Perlau Tâf

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Sefydlwyd Perlau Tâf yn 1968 gan John Arfon Jones, athro mathemateg yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ar Daf. Yr aelodau gwreiddiol oedd Betty Williams (llais a gitâr), Carol Llewellyn (llais), Mary Rees (llais) a’r ddau frawd Tecwyn Ifan (gitâr) ac Euros Rhys (piano, gitâr a llais). Daeth Sian Williams (llais), Eirlys Davies (llais) a Peter Rees (gitâr 12 tant) yn aelodau erbyn canol yr 1970au, gyda Tecwyn Ifan yn dod yn aelod o’r grŵp gwerin-roc gwleidyddol Ac Eraill yn 1972.

Gan gyfuno caneuon ysgafn a chrefyddol gyda’r canu protest newydd a ddaeth i amlygrwydd yn ystod diwedd yr 1960au, rhyddhaodd Perlau Tâf sawl EP rhwng 1968 ac 1975 ar labeli Teldisc, Cambrian a Sain, gan gynnwys ‘O Iesu Mawr’ (Cambrian, 1972), a aeth i siart deg uchaf Y Cymro ym mis Rhagfyr 1972.

Disgyddiaeth

  • Mynd Mae Ein Rhyddid Ni [EP] (Teldisc Pops-Y-Cymro PYC5437, 1969)
  • ‘Câr Y Rhain I Gyd’/‘Cymru Rhydd’ [sengl] (Welsh Teldisc WD915, 1969)
  • Daeth y Dydd [EP] (Welsh Teldisc PYC5440, 1969)
  • Tyrd i Mewn [EP] (Teldisc Pops-Y-Cymro PYC5442, 1970)
  • Perlau Tâf [EP] (Cambrian CEP481, 1972)
  • O Iesu Mawr [EP] (Cambrian CEP486, 1972)
  • Coch Gwyn A Gwyrdd [EP] (Sain 51E, 1975)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.