Rhyddfrydiaeth fodern

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Modern Liberalism)

Cyflwyno Rhyddfrydiaeth Fodern

Erbyn yr 1880au, roedd yn gynyddol amlwg bod rhai carfanau o fewn y traddodiad rhyddfrydol yn dymuno newid cyfeiriad gan ailddehongli rhai o ddadleuon craidd Rhyddfrydiaeth Glasurol. Yn gefndir i hyn, roedd datblygiad pellach cyfalafiaeth ddiwydiannol yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd rhai carfanau o fewn cymdeithas wedi llwyddo i elwa’n sylweddol yng nghanol berw’r Chwyldro Diwydiannol. Ar yr un pryd, arweiniodd at broblemau cymdeithasol difrifol. Daeth ffactorau fel tlodi, afiechydon, diffyg addysg ac amodau gwaith anodd yn fwyfwy amlwg. O ystyried difrifoldeb cynyddol y problemau hyn, roedd nifer cynyddol o ryddfrydwyr yn ei chael yn anodd amddiffyn rhai o’u rhagdybiaethau clasurol. Dechreuwyd holi i ba raddau yr oedd lles a rhyddid yr unigolyn yn cael ei hybu trwy fynnu y dylid sefyll yn ôl a gadael llonydd iddo a thrwy fynnu y dylai’r wladwriaeth ymatal rhag ymyrryd mewn meysydd fel addysg, amodau gwaith a gofal iechyd. Hybwyd y drafodaeth hon ymhellach gan ddatblygiad Sosialaeth a arweiniodd at ymwybyddiaeth gynyddol o arwyddocâd gwleidyddol gwahanol broblemau cymdeithasol ac economaidd. Yn y pen draw, arweiniodd y myfyrio hwn at ddatblygu ffrwd newydd o ryddfrydiaeth – Rhyddfrydiaeth Fodern (gweler Ryan 2012).

Nodweddion Allweddol Rhyddfrydiaeth Fodern

At ei gilydd, mae dadleuon Rhyddfrydwyr Modern yn tueddu i bwysleisio’r elfennau craidd o unigolyddiaeth gymdeithasol, rhyddid positif a gwladwriaeth ymyraethol.

Unigolyddiaeth Gymdeithasol

Mae Rhyddfrydwyr Modern wedi tueddu i ddehongli unigolyddiaeth mewn modd gwahanol iawn i Ryddfrydwyr Clasurol. Mae unigolyddiaeth gymdeithasol y garfan fodern yn parhau i bwysleisio arwyddocâd moesol yr unigolyn. Fodd bynnag, mae hwn yn ddehongliad o unigolyddiaeth sydd hefyd yn cydnabod arwyddocâd y cysylltiad rhwng bodau unigol ac unedau ehangach, fel y teulu, y gymdeithas a hyd yn oed y genedl. Cred Rhyddfrydwyr Modern fod medru manteisio ar y cysylltiadau hyn yn allweddol er mwyn i unigolion gael y cyfle i ddarganfod eu gwir gymeriad a chyflawni eu potensial.

Rhyddid Positif

Mae Rhyddfrydwyr Modern hefyd wedi tueddu i arddel dehongliad amgen o ystyr rhyddid. Disgrifir y dehongliad hwn fel rhyddid positif (Berlin 1969). Maent yn dadlau bod rhyddid yn galw am lawer mwy na dim ond diddymu rhwystrau gan adael llonydd i’r unigolyn. Yn hytrach, credant bod sicrhau gwir ryddid yn galw am greu amodau a fydd yn rhoi cyfle teg i’r unigolyn i ddatblygu ei alluoedd a’i ddealltwriaeth o’r byd o’i gwmpas, a thrwy hynny, cyflawni ei botensial fel person. Er mwyn creu amodau o’r fath, dadleuir y bydd angen cymryd cyfres o gamau cadarnhaol er mwyn sicrhau bod yr unigolyn yn cael y math o gyfleoedd cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol a fydd yn hwyluso ei ddatblygiad i fod yn berson annibynnol.

