Strwythuraeth

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:05, 8 Ionawr 2018 gan RobertRhys (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae strwythuraeth yn seiliedig ar syniadau’r ieithydd o’r Swistir Ferdinand de Saussure (1857-1913), ac i raddau ar Ffurfiolwyr Rwsia; dechreuodd yn Ffrainc yn y 1950au gan ffynnu yno yn y 1960au, cyn cyrraedd Prydain a’r Unol Daleithau yn y 1970au. Cysylltir strwythuraeth ag enw Claude Lévi-Strauss (1908-2009) yr anthropolegydd, ac yn fwy perthnasol i astudiaethau llenyddol, ag enw Roland Barthes (1915-1980), er dylid nodi bod gweithiau diweddarach y ddau hyn (ar ôl tua 1968) yn perthyn i ôl-strwythuraeth. Yng nghyd-destun Cymru cyflwynodd R. M. (Bobi) Jones ‘fath o strwythuraeth unigryw i feirniadaeth Gymraeg cyn bod y ddysgeidiaeth honno wedi gwreiddio yn Lloegr a’r Unol Daleithiau’, yn ôl John Rowlands yn 1996. Felly er bod modd cyfrif R. M. (Bobi) Jones yn strwythurwr, nid ceisio cynnig crynodeb neu esboniad o waith strwythurwyr Ffrangeg a wnaeth ef. Roedd Saussure yn gyfrifol am chwyldro ym myd ieithyddiaeth trwy iddo fynnu gofyn sut mae iaith yn gweithio yn hytrach na sut datblygodd gwahanol ieithoedd dros amser. Ymwrthododd â ieithyddiaeth hanesyddol a chymharol y 19g. a’i phwyslais ar olrhain newidiadau ieithyddol dros amser (y wedd ddiacronig), gan ddadansoddi yn hytrach iaith fel ag y mae, h.y. mewn modd syncronig. Felly roedd yn trin iaith fel system neu fel strwythur. Poblogeiddiodd Saussure yr hen syniad mai hap a damwain neu gonfensiwn yn unig yw perthynas gair â’r peth y mae’n ei ddisgrifio. Does yna ddim rhesymeg, felly, nac unrhyw berthynas annatod y tu ôl i’r ffaith bod Lladin yn defnyddio’r gair ‘equus’ i ddisgrifio ceffyl, Ffrangeg yn defnyddio ‘cheval’ a Saesneg yn defnyddio ‘horse’. Pwysleisiodd Saussure nad oedd ystyr geiriau yn dibynnu ar eu perthynas gyda’r byd, ond yn hytrach ar eiriau eraill, sy’n cael eu hystyr trwy fod yn gyferbyniol, trwy fod yn wahanol i eiriau eraill. Mae ‘pen’, er enghraifft, yn ystyrlon yn y Gymraeg nid oherwydd bod gan y sain berthynas naturiol â’r gwrthrych a ddisgrifir, ond am fod modd clywed y gwahaniaeth rhwng y gair hwn a’r geiriau ‘llen’ neu ‘pell’. Mae unrhyw ddefnydd penodol o iaith - brawddeg, neu destun llenyddol dyweder, yn arddangos rheolau’r system. Term Saussure am y system o wrthgyferbyniadau oyw ‘langue’, a’i derm am ddefnydd neu enghraifft benodol o iaith yw ‘parole’. Cyfetyb y termau hyn i’r termau ‘tafod’ a ‘mynegiant’ a fathwyd gan R. M. (Bobi Jones). Yn ei waith ef tafod (langue) yw cyfundrefn hanesyddol yr iaith, neu ‘y patrymwaith o ffurfiau sydd eisoes ar gael ym meddwl llenorion’, a mynegiant (parole) yw'r defnydd diriaethol a wneir o iaith. Ef oedd yr unig un i theoreiddio’n ffurfiolaidd yng Nghymru, ond gan ddefnyddio’r term ‘adeileddeg’, fel y gwna John Rowlands yntau.

