Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Triban"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Triban''' Pennill pedair llinell sy’n cynnwys tair odl neu linell (‘ban’) ac odl gyrch rhwng diwedd y drydedd linell a chanol y nesaf, fel y...')
 
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Triban'''
+
__NOAUTOLINKS__
 +
Pennill pedair llinell sy’n cynnwys tair odl neu linell (‘ban’) ac odl gyrch rhwng diwedd y drydedd linell a chanol y nesaf, fel yn y pennill:
  
Pennill pedair llinell sy’n cynnwys [[tair]] odl neu linell (‘ban’) ac odl gyrch rhwng diwedd y drydedd linell a chanol y nesaf, fel yn y pennill:
+
:Os ffaelis yn fy amsar
  
Os ffaelis yn fy amsar
+
:Gael tyddyn wrth fy mhlesar,
Gael tyddyn wrth fy mhlesar,
 
Pan af i fynwant Aberdâr
 
Caf yno siâr o’r ddaear.
 
  
Mae’r englyn cyrch, enw arall ar y triban, yn un o’r mesurau a restrwyd gan Einion Offeiriad yn yr adran ar fesurau cerdd dafod yn y gramadeg barddol a luniodd oddeutu 1330. Er mai dogfen a luniwyd ar gyfer y beirdd swyddogol oedd y gramadeg, ymddengys nad oedd rhyw dynfa arbennig at y mesur yn ystod y canrifoedd dilynol. Yn wir, mynnir mewn un fersiwn na ddylai’r prydydd arfer yr englyn cyrch ‘rac y hawsset a’y vyrret’ (am ei fod mor syml ac mor fyr). Mewn awdlau enghreifftiol y gwelir y mesur fel arfer. Fe’i defnyddiwyd, fodd bynnag, gan feirdd is eu statws, a hynny ym mhob rhan o Gymru. Collwyd llawer yn ddiau, ond ar sail yr hyn a ddiogelwyd ymddengys fod canu ar y mesur yn gysylltiedig â defodau ac arferion megis y Fari Lwyd, y canu tan bared a’r canu i’r ychen. Defnyddiwyd y mesur yn ‘Y Dioddefaint’ ac yn ‘Y Tri Brenin o Gwlen’, dwy o’r dramâu moes a luniwyd o bosibl yn y 15g., a rhoddwyd [[lle]] blaenllaw iddo yn yr anterliwtiau maes o law, yn enwedig yn y gweithiau a luniwyd gan Dwm o’r Nant a Huw Jones o Langwm ac eraill yn ail hanner y 18g. Ac er mai ar alawon poblogaidd, llawer wedi dod o Loegr, y seiliwyd y rhan fwyaf o’r cerddi a argraffwyd yn y llyfrau baledi yn yr un ganrif, gwnaed defnydd rheolaidd o fesur brodorol megis yr englyn cyrch hefyd. Ni ddefnyddiwyd y mesur yn helaeth gan y Cwndidwyr, dosbarth o feirdd a ganai ym Morgannwg yn yr 16g. a’r 17g., ond daeth yn hynod boblogaidd yn y sir o ddiwedd y 18g. ymlaen, cymaint felly nes yr adwaenir y mesur bellach wrth yr enw ‘Triban Morgannwg’. Y mae llunio triban, neu gyfres o dribannau, yn her a osodir yn fynych mewn talwrn ac ymryson heddiw, ac mewn cystadlaethau yn adran lenyddol yr eisteddfod genedlaethol.
+
:Pan af i fynwant Aberdâr
 +
 
