Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Richards, Brinley (1817-85)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Pianydd a chyfansoddwr a aned yng Nghaerfyrddin, yn fab i organydd eglwys a gwerthwr cerddoriaeth. Gyrfa feddygol a oedd wedi’i chynllunio ar gyfer Henry Brinley Richards, ond yn sgil llwyddiant yn [[Eisteddfod]] Gwent a Morgannwg yn 1834 rhoddodd y gorau i’r cwrs hwnnw ac ymuno â’r proffesiwn cerddoriaeth y rhoesai ei fryd arno.
+
Pianydd a chyfansoddwr a aned yng Nghaerfyrddin, yn fab i organydd eglwys a gwerthwr cerddoriaeth. Gyrfa feddygol a oedd wedi’i chynllunio ar gyfer Henry Brinley Richards, ond yn sgil llwyddiant yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Gwent a Morgannwg yn 1834 rhoddodd y gorau i’r cwrs hwnnw ac ymuno â’r proffesiwn cerddoriaeth y rhoesai ei fryd arno.
  
Yn 1835 aeth i’r Academi Gerdd Frenhinol, a oedd wedi’i sefydlu yn ystod y degawd blaenorol. Bryd hynny roedd yr Academi yn sefydliad llai o lawer nag y byddai’n ddiweddarach, a dibynnai hi a’i myfyrwyr ar nawdd gan uchelwyr. Sicrhaodd Brinley Richards nawdd gan Ddug Newcastle. Disgleiriai ymysg y myfyrwyr eraill ac enillodd gyfres o wobrau. Am gyfnod byr ar ôl gadael yr Academi astudiodd ym Mharis, lle bu’n cymysgu â rhai o’r cymeriadau cerddorol blaenllaw a weithiai yno, gan gynnwys Chopin. Ond buan y dychwelodd i Lundain i gymryd swydd fel athro yn yr Academi. Erbyn hynny, roedd yn adnabyddus fel pianydd (un hynod o feistrolgar yn ôl y sôn), ac oherwydd hynny ni fyddai byth yn brin o ddisgyblion yn yr Academi.
 
Er mai yn Llundain y treuliodd Brinley Richards
+
Er mai yn Llundain y treuliodd Brinley Richards dros hanner ei oes ac mai yno y bu farw, cadwodd gyswllt agos â Chymru. Gellid dweud iddo ddefnyddio’i gysylltiadau Cymreig er budd iddo’i hun, ond roedd ganddo wir gariad at ei wlad enedigol. Roedd yn aelod blaenllaw o’r Cymmrodorion ac yn feirniad cyson ar y cylch [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodol]]. Ailargraffwyd ei ''Songs of Wales'' (1873) bedair gwaith mewn chwe blynedd, ac roedd y rhagymadrodd, er bod ei gywirdeb hanesyddol yn ansicr, yn cynnwys datganiad pwysig ynglŷn â bywyd cerddorol Cymru a’i threftadaeth.
dros hanner ei oes ac mai yno y bu farw, cadwodd gyswllt agos â Chymru. Gellid dweud iddo ddefnyddio’i gysylltiadau Cymreig er budd iddo’i hun, ond roedd ganddo wir gariad at ei wlad enedigol. Roedd yn aelod blaenllaw o’r Cymmrodorion ac yn feirniad cyson ar y cylch [[eisteddfodol]]. Ailargraffwyd ei ''Songs of Wales'' (1873) bedair gwaith mewn chwe blynedd, ac roedd y rhagymadrodd, er bod ei gywirdeb hanesyddol yn ansicr, yn cynnwys datganiad pwysig ynglŷn â bywyd cerddorol Cymru a’i threftadaeth.
 
Ei gyfansoddiad enwocaf yw ‘God Bless the Prince of Wales’; ysgrifennwyd y geiriau Cymraeg, ‘Ar Dywysog Gwlad y Bryniau’, gan J. Ceiriog Hughes, a’r rhai Saesneg gan G. Linley. Fe’i perfformiwyd gyntaf gan yr unawdydd tenor enwog Sims Reeves yn Llundain ym mis Chwefror 1863, ac yn ddiweddarach yr un flwyddyn fe’i perfformiwyd ym mhriodas mab y Frenhines Victoria, Albert, Tywysog Cymru.
 