Gwladwriaeth Ymyraethol

Yn sgil y dehongliad newydd o ystyr rhyddid, mae Rhyddfrydwyr Modern hefyd wedi arddel syniadau gwahanol iawn ynglŷn â rôl briodol y wladwriaeth. Mynnwyd nad yw hi’n bosib creu’r amgylchiadau a fydd yn golygu bod gan bob unigolyn y rhyddid i ddatblygu a chyflawni ei botensial trwy ddibynnu ar wladwriaeth gyfyngedig iawn sydd ond yn canolbwyntio ar gadw’r heddwch. O ganlyniad, mae Rhyddfrydwyr Modern fel Keynes (1936) wedi galw am wladwriaeth sy’n barod i ymyrryd mewn gwahanol feysydd cymdeithasol (e.e. meysydd addysg a iechyd) a hefyd ymyrryd yn yr economi (e.e. trwy gynlluniau creu gwaith) er mwyn hybu llewyrch a chydraddoldeb cymdeithasol. Yn sgil hynny, bydd yn hybu rhyddid aelodau cymdeithas i fyw bywydau annibynnol.

Meddylwyr Rhyddfydol Modern Pwysig

Ffigwr a oedd yn allweddol i ddatblygiad y ffrwd fodern hon o ryddfrydiaeth gymdeithasol oedd T. H. Green (1836-1882). Dylanwadwyd ar Green (1997) gan waith blaenorol J. S. Mill (1859/2011), ond llwyddodd i ddatblygu ar y gwaith hwn gan arwain at raniad mwy pendant oddi wrth y traddodiad clasurol cynt. Ochr yn ochr â Green, gellid hefyd ystyried L. T. Hobhouse (1911/1964) fel un o ladmeryddion amlycaf y ryddfrydiaeth gymdeithasol newydd.

Gwelir pob un o’r elfennau allweddol a nodwyd uchod – yr unigolyddiaeth gymdeithasol, y dehongliad positif o ryddid a’r gred mewn gwladwriaeth ymyraethol – yn amlygu eu hunain yng ngwaith Green. Er enghraifft, pwysleisiodd Green fod cymdeithas yn llawer mwy na dim ond casgliad o unigolion hunangynhaliol heb unrhyw gyfrifoldeb tuag at eraill. Mynnodd ein bod yn greaduriaid cymdeithasol, sydd â chyfrifoldebau tuag at eraill. Ar ben hynny, Green oedd un o’r cyntaf i herio’r pwyslais rhyddfrydol clasurol ar ryddid negatif, gan ddadlau o blaid y dehongliad mwy positif. Dadleuodd nad oedd y dehongliad negatif yn rhoi digon o gyfle i bobl i ddatblygu a chyflawni eu potensial. Roedd yr anawsterau cymdeithasol a oedd yn nodweddu cymdeithasau diwydiannol y cyfnod yn tanseilio ymdrechion o’r fath. O ganlyniad, diystyr fyddai unrhyw ryddid nad oedd hefyd yn cymryd camau cadarnhaol i helpu pobl i ddygymod â’u problemau. Yng nhyb Green, yn pendraw roedd y dehongliad negatif yn gyfystyr â rhoi’r ‘rhyddid i’r unigolyn i lwgu’. Fodd bynnag, mae’r dehongliad positif o ryddid yn anelu at rymuso’r unigolyn a’i warchod rhag bygythiadau megis tlodi, afiechyd ac anwybodaeth.

Ymhellach, ar sail y pwyntiau hyn, dadleuodd Green y dylai rhyddfrydwyr gydnabod yr angen am wladwriaeth a oedd yn fwy parod i ymyrryd mewn gwahanol feysydd cymdeithasol er mwyn hybu rhyddid a chyfleoedd gwahanol bobl a hefyd er mwyn hybu lles y gymdeithas yn gyffredinol. Yn uchel ar ei restr o flaenoriaethau roedd mesurau i warchod iechyd a hefyd mesurau addysgiadol.