Roedd gan y syniad mai dim ond yn eu cyd-berthynas â phethau eraill y mae gan bethau ystyr apêl y tu allan i ieithyddiaeth; fe'i gwelwyd ym myd anthropoleg (Claude Lévi-Strauss) ac yym myd astudiaethau diwylliannol a beirniadaeth lenyddol (Roland Barthes). Er mwyn deall ystyr gwrthrych neu air rhaid gweld y peth o fewn cyd-destun y strwythur y mae’n rhan ohono. Er enghraifft mae gwisgo tei yn golygu rhywbeth os ydym yn ymwybodol o’r system arwyddwyr: gall olygu bod dyn sy’n gwisgo tei mewn rôl o awdurdod, neu o statws cymdeithasol uwch na dyn nad yw'n gwisgo tei. Ar y llaw arall gall olygu’r gwrthwyneb pan fo llond dosbarth o blant ysgol yn gwisgo tei a’r athro heb dei. Felly mae ystyr rhywbeth yn ddibynnol ar gyfundrefn, neu system, sydd yn fwy na'r peth ei hun. Cymhwysodd Claude Lévi-Strauss syniadau Saussure i astudio myth, gan ddangos bod rhaid deall pob myth unigol yn nhermau ei le yn y casgliad ehangach o fythau. Noder y symudiad o’r penodol i’r cyffredinol, sy’n nodweddiadol o strwythuraeth, ac yn un o’r pethau yr ymatebodd ôl-strwythuraeth yn ei erbyn, oherwydd gallai’r symudiad hwn esgor ar drafodaethau haniaethol iawn a oedd yn colli golwg ar unigrywedd testunau.

Aeth Roland Barthes i’r afael â diwylliant modern Ffrainc yn ei gyfrol Mythologies (1957). Ynddi cynigiodd ddadansoddiad arloesol o Ffrainc o safbwynt anthropolegydd diwylliannol, gan ddadansoddi diwylliant fel pe bai'n iaith. Wrth fynd i’r afael â ffenomenau diwylliannol hoelia sylw ar y confensiynau sydd wrth wraidd unrhyw ddiwylliant unigol. Ei fwriad oedd rhesymoli’r hyn sy’n cael ei gymryd yn ganiataol, neu ei ystyried yn ‘naturiol’, trwy ddangos bod ei ystyr yn cael ei greu gan amgylchiadau y traddodiad hanesyddol y mae’n perthyn iddo. Ymdriniodd â rhai eiconau Ffrengig fel y pryd bwyd steak frites, dyluniad y car Citroën, a thywyslyfrau’r gyfres boblogaidd y Guide bleu, gan ddadlau bod modd gweld y codau sylfaenol wrth graffu ar yr enghreifftiau unigol hyn o ddiwylliant. Dengys, er enghraifft, fod ystyr llawer llawnach i’r gair ‘vin’ (gwin) yn Ffrangeg na ‘sudd grawnwin wedi eplesu’, a’i fod yn awgrymu rhywbeth am y ffordd Ffrengig o fyw. Wrth grynhoi syniadau Barthes yn Mythologies (yn Sglefrio ar Eiriau) cyfeiria Jane Aaron at enghreifftiau o ddiwylliant Cymru, gan ddangos bod i’r gair ‘arad’ yng ngherdd Ceiriog ‘Yr Arad Goch’ ystyr amgenach na ‘peiriant i dorri’r tir’, a’i fod yn arwyddo yr hen ffordd Gymreig o fyw.

Yng nghyd-destun beirniadaeth lenyddol, cyflawnodd Barthes ddadansoddiad arloesol o stori fer Balzac ‘Sarrasine’ yn ei gyfrol S/Z (1970). Rhanna Barthes y stori yn 561 o ‘lexies’ neu unedau a gategoreiddir yn un o bum côd gwahanol, a’r codau hyn yn cynrhychioli y strwythur sylfaenol sy’n perthyn i bob naratif. Yr hyn a geir yma yw un enghraifft unigol o stori fer yn cael ei defnyddio, o’i dadansoddi, fel ffenest ar y system o godau sydd y tu hwnt i’r stori, ac yn ei gwneud yn bosib i’r stori weithio, neu fod ag ystyr. I Barthes y strwythur mawr sy’n creu’r ystyr a gynhyrchir gan unrhyw naratif penodol, yn yr un modd ag yn achos iaith, ble mae’r gramadeg (y system o reolau sylfaenol ac anhepgor) yn gyfrifol am gynhyrchu’r ystyr mewn unrhyw frawddeg benodol. Gellid dadlau nad oedd gwaith llenyddol yn ddim amgen na chasgliad o arwyddwyr i Barthes yn y cyfnod hwn.

