Teipoleg

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Term sy’n perthyn i ysgolheictod Beiblaidd yw teipoleg. Cyfeiria at y dull o astudio a dehongli’r symbolau a geir yn y Beibl, yn benodol gwrth-deipiau (S. antitypes) (cymeriadau, digwyddiadau ac athrawiaethau) Cristnogol sy’n cael eu rhagfynegi, neu y gwelir cysgod ohonynt, mewn teipiau (S. types) yn yr Hen Destament. Er enghraifft, ystyrir bod Moses a Jona yn profi marwolaeth ac ailenedigaeth symbolaidd sy’n cael eu gwireddu ym marwolaeth ac atgyfodiad Crist.

Mewn cyd-destun llenyddol, defnyddiwyd teipoleg gan Northrop Frye yn y gyfrol ‘'The Great Code’’ er mwyn dehongli cyfeiriadaeth Feiblaidd amlhaenog amryw awduron hanesyddol a chyfoes. Yng Nghymru, gwelir dehongli teipolegol mewn trafodaethau ysgolheigaidd ar lenyddiaeth y Methodistiaid gan Derec Llwyd Morgan a Kathryn Jenkins, a hynny dan ddylanwad ysgolheictod Frye.

Cathryn A. Charnell-White

Llyfryddiaeth

Frye, N. (1982), The Great Code: The Bible and Literature (Toronto, Academic Press Canada).

Frye, N (1991), Words With Power: Being a Second Study of ‘the Bible and Literature’ (Efrog Newydd, Harvest Books).

Jenkins, K. (2011) gol. Rhidian Griffiths, Cân y Ffydd: Ysgrifau ar Emynyddiaeth (Caernarfon : Cymdeithas Emynau Cymru mewn cydweithrediad â Gwasg y Bwthyn).

Morgan, D.Ll. (1981), Y Diwygiad Mawr (Llandysul: Gwasg Gomer).

Morgan, D. Ll. (1998), Rhai Agweddau ar y Beibl a Llenyddiaeth Gymraeg (Llandysul: Gwasg Gomer).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.