Patti, Adelina (1843-1919)
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Cantores soprano opera fyd-enwog a fu’n byw am gyfnod hir yn ne Cymru lle gwnaeth argraff ddofn ar gymunedau Cwm Tawe a Chwm Nedd yn fwyaf arbennig. Fe’i ganed ym Madrid ac fel Jenny Lind a Thérèse Tietjens daeth yn adnabyddus yn gynnar oherwydd ei llais pur a gloyw a’i thechneg bel canto ddiguro. (Hynny yw, yn llythrennol, ‘canu prydferth’: yr arddull Eidalaidd o ganu a ddatblygwyd yn ystod y 18g. a’r 19g. a roddai bwyslais ar gynhyrchiad legato perffaith ar draws y cwmpawd lleisiol, defnydd o sain ysgafn yn y cwmpawd uchel, ynghyd â hyblygrwydd a sioncrwydd lleisiol.)
Fe’i disgrifiwyd gan neb llai na Giuseppe Verdi fel y gantores orau a glywyd erioed. Yn ôl adroddiadau o’r cyfnod roedd llais Patti yn hynod hyblyg gyda llyfnder ar draws cwmpawd eang, stacato eglur, geirio a fyddai’n trosglwyddo’n glir ar draws yr awditoriwm mwyaf a gafael anarferol o sicr ar bel canto a coloratura fel ei gilydd. A hithau’n ferch i ganwr a chantores amlwg o’r Eidal, daeth Patti yn ddinesydd Ffrengig (bu’n briod â dau Ffrancwr) ond teithiodd y byd cyn ymgartrefu yng Nghraig-y-nos, Pen-wyllt, nid nepell o Gastell-nedd.
Gwnaeth ei début yn yr Academi Gerdd yn Efrog Newydd yn 1859 gan berfformio’r brif ran yn Lucia di Lammermoor Donizetti. Ddwy flynedd yn ddiweddarach perfformiodd rôl Amina yn La sonnambula Bellini yn Covent Garden a hithau’n ddim ond deunaw oed. Yn Llundain yr oedd ei phrif gartref am gyfnod wrth iddi deithio a gwneud argraff fawr ar y byd cerdd yn enwedig ym maes opera. Tra oedd yn yr Unol Daleithiau canodd ‘Home Sweet Home’ i Abraham Lincoln a’i deulu a daeth y gân yn ffefryn mawr ar draws y byd (recordiwyd y gantores yn canu’r unawd yng Nghraig-y-nos yn ddiweddarach) - hyd yn oed fel encore yng nghanol perfformiadau operatig.
Yn fuan daeth ei henw’n gysylltiedig â rhannau opera dwys-ddramatig ac emosiynol megis Gilda yn Rigoletto, Leonora yn Il trovatore, y brif ran yn Semiramide Handel, Zerlina yn Don Giovanni a Violetta yn La traviata. Yn ei hanterth roedd yn ennill pum mil o ddoleri yn nosweithiol a meddai ar synnwyr busnes cryf. Symudodd i fyw yng Nghraig-y-nos gyda’i hail ŵr, y tenor Ffrengig Nicolini. Cynlluniwyd y theatr ar yr un patrwm â theatr enwog Richard Wagner yn Bayreuth, a hynny gan gwmni o benseiri yn Abertawe ar gost enfawr yn y cyfnod o dros gan mil o bunnoedd. Agorwyd y theatr, sy’n dal tua 150 o bobl, ar 12 Gorffennaf 1891 a gosodwyd enwau hoff gyfansoddwyr y gantores ar y pileri o amgylch yr awditoriwm.
Yn dilyn marwolaeth Nicolini priododd Adelina Patti am y trydydd tro a hynny â’r Barwn Rolf Cederstrom (1870-1947). Erbyn hynny roedd yn hanner cant a phump oed ac yntau’n wyth ar hugain (mae’n debyg mai ef oedd ei masseur personol). Daeth Patti’n boblogaidd ymhlith y trigolion lleol yng Nghwm Nedd a Chwm Tawe a bu’n hael ei chefnogaeth i achosion da ei bro. Cyflwynodd Theatr Patti i ddinas Abertawe ac yn dilyn ei marwolaeth fe’i claddwyd ym mynwent enwog Père Lachaise ym Mharis, yn agos at ei hoff gyfansoddwr, Gioachino Rossini. Mae’r theatr yng Nghraig-y-nos yn parhau’n dyst i un o’r cyfnodau mwyaf llewyrchus ac anarferol yn niwylliant Cymru’r cyfnod.
Lyn Davies
Disgyddiaeth
- The Era of Adelina Patti (Nimbus Records NI7840/1, 1994)
- Adelina Patti: Complete Recordings (Marston Records 52011– 12, 1998)
Gwefannau
Llyfryddiaeth
- Hermann Klein (gol.) The Reign of Patti (Efrog Newydd, 1977)
- Stanley Sadie (gol.), The New Grove Dictionary of Opera (Efrog Newydd, 1997), 918
- Owen Jander ac Ellen T. Harris, ‘Bel Canto’, The New Grove Dictionary of Music and Musicians, gol. Stanley Sadie (Llundain, 2001)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.