Osgiladiad Gogledd Iwerydd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: north atlantic oscillation)

Màs aer helaeth yn rhanbarth Gogledd yr Iwerydd sydd yn osgiladu rhwng y gwasgedd Uchel is-drofannol a gwasgedd Isel Gwlad yr Iâ. Mae hwn wedi cael ei hen gydnabod fel un o brif nodweddion y system hinsawdd fyd-eang ac mae gwahaniaethau rhwng un wedd â’r llall ym medru creu newidiadau yng nghyflymdra cyfartalog a chyfeiriad y gwynt yn yr Iwerydd, cludiant gwres a lleithder rhwng yr Iwerydd a chyfandiroedd cyfagos ac yn llwybr arddwysedd a nifer y stormydd. Dylanwada hefyd ar gynaeafau amaethyddol, rheolaeth dŵr, tymheredd a dyddodiad ac mae’n gysylltiedig â’r cynhesu eang dros y degawdau diwethaf ac anghysonderau hinsoddol yn ystod yr oes iâ fach.

Gellir darganfod gwedd Osgiladiad Gogledd Iwerydd (OGI) drwy gyfrifo gwahaniaeth yng ngwasgedd lefel y môr, wedi’i normaleiddio, rhwng y gwasgedd Uchel is-drofannol a gwasgedd Isel Gwlad yr Iâ. Mae osgiladiad yng nghryfder y ddau wasgedd ac mae ymchwil gan Hurrell (1995) yn dangos bod yr OGI yn dueddol o aros yn gyson mewn un wedd am ddegawdau. Pan mae’r OGI yn ei wedd bositif (uchel) yn yr haf mae’r Uchel is-drofannol yn gryf ac mae’r Isel Gwlad yr Iâ yn ddwfn ac mae gwrthgyferbyniad cryf meridianaidd (gogledd-de) yn y gwasgedd dros Ogledd Iwerydd. O ganlyniad mae gwyntoedd gorllewinol cryf yn datblygu ar hyd y lledredau-canol yn rhanbarth Gogledd Iwerydd a’r rhain sy’n dod ag aer cynnes, llaith i Ogledd Orllewin Ewrop. Mae gwedd bositif yr OGI yn y gaeaf yn gysylltiedig â dyddodiad uwch na’r arfer dros Wlad yr Iâ, y Deyrnas Unedig a Llychlyn a dyddodiad is na’r arfer dros ogledd Affrica a rhanbarth y Môr Canoldir. Nodweddir yr OGI yn ei wedd negyddol (isel) â graddiant gwasgedd a gwyntoedd y gorllewin gwannach dros ranbarth Gogledd Iwerydd sydd o ganlyniad yn dod â thymereddau oer i ogledd Ewrop a dyddodiad uwch i ogledd Affrica.

Mae cydberthyniad cryf rhwng llifogydd eithafol a gwedd yr OGI. Roedd gwedd negyddol yr OGI mewn grym yn ystod llifogydd eithafol Exmoor yn 1952, Cairngorms yn 1978, Caldwell Burn yn Dumfries yn 1979, Bro’r Llynnoedd yn 1995, Boscastle yn 2004 a Helmsley yn 2005. Mae systemau tywydd sy’n cynhyrchu stormydd haf darfudol dwys, lleol o dan amodau antiseiclonig a ffryntiau lled-sefydlog, yn dueddol o ddatblygu pan ddaw gwyntoedd gwan o’r gorllewin, yn ystod OGI negyddol, sy’n arwain at batrymau cylchrediad atmosfferig swrth dros ranbarth Gogledd Iwerydd. Roedd y rhan fwyaf o’r llifogydd eithafol yn digwydd o ganlyniad i’r math hwn o system tywydd lle roedd toreth o ddyodiad yn methu gwasgaru drwy amsugniad pridd, dŵr ffo na draeniad.

Llyfryddiaeth

  • Acreman, M. C. (1989) Extreme historical UK floods and maximum flood estimation. Journal of the Institute of Water and Environmental Management, 3, 404–412.
  • Acreman, M. C. (1991) The flood of July 25th 1983 on the Hermitage Water, Roxburghshire. Scottish Geographical Magazine, 107, 170–178.
  • Carling, P. A. (1986) The Noon Hill flash flood, July 17th 1983. Hydrological and Geomorphological aspects of a major formative event in the upland landscape. Transactions of the Institute of British Geographers, 11, 105–118.
  • Cook, E. R., a D’Arrigo, R. D. (2002) A Well-verified, multiproxy reconstruction of the winter North Atlantic Oscillation index since A.D. 1400. Journal of Climate, 15, 1754–1764.
  • Duckworth, J. A. (1969). Bowland Forest and Pendle floods. Association of River Authorities Yearbook, 81–90.
  • Glueck, M. F., a Stockton, C. W. (2001) Reconstruction of the North Atlantic Oscillation, 1429–1983. International Journal of Climatology, 21, 1453–1465.
  • Harvey, A. M. (1986) Geomorphic effects of a 100 year storm in the Howgill Fells, Northwest England. Zeitschrift fur Geomorphologie N F, 30, 71–91.
  • Hurrell, J. W. (1995) Decadal trends in the North Atlantic Oscillation: Regional temperatures and precipitation. Science, 269, 676–679.
  • Hurrell, J. W., Kushnir, Y., Ottersen, G., a Visbeck, M. (2003) An overview of the North Atlantic Oscillation: Climatic Significance and Environmental Impact. Geophysical Monograph, 134, 1–35.
  • Johnson, R. M., a Warburton, J. (2002) Flooding and geomorphic impacts in a mountain torrent: Raise Beck, central Lake District, England. Earth Surface Processes and Landforms, 27, 945–969.
  • Jones, P. D., Jonsson, T., a Wheeler, D. (1997) Extension of the North Atlantic Oscillation using early instrumental pressure observations from Gibraltar and South-west Iceland. International Journal of Climatology, 17, 1433–1450.
  • Kidson, C. (1953) The Exmoor storm and the Lynmouth floods. Geography, 38, 1–99.
  • Macklin, M. G., a Rumsby, B. T. (2007) Changing climate and extreme floods in the British uplands. Trans Inst Br Geogr, 32, 168–186.
  • McEwen, L. J., a Werritty, A. (1988) The hydrology and long-term geomorphic significance of a flash flood in the Cairngorm Mountains, Scotland. Catena, 15, 361–377.
  • Nesje, A., a Dahl, S. O. (2003). The ‘Little Ice Age’ – only temperature?. The Holocene, 13, 139–145.
  • Rodgers, J. C. (1984) The association between the North Atlantic Oscillation and the Southern Oscillation in the Northern Hemisphere. Monthly Weather Review, 112, 1999–2015.
  • Van Loon, H., a Rogers, J. (1978) The seesaw in winter temperature between Greenland and northern Europe. Part I: General description. Mon. Weather Rev., 106, 296–310.
  • Walker, G. T. (1924) Correlations in seasonal variations of weather IX. Mem. Ind. Meteorol. Dept., 24, 275–332.
  • Whitaker, R. (1996) Weather, The Ultimate Guide to the Elements. Harper Collins, Llundain.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.