Torlannol
(Saesneg: riparian)
Nodwedd sydd i’w chanfod ar lannau’r afon neu sydd yn perthyn iddynt. Er enghraifft, mae’n arferol i gyfeirio at yr ardaloedd o dir sydd wedi eu lleoli ar lannau’r afon yn barthau torlannol (riparian zones) a llystyfiant sydd yn tyfu ar lannau’r afon fel llystyfiant torlannol (riparian vegatation). Mae cyflwr y parth torlannol yn bwysig iawn i sefydlogrwydd glannau’r afon, i safon cynefinoedd afonol, ac felly’n ganolbwynt ar gyfer rheolaeth afonol yn y mannau lle mae newidiadau mewn defnydd tir wedi achosi newidiadau hydrolegol a dyddodol yn y tirlun ehangach. Yn yr achos yma, mae’r parth torlannol yn ymddwyn fel cyswllt rhwng y dalgylch afon a’r sianel.
Gall y parth torlannol effeithio ar safon dŵr, yn enwedig y llif trostir a’r dŵr daear sydd yn llifo dros a thrwy briddoedd y parth. Gall porfa a choedwigoedd echdynnu maetholynnau sydd â lefelau rhy uchel o gemegau fel Nitrogen, sydd efallai wedi deillio o orddefnyddio gwrtaith, a fyddai fel arall wedi llifo i mewn i’r afon. Gall parthau torlannol fod yn ardaloedd pwysig iawn o ran cynefinoedd yn ogystal, trwy fod yn llwybrau ar gyfer symudiad anifeiliaid, ac yn amgylchedd o brydferthwch a defnydd hamdden ac adloniant.
Gall llystyfiant y parth torlannol hefyd reoli safon y cynefinoedd o fewn y sianel. Gall y parth torlannol ryddhau maetholynnau organig gwerthfawr i mewn i’r sianel a fydd yn medru cynnig maeth i’r ecosystem afonol. Yn ogystal, gall coed a llwyni gynnig cysgod i bysgod ac anifeiliaid wrth ochr y glannau, a sicrhau bod ardaloedd o dymheredd isel ar gael yn ystod yr haf. Gall llystyfiant y dorlan hefyd sefydlogi glannau’r afon mewn rhai achosion, a chyfrannu darnau mawr o ddeunydd organig (e.e. canghennau mawrion) i mewn i’r afon. Gall rhain wedyn rwystro llif ar adegau, gan gynnig amrywiaeth bellach o ran cynefinoedd.
Llyfryddiaeth
- Dunkerley, D.L. (2000) Riparian, yn Thomas, D.G. a Goudie, A. (Gol) The Dictionary of Physical Geography, Blackwell, Rhydychen, t. 413.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.