Warlock, Peter (1894-1930)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr, golygydd a cherddolegwr. Ganed Philip Arnold Heseltine (neu Peter Warlock) yng ngwesty’r Savoy, ond bu farw ei dad, Arnold Heseltine, cyfreithiwr, pan oedd yn ddwy oed, a phriododd ei fam, Edith Covernton, merch i feddyg a fagwyd yn Nhrefyclo, â Walter Buckley-Jones o Neuadd Cefn Bryntalch, Aber-miwl, yn 1903. Dysgodd Gymraeg iddo’i hun, rhoddodd ‘Ar hyd y nos’ a ‘Llwyn Onn’ ar raglenni pan oedd yn ddisgybl yng Ngholeg Eton (1908-11), ac ymfalchïai mai erthygl yn disgrifio Rheilffordd y Fan oedd y gyntaf a gyhoeddwyd ganddo (1912). Ysbrydolwyd y pedwerydd o’i bump Folk Song Preludes ar gyfer y piano (1923) gan ‘Tros y garreg’.

Ar ôl gwrthod gyrfaoedd confensiynol, gan gynnwys y Gwasanaeth Sifil a lle yng nghwmni broceriaid stoc teulu Heseltine, rhoddodd y gorau i’w astudiaethau yng ngholeg Christ Church, Rhydychen (1913-14), a Choleg y Brifysgol, Llundain (1914), i adolygu cyngherddau ar gyfer y Daily Mail (1915). Gyda Minnie Lucy Channing, model artistiaid a arddelai’r llysenw Puma, bu’n byw ym Mhorthcothan, Cernyw. (Roedd D. H. Lawrence yn byw yno hefyd.) Priodasant ar 22 Rhagfyr 1916, ond roedd Heseltine ar ei ben ei hun eto erbyn Ebrill 1917, yn dysgu Cernyweg yn Zennor ac yn gosod dwy garol Gernyweg gan yr ysgolor Celtaidd Henry Jenner (1848-1934). Poenai Warlock am orfodaeth filwrol a symudodd i Ddulyn, lle cyfarfu â George William Russell (Æ) a W. B. Yeats, ac i Achill Beg, Swydd Mayo, lle bu’n dysgu Gwyddeleg gyda Francis Power (An Paorach) ac yn astudio hud a lledrith.

Ar ôl dychwelyd i Ddulyn, arbrofodd ag ysgrifennu awtomatig gyda’r cyfryngwr ysbrydol Hester Dowden (1868–1949), gan ysgrifennu deg o ganeuon mewn pythefnos, rhai a gyhoeddwyd gan Winthrop Rogers dan y ffugenw Peter Warlock (1918). Ar ôl dysgu Llydaweg yng Ngharnac a Quimper (1921), cyflawnodd ei waith cerddorol ac ysgolheigaidd mwyaf arwyddocaol yng Nghefn Bryntalch rhwng 1921 ac 1924: gweithiau i’r llais yn cynnwys The Curlew, Lillygay, Candlelight, Sleep, Late summer, Autumn twilight a Captain Stratton’s fancy; y Serenade i offerynnau llinynnol; trawsgrifiadau o 300 o alawon o gyfnod Elisabeth I a’r cyfnod Jacobeaidd; a bywgraffiad o Frederick Delius (1862-1934), ei fentor ers 1911. Bu’r cyfansoddwr Hwngaraidd Béla Bartók (1881-1945), y cyfarfu ag ef ym Mudapest yn 1921, yn aros gydag ef ar ôl datganiad yn Aberystwyth ym mis Mawrth 1922.

Bu’n rhannu bwthyn yn Eynsford, Caint, gydag E. J. Moeran a Hal Collins (1925–8). Roedd pentrefwyr yn cofio cegin yn boddi mewn cwrw, ond roedd yn dal i greu, gan ysgrifennu ei sgôr fwyaf adnabyddus, Capriol Suite, a The English Ayre (1926). Bu’n byw yn Llundain (1928–30), gan olygu MILO (Magazine of the Imperial League of Opera) ar gyfer yr arweinydd enwog Syr Thomas Beecham (1879–1961). Ond ar 17 Rhagfyr 1930 cafwyd hyd iddo’n farw yn ei fflat lawn nwy yn Chelsea. A hwythau’n amharod i dderbyn bod yma achos o hunanladdiad yn hytrach na damwain, cofnododd rheithgor y cwêst reithfarn agored; yn ddiweddarach hyrwyddodd ei fab, Nigel Heseltine (1916–95), ddamcaniaeth ei fod wedi’i lofruddio. Mae ei fywyd lliwgar a’i farwolaeth drasig wedi ysgogi sawl portread ffuglennol, gan gynnwys Halliday yn Women in Love gan D. H. Lawrence a Coleman yn Antic Hay Aldous Huxley.

Rhian Davies

Llyfryddiaeth

  • C. Gray, Peter Warlock: A Memoir of Philip Heseltine (Llundain, 1934)
  • N. Heseltine, Capriol for Mother: A Memoir of Philip Heseltine (Llundain, 1992)
  • B. Smith, Peter Warlock: The Life of Philip Heseltine (Rhydychen, 1994)
  • I. Parrott, The Crying Curlew: Peter Warlock: Family and Influences (Llandysul, 1994)
  • R. Davies, ‘‘A strayed ghost’: Peter Warlock in Wales’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 9/8 (1995–6), 7–29
  • B. Collins, Peter Warlock, the Composer (Llundain, 1997)
  • R. Davies, ‘Peter Warlock in Montgomeryshire’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 14 (2008), 144–61



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.