Tir gwyn

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Term a ddefnyddir yn gyffredinol i gyfeirio at dir nad yw wedi ei ddatblygu [gweler diffiniad ‘datblygiad’ yn Adran 57 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990].

Fel arfer mae’r tir wedi ei leoli mewn ardaloedd gwledig ac nid yw wedi ei gynnwys mewn unrhyw argymhellion cynllunio penodol neu gyfeiriad o fewn Cynllun neu Fframwaith Datblygu.

Fodd bynnag, gall tir o’r math hwn feddu ar werth gobaith [hope value] lle buasai prynwr damcaniaethol yn fodlon talu premiwm [uwch na’r gwerth tir amaethyddol/tir comin] er mwyn adlewyrchu'r gobaith o sicrhau caniatâd cynllunio amgenach yn y dyfodol.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

https://www.planningportal.co.uk/directory_record/592/white_land

“The Glossary of Property Terms”, Estates Gazette, argraffiad 1993, tudalen 196



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.