Tystysgrif derfynol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Dogfen sydd yn cofnodi cwblhau cytundeb adeiladu. Mewn amgylchiadau syml, fe’i cyflwynir ar yr un pryd a phan fo’r dystysgrif sydd yn rhestru diffygion y bydd angen gwneud iawn iddynt.

Weithiau fodd bynnag, oherwydd efallai addasiadau a wnaethpwyd yn ystod y rhaglen adeiladu mae’n briodol cyflwyno hawliadau am ‘bethau ychwanegol’ neu ostyngiad ym mhris y cytundeb.

Rhaid i’r rhain gael eu cytuno gan y syrfëwr meintiau a’r contractwr cyn bod y pensaer yn cyflwyno ei dystysgrif derfynol.


Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

Construction Contract Law, John Adriaanse, Palgrave Macmillan, trydydd argraffiad, tudalennau 137,148-151,153-154 a 309



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.