Yn ogystal â dangos bod angen i’r wladwriaeth ymyrryd a darparu cefnogaeth mewn meysydd cymdeithasol megis iechyd ac addysg, fel y gwnaeth Green, daeth y rhyddfrydwyr modern i ddadlau o blaid ymyrraeth yn yr economi hefyd. Yn ganolog i hyn roedd gwaith yr economegydd John Maynard Keynes (1883-1946). Roedd syniadau Keynes (1936) yn feirniadol o waith economegwyr clasurol megis Adam Smith (1776/2007) a’u pwyslais ar bolisïau laissez-faire. A siarad yn gyffredinol, tra roedd Smith ac eraill yn dadlau bod rhyddid a llewyrch economaidd yn dibynnu ar barodrwydd y wladwriaeth i gamu yn ôl yn llwyr o’r maes, roedd Keynes yn mynnu mai dim ond trwy gyfrwng ymyrraeth gan y wladwriaeth y gellid creu economi sefydlog a ffyniannus ac felly hybu’r syniad o ryddid positif.

Yn ôl Keynes (1936), dylai ymyrraeth y wladwriaeth gynnwys yr hyn a ddisgrifiwyd ganddo fel ‘demand management’. Golygai hyn bod y wladwriaeth yn mynd ati’n fwriadol i siapio’r economi gan ymateb yn gadarnhaol i broblemau megis diweithdra a dirwasgiad. Er enghraifft, mewn cyfnod o anhawster economaidd, gall y wladwriaeth roi hwb fawr i economi ardal benodol trwy adeiladu ysgol newydd. Byddai prosiect o’r fath yn arwain at gyflogi llu o adeiladwyr a chrefftwyr. Byddai hyn yn ei dro yn rhoi hwb i sectorau eraill o fewn yr economi gan fod y gweithwyr hyn yn gorfod gwario er mwyn prynu deunyddiau. Yn nhyb Keynes, byddai’r effaith hon, yn y pendraw, yn treiddio drwy’r economi’n gyffredinol.

Dylanwad Rhyddfrydiaeth Fodern

Fel y nodwyd, ffrwd o ryddfrydiaeth a ddaeth i amlygrwydd yn ystod y cyfnod rhwng y 1880au a’r 1920au oedd Rhyddfrydiaeth Fodern. Yn wir, byddai’r ffrwd hon yn datblygu i fod yn un arbennig o ddylanwadol ar draws y byd gorllewinol yn ystod yr ugeinfed ganrif, gan ddylanwadu’n sylweddol ar bolisïau cymdeithasol ac economaidd y mwyafrif o wladwriaethau. Er bod ei dylanwad wedi edwino tipyn dros y degawdau diwethaf, yn wyneb ymlediad neoryddfrydiaeth ers yr 1970au, mae Rhyddfrydiaeth Fodern yn parhau i gynrychioli ffrwd bwysig o feddwl o fewn y traddodiad rhyddfrydol.

Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Rhyddfrydiaeth: Ffrydiau Amrywiol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i addasu gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Llyfryddiaeth

Berlin, I. (1969). Four Essays on Liberty. (Oxford: Oxford University Press)

Green, T.H, (1997). The Works of Thomas Hill Green. (Bristol: Thoemmes Press)

Hobhouse, L.T. (1911/1964). Liberalism. (Oxford: Oxford University Press)

Keynes, J. (1936). The general theory of employment, interest, and money. (London: Macmillan)

Mill, J. S. (1859/2011). On Liberty. (Luton: Andrews UK)

Ryan, A. (2012). The Making of Modern Liberalism. (Princeton: Princeton University Press)

Smith, A. (1776/2007). The Wealth of the Nations. (Hampshire: Harriman House)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.