Pwnco

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Pwnco yw’r ymryson ar gân a geir yn ystod defod y Fari Lwyd a defodau eraill sy’n rhan o’r traddodiad canu gwasael. Fel arfer roedd y canu yn gyfres o holi ac ateb, ac ynddo elfen gystadleuol gref, gyda’r sawl oedd y tu allan i’r tŷ yn herio’r rhai oedd oddi mewn nes bod un blaid yn trechu’r llall. Os byddai’r cwmni tu allan yn fuddugol, caent fynediad i’r tŷ, ond os trechid hwy gan y cwmni oddi mewn, gallent fethu cael mynediad. Fel arfer caent ddod i mewn beth bynnag fyddai canlyniad yr ymryson.

Roedd pwnco yn arbennig o gyffredin yn Sir Aberteifi yng nghyswllt defodau priodas. Byddai gwŷr y priodfab, sef gwŷr y ‘shigowt’ (seek-out), yn marchogaeth yn fore ar ddydd y briodas i gartref y briodferch i geisio mynd â hi i’r eglwys. Codid rhwystrau ar y ffordd, ac yna pan fyddent yn cyrraedd drws y tŷ byddai gofyn iddynt bwnco o flaen y drws gan ddefnyddio’r mesur triban, nes cael caniatâd i ddod i mewn. Nid holi ac ateb oedd natur y caneuon bob tro: ceid caneuon pos neu ganeuon gorchest hefyd. Enghraifft o gân bos sydd efallai’n gysylltiedig â phwnco priodas yw ‘Beth wneir â’r ferch benchwiban?’

Rhidian Griffiths



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.