Soned

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mesur ac iddo bedair llinell ar ddeg yw soned, a phob llinell ynddo yn ddecsill o ran hyd, ac iddo batrwm odli llawn. Y mesur iambig yw sylfaen fydryddol y soned. Ffurf fydryddol y mae ei tharddiad yn yr Eidal yw’r soned, a daw’r gair ‘soned’ ei hun o’r gair Eidaleg sonetto, sy’n golygu ‘canig fechan’. Cydnabyddir mai Francesco Petrarca (1304-74) a fu’n bennaf cyfrifol am sefydlu’r mesur yn un o brif fesurau barddoniaeth Ewrop, er bod beirdd eraill wedi arbrofi ac arloesi â’r mesur ryw ganrif o’i flaen ef. Serch hynny, Petrarca, gyda’i sonedau synhwyrus a theimladwy i Laura, oedd prif hyrwyddwr y mesur. Lluniodd Dante hefyd ei sonedau i Beatrice tua’r un adeg.

Cymerodd y mesur oddeutu canrif a hanner i gyrraedd Lloegr. Y beirdd Saesneg cyntaf i lunio sonedau oedd Syr Thomas Wyatt a Henry Howard, Iarll Surrey. Cyhoeddodd y ddau hyn gasgliad o gerddi ar y cyd, Songes and Sonnettes (1557). Dilyn esiampl Petrarca a wnaeth y ddau. Cyfieithodd Wyatt bymtheg o sonedau Petrarca i’r Saesneg, a chyfaddasodd saith o rai eraill. Mabwysiadwyd y ffurf gan nifer o feirdd Lloegr wedi i Thomas Wyatt a Henry Howard fraenaru’r tir ar eu cyfer, Edmund Spenser, er enghraifft, ac, yn bwysicach fyth, William Shakespeare, a roddodd stamp ei athrylith ef ei hun ar y mesur, yn ogystal â chyflwyno patrwm odli newydd, er nad Shakespeare ei hun a ddyfeisiodd y dull newydd hwn. Ceir tri phrif ddull o odli mewn soned, sef y dull Spenseraidd, y dull Petrarchaidd a’r dull Shakespearaidd, er y ceir amrywio ar drefn yr odlau mewn soned Betrarchaidd. Rhennir y mesur yn wythawd a chwechawd, a dyma ddull y soned Spenseraidd o odli: a/b/a/b, b/c/b/c, c/ch/c/ch, d/d. Mae’r dull Petrarchaidd o odli yn dilyn y rhaniadau hyn: a/b/b/a, a/b/b/a, c/ch/d/c/ch/d neu c/ch/c/ch/c/ch. Daeth Shakespeare â chryn dipyn o ryddid i’r mesur: a/b/a/b/, c/ch/c/ch, d/dd/d/dd, e/e.

Prin ryfeddol yw’r soned Spenseraidd yn y Gymraeg. Ni chydiodd o gwbwl yn nychymyg beirdd Cymru. Dyma enghraifft o soned Betrarchaidd, ‘Dafydd ab Edmwnd’ gan T. Gwynn Jones:


Garuaidd dad melysaf breugerdd dyn
   A didlawd feistr ei delediwaf iaith,
   Pan roddit dro, a’r fro gan Fai yn fraith,
Hyd las y lawnt lle bai dy lusael un,
I’w bagad ros tebygud rudd y fun,
   A’i hwyneb i ôd unnos mynydd maith;
   Neu frig yr hwyr, a’r gaea’n llwm a llaith,
Ba lys di-ail oedd ef, dy blas dy hun!
Datganai dy ddisgyblion wrth y tân
   Y feddal gerdd a fyddai ail y gwin,
A gwŷr a wyddai gamp y tannau mân
   Yn bwrw o’u bysedd bob rhyw ryfedd rin;
Tithau, aur enau’r iaith, pan ganit gân,
   Fel osai pêr diferai dros dy fin.


