalism, rhwydwaith rhyngwladol mewn 30 o wledydd yn 2003 er mwyn rhannu adnoddau.

Yn fwy diweddar, wrth i sawl papur newydd gau yn 2009, dechreuodd yr Huffington Post (y wefan newyddion a barn) ffurfio uned newyddiaduraeth ymchwiliol ei hun fel ffordd o gefnogi gohebwyr ymchwiliol di-waith.

Mae beirniaid newyddiaduraeth ymchwiliol yn credu y gall fod yn niweidiol gan ei bod yn tanseilio hyder y cyhoedd ac yn arwain at sinigiaeth, ac, os nad yw’n cael ei wneud yn dda, yn tynnu sylw’r cyhoedd at agweddau dibwys bywyd cyhoeddus.

Llyfryddiaeth

Ettema, J. a Glasser, T. 1998. Custodians of Conscience: Investigative Journalism and Public Virtue. New York: Columbia University Press.

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.