Seciwlareiddio

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Secularization)

Term a ddefnyddir ar gyfer y broses sy’n digwydd pan fydd cymdeithas yn trawsnewid o fod yn nodweddiadol grefyddol i fod yn annibynnol ar syniadaeth grefyddol yw seciwlareiddio. Cred rhai mai’r hyn a welir yw agweddau crefyddol yn colli eu grym wrth i gymdeithas ddatblygu drwy foderneiddio a rhesymoli. Mewn cymdeithasau seciwlar, mae llai o awdurdod gan gymunedau a sefydliadau ffydd. Un o’r cymdeithasegwyr cyntaf i grybwyll math o seciwlareiddio oedd Max Weber, a gyfeiriodd at resymoliaeth a ‘dadrithiad’ y byd modern. Dadleuodd fod yr Ymoleuo, â’i bwyslais ar wyddoniaeth ac athroniaeth, wedi cyfrannu at ehangu rhesymoliaeth a dadrithiad. Yn wreiddiol, gweld newid mewn credoau crefyddol a wnaeth (o Gatholigiaeth i Brotestaniaeth, er enghraifft), a’r gwahaniaeth rhwng cred grefyddol a bodolaeth feunyddiol. O ganlyniad i blwraliaeth a rhesymoliaeth, nid yw cymdeithas bellach yn unedig ar sail casgliad o gredoau penodol ac felly mae mwy o le i gwestiynu, herio a seciwlareiddio.

Yn ôl y cymdeithasegydd Dobbelaere (2002), mae modd deall seciwlareiddio mewn tair ffurf: seciwlareiddio cymdeithasol (lefel facro), seciwlareiddio sefydliadol (lefel feso) a seciwlareiddio unigol (lefel ficro). Ystyr seciwlareiddio cymdeithasol yw’r newid o fewn cymdeithas lle mae gafael crefydd benodol wedi llacio cryn dipyn. Effeithia hyn ar wahanol agweddau, gan gynnwys cyfraith, trefn, gwleidyddiaeth a moeseg. Mae seciwlareiddio sefydliadol yn ymwneud ag agweddau megis ffurfiau newydd o fynegiant crefyddol a/neu syniadaethol. Mewn modd tebyg, mae seciwlareiddio unigol yn arwydd fod yr awdurdodau crefyddol wedi colli rheolaeth dros gredoau, arferion ac egwyddorion yr unigolyn; gall unigolion feddwl mewn ffyrdd tra gwahanol i’r hyn a wnaed yn flaenorol.

Mae sawl un yn dadlau bod y broses o seciwlareiddio wedi cael ei gorliwio. Er enghraifft, honna rhai cymdeithasegwyr crefydd megis Grace Davie (2007) mai’r ffyrdd o fynegi crefydd, neu grefyddoldeb (religiosity), sydd wedi eu trawsnewid. Mae Davie yn dadlau nad yw pobl bellach yn mynychu gwasanaethau crefyddol fel yr oeddent yn arfer ei wneud yn y gorffennol ond nad yw hyn o reidrwydd yn adlewyrchu dirywiad mewn crefydd. Dyma beth mae Davie (2007) yn ei olygu gyda’i chysyniad o ‘gredu heb berthyn’ (‘believing without belonging’) ac mae’n honni bod hyn yn nodweddiadol iawn o gymdeithasau Ewropeaidd erbyn heddiw.

Er bod rhai’n tybio bod seciwlareiddio yn un o agweddau mwyaf nodedig moderneiddio, mae Brown (2001; 2006) yn honni bod seciwlareiddio wedi effeithio ar Gristnogaeth yn benodol yn fwy nag ar grefyddau eraill – yr hyn a elwir gan Brown yn ‘ddadgristioneiddio’ (de-Christianisation) cymdeithasau cyfoes, yn arbennig ar draws Prydain ac Ewrop. Yn wir, mae ystadegau’n dangos cynnydd mewn crefyddau eraill megis Islam, Hindŵaeth a Siciaeth yng Nghymru, yn ogystal ag unigolion yn dilyn crefyddau anhraddodiadol (Llywodraeth Cymru, 2015). Mae Almond (2003) hefyd yn trafod gafael ffwndamentaliaeth (fundamentalism) ar draws y byd, gyda chrefyddau megis Islam yn y Dwyrain Canol, Iddewiaeth yn Israel, a Christnogaeth yn UDA. Dengys hyn gyferbyniad â seciwlareiddio a’r modd y gall rhai crefyddau, hyd yn oed mewn oes gynyddol ‘seciwlar’, fel yr un yr ydym yn byw ynddi, ddal i fodoli ac ymlynu wrth hanfodion ffwndamentalaidd.

Gareth Evans-Jones

Llyfryddiaeth

Almond, G. (2003), Strong Religion: The Rise of Fundamentalisms Around the World (Chicago: University of Chicago Press).

Brown, C. (2001), The Death of Christian Britain: Understanding Secularisation 1800–2000 (London: Routledge).

Brown, C. (2006), Religion and Society in Twentieth-century Britain (Harlow: Pearson Education Limited).

Davie, G. (2007), The Sociology of Religion (London: SAGE Publications).

Dobbelare, K. (2002), Secularization: An Analysis at Three Levels (Brussels: P. I. E. Peter Lang).

Llywodraeth Cymru (2015), Ffocws Ystadegol ar Grefydd yng Nghymru (Caerdydd: Llywodraeth Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.