R. G. Berry

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ganed y gweinidog annibynnol, awdur a dramodydd, Robert Griffith Berry, yn Llanrwst, Dyffryn Conwy ar 20 Mai 1869. Ar ôl gorffen ysgol, enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Bangor, lle’r aeth i gwblhau hanner cyntaf ei radd BA cyn mynd ymlaen i Goleg Bala-Bangor. Wrth astudio, bu’n ysgrifennu (dim ond yn Saesneg ar y pryd) ar gyfer cylchgrawn myfyrwyr a bu'n olygydd ar y cylchgrawn am dymor. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Jerwsalem, Gwaelod-y-garth ar 13 Rhagfyr 1896, a phriododd Hannah Watkins o Waelod-y-garth yn Awst 1903. Fe ddaeth Berry yn amlwg fel un o arloeswyr y ddrama Gymraeg, gyda dramâu megis Ar y Groesffordd (1914), Asgre Lân (1916), ac Y Ddraenen Wen (1922). Bu’n adnabyddus hefyd am gyfansoddi dramâu byrion.

Llyfryddiaeth

  • R. G. Berry, Ail-ddechrau, (Gwynedd, 19––). Dim dyddiad. [Drama]
  • R. G. Berry, Noson o Farrug, (Caerdydd, 1910). [Drama]
  • R. G. Berry, Ar y Groesffordd, (Caerdydd, 1914). [Drama]
  • R. G. Berry, Asgre lân, (Caerdydd, 1916). [Drama]
  • R. G. Berry, ‘Foreword’, yn William Evans, Dreams come true, (Pen-y-bont, 1916).
  • R. G. Berry, Y Ddraenen Wen, (Caerdydd, 1922). [Drama]
  • R. G. Berry, Dwywaith yn Blentyn, (Caerdydd, 1924). [Drama]
  • R. G. Berry, Yr Hen Anian, (Caerdydd, 1929). [Drama]
  • R. G. Berry, Y Llawr Dyrnu, (Aberystwyth, 1930). [Stori Fer]
  • R. G. Berry, ‘Y Ddrama Heddiw’, Tir Newydd, rhif 11, (Chwefror, 1938), tt. 5–8.

Amdano

  • ‘Llawr Dyrnu’, Y Brython, (1 Tachwedd 1923), t. 7
  • Huw Ethall, R. G. Berry, (Abertawe, 1985).
  • ‘Y Ddrama 1913–1936’, Barn, rhif 271, (Awst 1985), t. 295.
  • Emyr Edwards, ‘Pontiwr rhwng dau gyfnod’, Barn, rhif 386, (Mawrth 1995), Atodiad Theatr, tt. 33–35.
  • Don Llewellyn, ‘Y Parch. R. G. Berry (1869–1945) Capel Bethlehem, Gwaelod-y-garth, Pen-tyrch’, Y Casglwr, rhif 91 (Gaeaf 2007), 14–15.

Cyfeiriadau



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.