A dyma enghraifft o soned Shakespearaidd, ‘Mater Mea’, gan R. Wiliams Parry:


Pe’m rhoddid innau i orwedd dan y lloer
   Yn ddwfn, ddienw mewn anhysbys ro,
Cofiai fy nghyfaill am ei gyfaill oer
   Ar lawer hwyr myfyriol. Yn eu tro
Y telynorion am delynor mud
   Diwnient yn dyner ar alarus dant
Wrth gofio’i nwyd ddiffoddwyd cyn ei phryd,
   A’i alaw a ddistawodd ar ei fant.
Ond un yn llewygfeydd gwylfeydd y nos
   Ni chaffai ddim hyfrydwch yn ei fri,
Wrth wylo am ddwylo llonydd yn y ffos
   Ar ddwyfron lonydd dros dymhestlog li,
Gan alw drwy’r nos arw ar ei Christ,
Ac ar ei bachgen drwy’r dywarchen drist.


Yn Saesneg y lluniwyd y sonedau cyntaf gan Gymry, a chyhoeddwyd llawer ohonynt yn y papurau a’r cylchgronau Saesneg a gyhoeddid yng Nghymru yn y 19g. Un o’r Cymry hyn oedd Iolo Morganwg. Yn 1794 cyhoeddwyd ei Poems Lyrical and Pastoral, cyfrol ac ynddi wyth o sonedau. Yn The Cambrian yn 1804, cyhoeddwyd tair soned Saesneg gan dri bardd gwahanol, ac yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd The Bard of Snowdon: Poems, – Tales, Odes, Sonnetts, Translations from the British, Richard Llwyd, a cheir yn y gyfrol un soned Shakespearaidd. Yn 1833 y lluniwyd y soned Gymraeg gyntaf erioed, ‘Goleuni’ gan 'R.G.W.’, a gyhoeddwyd yn Y Drysorfa ym mis Chwefror y flwyddyn honno.

Ar drothwy’r 20g. ac ar ddechrau’r ganrif y dechreuodd y soned Gymraeg ddod i’w theyrnas. Lluniodd W. J. Gruffydd ei sonedau cyntaf ddiwedd 1899 neu ddechrau 1900, a phan gyhoeddwyd Telynegion gan R. Silyn Roberts a Gruffydd ar y cyd yn 1900, roedd tair soned gan Silyn yn y gyfrol. Roedd T. Gwynn Jones hefyd wedi llunio ei soned gyntaf cyn troad yr 20g., ac wedi cyhoeddi’r soned honno, ‘In Memoriam T. E. Ellis’, yn rhifyn 11 Ebrill, 1899, o’r Herald Cymraeg. Yn 1906, yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, y gosodwyd y gystadleuaeth gyntaf erioed i lunio soned, a bu’n gystadleuaeth reolaidd yn yr Eisteddfod Genedlaethol byth oddi ar hynny.

Yn ystod y 1930au y cafwyd rhai o sonedau grymusaf y Gymraeg gan dri phrif sonedwr y cyfnod, R. Williams Parry, T. H. Parry-Williams a Gwenallt. Bu cryn dipyn o arbrofi â’r soned o’r 1930au ymlaen, pan ddyfeisiwyd math arall o soned, sef y soned estynedig, neu’r soned ‘laes’, lle ceid llinellau hir, 13, 14, 15 o sillafau o ran hyd, ac odlau dwbwl bob yn ail linell. Oherwydd yr amrywiaeth rhithmau cyffrous a gynigid ganddi, y mae’r soned laes yn fesur poblogaidd o hyd gan y beirdd.

Alan Llwyd

Llyfryddiaeth

Jones, H. (1967), Y Soned Gynraeg hyd 1900 (Llandysul: Gwasg Gomer).

Llwyd, A. (gol.) (1980), Y Flodeugerdd Sonedau (Llandybïe: Gwasg Christopher Davies.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.