Tlodi

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Poverty)

Mae tlodi’n disgrifio’r sefyllfa pan mae eich adnoddau yn llawer llai na’ch anghenion sylfaenol (JRF, 2021). Yn fwy manwl, gall olygu:

"not being able to heat your home, pay your rent, or buy the essentials for your children. It means waking up every day facing insecurity, uncertainty, and impossible decisions about money. It means facing marginalisation – and even discrimination – because of your financial circumstances. The constant stress it causes can lead to problems that deprive people of the chance to play a full part in society" (JRF, 2021).

Gellir diffinio a chategoreiddio tlodi mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys: tlodi cymharol, tlodi absoliwt, amddifadedd materol, amddifadedd a thlodi mewn gwaith.

Yn 2020, yn y Deyrnas Unedig, roedd tua 25% o oedolion a 14% o blant yn byw mewn tlodi cymharol (roedd eu hincwm yn llai na 60% o’r cyfartaledd, DWP 2020). Fodd bynnag, yn 2021 roedd y Resolution Foundation yn rhag-weld y byddai cyfradd tlodi plant tua 33.7% erbyn 2024–25, gan nodi toriadau i budd-daliadau fel yr achos (Resolution Foundation, 2021). Canfu’r astudiaeth o dlodi mewn gwaith gan Hick a Lanau (2018) fod 60% o’r bobl sy’n byw mewn tlodi hefyd yn byw mewn cartrefi sy’n gweithio, gan wneud tlodi mewn gwaith yn un o’r ffurfiau ar dlodi sy’n cynyddu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig. Dangoswyd bod dosbarthiad daearyddol tlodi yn adlewyrchu’r anghydraddoldebau cynyddol rhwng grwpiau o wahanol ethnigrwydd, rhywedd, oedran a dosbarth.

O ran gwahaniaethau datganoledig, yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, rhwng 2017 a 2020 roedd 23% o holl bobl Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 22% yn Lloegr, 19% yn yr Alban a 18% yng Ngogledd Iwerddon dros yr un cyfnod (Llywodraeth Cymru, 2020a).

O ran ymatebion llywodraeth y Deyrnas Unedig i dlodi, rhwng 1997 a 2010 roedd hyn yn cynnwys gwariant cynyddol ar les a budd-daliadau; isafswm cyflog; polisïau i hybu’r farchnad lafur; mwy o wariant ar iechyd ac addysg; ymyrraeth mewn plentyndod cynnar a pholisïau’n seiliedig ar y Fargen Newydd ar gyfer Cymunedau. Yn ystod y 2010au, roedd mesurau llymder (austerity) yn cael eu gweithredu yn y Deyrnas Unedig, ac achosodd hyn gynnydd digynsail yn y defnydd o fanciau bwyd, digartrefedd a chysgu ar y stryd, gostyngiad mewn disgwyliad oes a system gymorth gyfreithiol sydd wedi dirywio (Vizard a Hills, 2021). Ochr yn ochr â hyn, cafwyd diwygiadau i’r system lles, a osododd sancsiynau llymach ar amodaeth (conditionality) hawlio budd-daliadau, gan effeithio’n fwyaf arbennig ar bobl dros 65 oed, rhieni sengl a phobl ifanc. Gwaethygodd effeithiau anghydraddoldebau yn sgil pandemig Covid-19, gyda chyfraddau marwolaeth o ganlyniad i Covid-19 ddwywaith yn uwch yn ardaloedd tlotaf y Deyrnas Unedig rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020 (ONS, 2020)

Yng Nghymru gweithredwyd rhaglen tlodi flaengar Llywodraeth Cymru, Cymunedau yn Gyntaf (Communities First), mewn sawl ffurf am dros 17 mlynedd rhwng 2001 a 2018. Defnyddiai’r rhaglen ddull <oowiki>datblygu</nowiki. cymunedol o ddelio ag effeithiau tlodi ochr yn ochr â rhaglenni â mwy o ffocws, fel Dechrau’n Deg (Flying Start), Cymunedau am Waith a Chymunedau 2.0. Er bod mwy o dlodi yng Nghymru na gwledydd eraill y Deyrnas Unedig yn hanesyddol, mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi ceisio mynd i’r afael â thlodi yn uniongyrchol, yn hytrach na thrwy adran neu grŵp targed. Un esiampl ddiweddar yw fod Llywodraeth Cymru, ar ôl ennill mwyafrif yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021, wedi creu rôl Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (Jane Hutt oedd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol cyntaf) gyda chyfrifoldeb am ‘[g]ydlynu mesurau trawsbynciol i hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi ... [a T]hlodi Plant’ (Llywodraeth Cymru, 2021). Yn 2021, roedd yna hefyd Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Tai a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth yr Alban. Doedd yna ddim rôl gyfatebol yn Lloegr yn 2021, sy’n pwysleisio’r ideoleg wleidyddol wahanol yn y gwledydd datganoledig o ran tlodi. Yn ogystal, fel Llywodraeth yr Alban, mae Llywodraeth Cymru (2020b) wedi cyflwyno’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol (Socio-economic Duty) ar gyfer cyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i’r rheini sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol. Nid yw Llywodraeth San Steffan wedi cyflwyno’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ar gyfer cyrff cyhoeddus penodedig yn Lloegr.

