Stori dditectif

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ffuglen am ddatrys dirgelwch a dal troseddwr – llofrudd bron yn wastad. Creadigaeth Lloegr Oes Victoria yw’r ‘stori dditectif glasurol’ fel y’i gelwir weithiau, ac yn aml fe enwir The Moonstone (1868), Wilkie Collins, fel yr enghraifft lwyddiannus gyntaf. Cydiodd y diddordeb, ac yn A Study in Scarlet (1887) cyflwynodd Arthur Conan Doyle i’r byd y ditectif enwocaf oll, Sherlock Holmes. Ffynnodd y genre hyd y dydd hwn a dod yn boblogaidd iawn ar y teledu. Bu i’r math ‘clasurol’ ei gonfensiynau a’i ddeddfau anysgrifenedig, a oedd yn dal yn weithredol iawn yn nofelau Agatha Christie a Dorothy L. Sayers rhwng y ddau ryfel byd. Unwaith y darganfyddir y corff, eir ymlaen mewn cywair tawel, pwyllog, ymenyddiol gan roi cyfle i’r darllenydd adnabod y cliwiau yr un pryd â’r datgelwr, neu o’i flaen os gall. Ni roddir y ditectif ei hun mewn unrhyw berygl, ac anaml y codir dwrn. Nid oes golled fawr ar ôl y trancedig, ac nid edrychir ar y digwyddiadau fel trasiedi o gwbl. Rhagdybir gwerthoedd ceidwadol, confensiynol. Newidiodd hyn yn ddirfawr erbyn y down at storïau Georges Simenon a P. D. James.

Enwir Y Llaw Gudd, E. Morgan Humphreys (1924) fel y nofel dditectif gyntaf yn y Gymraeg. Yr un awdur biau Dirgelwch Gallt y Ffrwd, nofel afaelgar iawn o ran yr awyrgylch y mae’n ei greu, serch ei bod yn torri ambell un o reolau’r stori ‘glasurol’. Erbyn canol y ganrif daeth nifer o awduron eraill i ddarparu straeon – Stephen O. Tudor, George E. Breeze a Meuryn (R. J. Rowlands). Meistr y stori ddatgelu ymenyddiol Gymraeg yw John Ellis Williams, mewn cyfres o ddeg nofel gydag un ai yr Inspector Hopkyn neu’r plismon gwlad ymddeoledig, Parri, yn arwyr. Mewn cyferbyniad llwyr mae storïau Gari Tryfan gan Idwal Jones, cyfresi ar gyfer y radio yn wreiddiol, gyda’r pwyslais ar antur a chyffro, bygwth a pherygl. Teimlai’r awdur na weithiodd yr anturiaethau cystal mewn print, ac efallai ei fod yn iawn. Ond i’r rhai a all gofio darllediadau Awr y Plant, nos Fawrth ar Raglen Cymru ac yn dilyn Wil Cwac Cwac, yr oedd ‘SOS Galw Gari Tryfan’ yn un o brofiadau mawr bywyd.

Gall y datgelwr fod yn blismon wrth ei swydd, ond nid yw hynny’n ofynnol o bell ffordd. Cymeriadau am-mhlismonaidd i’r eithaf yw rhai o’r goreuon – Miss Marple ymddangosiadol ddiniwed, Father Brown yr offeiriad, Gervase Fen y darlithydd ecsentrig o Rydychen, Cadfael y mynach. Gweithredir mewn parau yn aml – Holmes a Watson, Gari ac Alec, Bowen a’i Bartner, Lord Peter Wimsey a Harriet, Cagney a Lacey, Rosemary a Thyme, Morse a Lewis.

Ymledodd y stori dditectif drwy’r byd gan roi inni, ymhlith eraill, yr ymchwilydd preifat Americanaidd fel yn nofelau Raymond Chandler, Ed McBain a Dashiell Hammett – yr ‘hard-boiled dick’ fel y gelwir ef weithiau; mae ei hoffter o lymaid, ei barodrwydd i dorri cornel a’i hiwmor sychlyd sinigaidd yn ei gyferbynnu’n amlwg â’r ditectif parchus Seisnig. Heddiw ar deledu mae mynd mawr ar ddatgelwragedd Llychlynig ac ar Montalbano o Ynys Sisili, ac yn ddiweddar ymwthiodd Mathias o Aberystwyth drwy’r Gwyll i’r cwmni hwn.

Dafydd Glyn Jones

Llyfryddiaeth

Williams, J[ohn]. E[llis]. (1963), ‘Gwaed yn fy Inc’, pennod o’i hunangofiant llenyddol Inc yn fy Ngwaed (Llandybie: Llyfrau’r Dryw), t. 122.

Jones, D. G. (1991), ‘Hen Lyfra Castia Mul’, Taliesin, 73, 64.

Maugham, W. S. (1967), ‘The Decline and Fall of the Detective Story’, Essays on Literature (Llundain: The New English Library a William Heinemann), t.151.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.