Rheolau McCarthy

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Y term a ddefnyddir ar lafar pan yn cyfeirio at y rheolau a bennwyd yn achos Metropolitan Board of Works –v- McCarthy [1874].

Mae’r rheolau yn cyfeirio at hawliau iawndal pan fod difrod yn effeithio ar ddaliad tir ond ble nad oes unrhyw dir gan yr hawlydd wedi cael ei atafaelu.

Cyfyd hyn mewn amgylchiadau pan fo:

a] Defnydd cyfreithiol ar bwerau statudol e.e. adeiladu ffyrdd neu reilffyrdd. b] Ble oni bai am y pŵer statudol y buasai hawl achos am iawndal. c] Rhaid i werth y tir fod wedi ei effeithio oherwydd ymyrraeth ffisegol. ch] Rhaid i’r niwed ddeillio o natur y gwaith datblygu ac nid oherwydd defnydd terfynol y datblygiad.


Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

Compulsory Purchase and Compensation, Barry Denyer Green, Estates Gazette, wythfed argraffiad, tudalen 403



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.