Yn ogystal, mae Sefydliad Joseph Rowntree wedi archwilio tlodi yng Nghymru cyn pandemig y coronafeirws ac yn ystod y pandemig (Sefydliad Joseph Rowntree, 2020). Un o nifer o awgrymiadau’r adroddiad oedd canolbwyntio’n benodol ar ardaloedd y cymoedd yn ogystal ag ardaloedd gwledig Cymru.

Mae adroddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, An Introduction to Rural Poverty (2016), yn trafod y gwahaniaeth rhwng tlodi gwledig (rural poverty) a thlodi trefol (urban poverty) yng Nghymru.

Mae Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges (2021) yn edrych yn fanwl ar anghydraddoldebau cymdeithasol a thlodi yng Nghymru yn yr e-lyfr, Anghydraddoldebau Cymdeithasol.

Sioned Pearce

Llyfryddiaeth

Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (2016), Rural Poverty in Wales: Existing Research and Evidence Gaps, https://www.wcpp.org.uk/wp-content/uploads/2018/04/An-introduction-to-Rural-Poverty.pdf [Cyrchwyd: Gorffennaf 2021].

DWP (2021), Households below average income: for financial years ending 1995 to 2020, www.gov.uk/government/statistics/households-below-average-income-for-financial-years-ending-1995-to-2020 [Cyrchwyd: Gorffennaf 2021].

Hick, R. a Lanau, A. (2018), ‘Moving In and Out of In-work Poverty in the UK: An Analysis of Transitions, Trajectories and Trigger Events’, Journal of Social Policy, https://doi.org/10.1017/S0047279418000028.

JRF (2021), What is Poverty? www.jrf.org.uk/our-work/what-is-poverty [Cyrchwyd: Gorffennaf 2021].

Llywodraeth Cymru (2020a), Relative income poverty: April 2019 to March 2020, https://gov.wales/relative-income-poverty-april-2019-march-2020-html [Cyrchwyd: Gorffennaf 2021].

Llywodraeth Cymru (2020b), Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol: trosolwg, https://llyw.cymru/dyletswydd-economaidd-gymdeithasol-trosolwg [Cyrchwyd: 24 Mai 2022].

Llywodraeth Cymru (2021), Jane Hutt MS. https://llyw.cymru/jane-hutt [Cyrchwyd: Gorffennaf 2021].

ONS (2020), Deaths involving COVID-19 by local area and socioeconomic deprivation. www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/birthsdeathsandmarriages/deaths/bulletins/deathsinvolvingcovid19bylocalareasanddeprivation/deathsoccurringbetween1marchand31july2020 [Cyrchwyd: Gorffennaf 2021].

Prys, C. a Hodges, R. (2021), Anghydraddoldeb Cymdeithasol. https://adnoddau.s3.eu-west-2.amazonaws.com/PAAC/Anghydraddoldeb+Cymdeithasol.pdf [Cyrchwyd: Gorffennaf 2021].

Resolution Foundation. (2021), The Living Standards Outlook. www.resolutionfoundation.org/publications/the-living-standards-outlook-2021/ [Cyrchwyd: Gorffennaf 2021].

Sefydliad Joseph Rowntree, (2020) Papur Briffio: Tlodi yng Nghymru 2020. https://www.jrf.org.uk/file/56861/download?token=MNgDh6g5&filetype=crynodeb [Cyrchwyd: Gorffennaf 2021].

Vizard, P. a Hills, J. (goln.) (2021) The Conservative Governments’ Record on Social Policy from May 2015 to pre-COVID 2020: Policies, spending and outcomes. (Llundain: LSE’s Social Policies and Distributional Outcomes in a Changing Britain Series)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.