Penderfyniaeth gymdeithasol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Social determinism)

Penderfyniaeth gymdeithasol (neu benderfyniaeth ddiwylliannol, cultural determinism) yw’r gred fod ymddygiad unigolyn yn cael ei lunio a’i ddylanwadu gan ffactorau cymdeithasol (Chandler a Munday 2016; Fulcher a Scott 2012). Mae’r safbwynt hwn yn gweld bod y rheswm dros ymddygiad unigolion y tu hwnt i’r unigolyn ei hun. Er enghraifft, bydd ffactorau allanol (external forces) a strwythurau cymdeithasol, megis dylanwad rhieni, yr ysgol, y cyfryngau ac ati, yn cyfrannu tuag at y ffordd y mae unigolion yn ymddwyn.

Yn wir, mae penderfyniaeth gymdeithasol yn cael ei gweld fel y gwrthwyneb i benderfyniaeth fiolegol (biological determinism). Yn ôl y ddamcaniaeth honno, mae pob ffenomen gymdeithasol, er enghraifft ymddygiad unigolyn, yn cael ei phennu gan ffactorau biolegol megis genynnau, yn hytrach na ffactorau neu ddylanwadau diwylliannol neu gymdeithasol.

Adam Pierce

Llyfryddiaeth

Chandler, D. a Munday, R. (2016), A Dictionary of Media & Communication, 2il argraffiad (Oxford: Oxford University Press).

Fulcher, J. a Scott, J. (2011), Sociology, 4ydd argraffiad (Oxford: Oxford University Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.