Simneiau to
Oddi ar WICI
Yn fras mae 2 gwahanol fath. Yn gyntaf dyma’r modd traddodiadol o drosglwyddo mwg a nwyon eraill o dannau agored wedi llosgi glo, golosg neu logiau pren. Mae angen i’r ffliwiau sydd yn arwain at y simnai fod a chapasiti llawer iawn mwy na simneiau o’r ail fath, sef y rhai hynny sydd yn trosglwyddo nwyon o offer gwresogi nwy. Mae rheoliadau adeiladu caeth ar y modd i ynysu simneiau er mwyn lleihau tebygolrwydd tân.
Owain Llywelyn
Llyfryddiaeth
“Construction Technology 1: House Construction”, Mike Riley ac Alison Cotgrave, Palgrave Macmillan, trydydd argraffiad, tudalennau 275 a 315
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.