Y diwygiad cyfredol, am 19:04, 7 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Pianydd a chyfansoddwr a aned yng Nghaerfyrddin, yn fab i organydd eglwys a gwerthwr cerddoriaeth. Gyrfa feddygol a oedd wedi’i chynllunio ar gyfer Henry Brinley Richards, ond yn sgil llwyddiant yn Eisteddfod Gwent a Morgannwg yn 1834 rhoddodd y gorau i’r cwrs hwnnw ac ymuno â’r proffesiwn cerddoriaeth y rhoesai ei fryd arno.

Yn 1835 aeth i’r Academi Gerdd Frenhinol, a oedd wedi’i sefydlu yn ystod y degawd blaenorol. Bryd hynny roedd yr Academi yn sefydliad llai o lawer nag y byddai’n ddiweddarach, a dibynnai hi a’i myfyrwyr ar nawdd gan uchelwyr. Sicrhaodd Brinley Richards nawdd gan Ddug Newcastle. Disgleiriai ymysg y myfyrwyr eraill ac enillodd gyfres o wobrau. Am gyfnod byr ar ôl gadael yr Academi astudiodd ym Mharis, lle bu’n cymysgu â rhai o’r cymeriadau cerddorol blaenllaw a weithiai yno, gan gynnwys Chopin. Ond buan y dychwelodd i Lundain i gymryd swydd fel athro yn yr Academi. Erbyn hynny, roedd yn adnabyddus fel pianydd (un hynod o feistrolgar yn ôl y sôn), ac oherwydd hynny ni fyddai byth yn brin o ddisgyblion yn yr Academi.

Er mai yn Llundain y treuliodd Brinley Richards dros hanner ei oes ac mai yno y bu farw, cadwodd gyswllt agos â Chymru. Gellid dweud iddo ddefnyddio’i gysylltiadau Cymreig er budd iddo’i hun, ond roedd ganddo wir gariad at ei wlad enedigol. Roedd yn aelod blaenllaw o’r Cymmrodorion ac yn feirniad cyson ar y cylch eisteddfodol. Ailargraffwyd ei Songs of Wales (1873) bedair gwaith mewn chwe blynedd, ac roedd y rhagymadrodd, er bod ei gywirdeb hanesyddol yn ansicr, yn cynnwys datganiad pwysig ynglŷn â bywyd cerddorol Cymru a’i threftadaeth.

Ei gyfansoddiad enwocaf yw ‘God Bless the Prince of Wales’; ysgrifennwyd y geiriau Cymraeg, ‘Ar Dywysog Gwlad y Bryniau’, gan J. Ceiriog Hughes, a’r rhai Saesneg gan G. Linley. Fe’i perfformiwyd gyntaf gan yr unawdydd tenor enwog Sims Reeves yn Llundain ym mis Chwefror 1863, ac yn ddiweddarach yr un flwyddyn fe’i perfformiwyd ym mhriodas mab y Frenhines Victoria, Albert, Tywysog Cymru.

Cyfeiriwyd at ‘God Bless the Prince of Wales’ fel tystiolaeth nad oedd Brinley Richards yn fawr mwy na chynffonnwr a ddefnyddiai ei Gymreictod fel ffordd o ennill ffafr y crach yn Llundain. Nid yw hynny’n deg nac yn gywir. Mewn gwirionedd, roedd mor ddylanwadol ag unrhyw un o ran hyrwyddo cerddoriaeth a thraddodiadau Cymru ym mhrifddinas Prydain, ac nid oes amheuaeth ynglŷn â’i ddawn fel pianydd.

Trevor Herbert

Llyfryddiaeth

  • A. J. Heward Rees, ‘Henry Brinley Richards (1817-1885): A Nineteenth-Century Propagandist for Welsh Music’, Welsh Music History, 2 (1996), 173–92

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.