Gwelir y cysylltiad rhwng strwythuraeth ac ôl-strwythuraeth wrth ystyried goblygiadau'r cysyniad bod iaith yn system a adeiladwyd ar hap a damwain. O dderbyn hyn, yna mae’n dilyn nad yw iaith yn adlewyrchiad o’r byd, ond yn hytrach yn system sy’n esblygu yn ôl ei rhesymeg ei hun a hynny ar wahan i’r byd go iawn. Felly mae unrhyw destun sy’n honni sôn am y byd go-iawn (neu ei gopïo) yn ei dwyllo’i hun. Pen draw hyn yw’r syniad bod iaith yn creu ein byd yn hytrach na chreu copi (cywir neu beidio) ohono, syniad y gellir ei olrhain i ddeialog Cratylus Platon. Daeth hwn yn ffasiynol eto yn yr ugeinfed ganrif ar ffurf hypothesis Sapir-Whorf .(Ceir esboniad o’r syniadaeth gan Jane Aaron yn Sglefrio ar Eiriau). Dechreuwyd cyfieithu gweithiau allweddol strwythuraeth i’r Saesneg yn y 1970au, gydag ysgolheigion o adrannau Ffrangeg megis Jonathan Culler hefyd yn dehongli a chyflwyno’r gweithiau i gynulleidfa ddi-Ffrangeg. Gwelir dylanwad strwythuraeth hefyd ar waith Michel Foucault, Jacques Lacan, Julia Kristeva a Louis Althusser. Yn y bôn nod beirniadaeth lenyddol strwythurol yw creu ffordd o ddadansoddi llenyddiaeth sy’n cyfateb i ffordd ieithyddiaeth fodern syncronig o astudio iaith.

Heather Williams

Llyfryddiaeth

Aaron, J. (1992), ‘Darllen yn groes i’r drefn’, yn Rowlands, J. (gol.), Sglefrio ar Eiriau (Llandysul: Gomer), tt. 63-83.

Barthes, R. (1993), Mythologies: A Roland Barthes Reader, gol. Susan Sontag (Llundain: Vintage).

Barthes, R. (1970) S/Z (Paris: Seuil).

Culler, J. (1975), Structuralist Poetics: Structuralism, Linguistics and the Study of Literature (Llundain: Routledge), argraffiad newydd 2002.

Culler, J. (1976), Saussure (Llundain: Fontana).

Culler, J. (1983) Barthes (Llundain: Fontana).

Culler, J. (gol.) (2006), Structuralism (Llundain: Routledge).

Hawkes, T. (1977) Structuralism and Semiotics (Llundain: Methuen).

James, E. H. (2006), ‘Darllen Bobi Jones’, yn Llenyddiaeth Mewn Theori, gol. Owen Thomas (>Caerdydd>: Gwasg Prifysgol Caerdydd), tt. 188-205.

Jefferson, A. (1982), ‘Structuralism and poststructuralism’, yn Modern Literary Theory: A Comparative Introduction, Jefferson, A. a Robey, D. (Llundain: Batsford), tt. 92-121.

Jones, R. M. (1990), ‘Dadadeiladu neu Dimothïeg’, Barddas, 162, 17-21.

Robey, D. (1982), ‘Modern linguistics and the language of literature’, yn Modern Literary Theory: A Comparative Introduction, Jefferson, A. a Robey, D. (Llundain: Batsford), tt. 46-72.

Rowlands, J. (1996), ‘Chwarae â chwedlau: cip ar y nofel Gymraeg ôl-fodernaidd’, Y Traethodydd, CLI, rhif 636 (Ionawr), 5-24.

Scholes, R. (1974), Structuralism in Literature: An Introduction (Newhaven: Yale University Press).

Sturrock, J. (1979), Structuralism and Since: From Lévi-Strauss to Derrida (Oxford: Oxford University Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.