 +
:Caf yno siâr o’r ddaear.
 +
 
 +
Mae’r englyn cyrch, enw arall ar y triban, yn un o’r mesurau a restrwyd gan Einion Offeiriad yn yr adran ar fesurau cerdd dafod yn y gramadeg barddol a luniodd oddeutu 1330. Er mai dogfen a luniwyd ar gyfer y beirdd swyddogol oedd y gramadeg, ymddengys nad oedd rhyw dynfa arbennig at y mesur yn ystod y canrifoedd dilynol. Yn wir, mynnir mewn un fersiwn na ddylai’r prydydd arfer yr englyn cyrch ‘rac y hawsset a’y vyrret’ (am ei fod mor syml ac mor fyr). Mewn awdlau enghreifftiol y gwelir y mesur fel arfer. Fe’i defnyddiwyd, fodd bynnag, gan feirdd is eu statws, a hynny ym mhob rhan o Gymru. Collwyd llawer yn ddiau, ond ar sail yr hyn a ddiogelwyd ymddengys fod canu ar y mesur yn gysylltiedig â defodau ac arferion megis y Fari Lwyd, y canu tan bared a’r canu i’r ychen. Defnyddiwyd y mesur yn ‘Y Dioddefaint’ ac yn ‘Y Tri Brenin o Gwlen’, dwy o’r dramâu moes a luniwyd o bosibl yn y 15g., a rhoddwyd lle blaenllaw iddo yn yr anterliwtiau maes o law, yn enwedig yn y gweithiau a luniwyd gan Dwm o’r Nant a Huw Jones o Langwm ac eraill yn ail hanner y 18g. Ac er mai ar alawon poblogaidd, llawer wedi dod o Loegr, y seiliwyd y rhan fwyaf o’r cerddi a argraffwyd yn y llyfrau baledi yn yr un ganrif, gwnaed defnydd rheolaidd o fesur brodorol megis yr englyn cyrch hefyd. Ni ddefnyddiwyd y mesur yn helaeth gan y Cwndidwyr, dosbarth o feirdd a ganai ym Morgannwg yn yr 16g. a’r 17g., ond daeth yn hynod boblogaidd yn y sir o ddiwedd y 18g. ymlaen, cymaint felly nes yr adwaenir y mesur bellach wrth yr enw ‘Triban Morgannwg’. Y mae llunio triban, neu gyfres o dribannau, yn her a osodir yn fynych mewn talwrn ac ymryson heddiw, ac mewn cystadlaethau yn adran lenyddol yr eisteddfod genedlaethol.
  
 
'''Cynfael Lake'''
 
'''Cynfael Lake'''
Llinell 19: Llinell 21:
 
{{CC BY-SA}}
 
{{CC BY-SA}}
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
 
[[Categori:Beirniadaeth a Theori]]
 +
[[Categori:Cerdd Dafod]]

Y diwygiad cyfredol, am 13:33, 13 Medi 2018

Pennill pedair llinell sy’n cynnwys tair odl neu linell (‘ban’) ac odl gyrch rhwng diwedd y drydedd linell a chanol y nesaf, fel yn y pennill:

Os ffaelis yn fy amsar
Gael tyddyn wrth fy mhlesar,
Pan af i fynwant Aberdâr
Caf yno siâr o’r ddaear.

Mae’r englyn cyrch, enw arall ar y triban, yn un o’r mesurau a restrwyd gan Einion Offeiriad yn yr adran ar fesurau cerdd dafod yn y gramadeg barddol a luniodd oddeutu 1330. Er mai dogfen a luniwyd ar gyfer y beirdd swyddogol oedd y gramadeg, ymddengys nad oedd rhyw dynfa arbennig at y mesur yn ystod y canrifoedd dilynol. Yn wir, mynnir mewn un fersiwn na ddylai’r prydydd arfer yr englyn cyrch ‘rac y hawsset a’y vyrret’ (am ei fod mor syml ac mor fyr). Mewn awdlau enghreifftiol y gwelir y mesur fel arfer. Fe’i defnyddiwyd, fodd bynnag, gan feirdd is eu statws, a hynny ym mhob rhan o Gymru. Collwyd llawer yn ddiau, ond ar sail yr hyn a ddiogelwyd ymddengys fod canu ar y mesur yn gysylltiedig â defodau ac arferion megis y Fari Lwyd, y canu tan bared a’r canu i’r ychen. Defnyddiwyd y mesur yn ‘Y Dioddefaint’ ac yn ‘Y Tri Brenin o Gwlen’, dwy o’r dramâu moes a luniwyd o bosibl yn y 15g., a rhoddwyd lle blaenllaw iddo yn yr anterliwtiau maes o law, yn enwedig yn y gweithiau a luniwyd gan Dwm o’r Nant a Huw Jones o Langwm ac eraill yn ail hanner y 18g. Ac er mai ar alawon poblogaidd, llawer wedi dod o Loegr, y seiliwyd y rhan fwyaf o’r cerddi a argraffwyd yn y llyfrau baledi yn yr un ganrif, gwnaed defnydd rheolaidd o fesur brodorol megis yr englyn cyrch hefyd. Ni ddefnyddiwyd y mesur yn helaeth gan y Cwndidwyr, dosbarth o feirdd a ganai ym Morgannwg yn yr 16g. a’r 17g., ond daeth yn hynod boblogaidd yn y sir o ddiwedd y 18g. ymlaen, cymaint felly nes yr adwaenir y mesur bellach wrth yr enw ‘Triban Morgannwg’. Y mae llunio triban, neu gyfres o dribannau, yn her a osodir yn fynych mewn talwrn ac ymryson heddiw, ac mewn cystadlaethau yn adran lenyddol yr eisteddfod genedlaethol.

Cynfael Lake

Llyfryddiaeth

Tribannau Morgannwg, gol. Tegwyn Jones (Llandysul, 1976)

Alan James, ‘Y triban, y cathreiwr a’r hynafiaethydd’, Y Traethodydd, 1996, 137–59.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.