Y Llenor
Denodd y cylchgrawn llenyddol chwarterol Y Llenor (1922-51), dan olygyddiaeth W. J. Gruffydd, y genhedlaeth gyntaf o lenorion a beirniaid Cymraeg a ystyrir yn reddfol fel rhai ‘modern’. Rhwng ei gloriau y cyhoeddwyd ysgrifau cynharaf T. H. Parry-Williams a storïau cynharaf Kate Roberts; yno y cyhoeddodd R. Willams Parry gyfran helaeth o’r cerddi a ymddangosai maes o law yn Cerddi’r Gaeaf (1952) ac yno hefyd yr amlinellodd Saunders Lewis y cysylltiad a welai rhwng llenyddiaeth a sefyllfa wleidyddol Cymru.
Gellir priodoli modernrwydd (a moderniaeth, drwy estyniad) y cylchgrawn i ffactorau mewnol ac allanol. Y prif ffactor mewnol yw iddo gael ei lansio dan nawdd Cymdeithasau Cymraeg Prifysgol Cymru. Golygai hynny gylchrediad parod iddo ymhlith staff a myfyrwyr y pedwar coleg, a sicrhau mai academyddion oedd trwch ei gyfranwyr: Gruffydd a Griffith John Williams (Caerdydd), R. T. Jenkins, Robert Williams Parry a Thomas Parry (Bangor), T. Gwynn Jones, T. H. Parry-Williams a Gwenallt (Aberystwyth), a Saunders Lewis (Abertawe), neu o blith graddedigion y Brifysgol (Iorwerth C. Peate ac W. Ambrose Bebb, er enghraifft). Cyfeillgarwch personol yn unig, gellir tybio, a ddenodd weinidogion Ymneilltuol megis R. G. Berry ac E. Tegla Davies i gyfrannu yn ystod degawd cyntaf y cylchgrawn.
Yn ail, cynhyrchodd Y Llenor lenyddiaeth yng nghyd-destun yr hyn y gellid yn gyfiawn ei alw’n arfer beirniadol proffesiynol, gan awduron wedi’u hysgaru drwy addysg oddi wrth y genhedlaeth gynt, ac yn annerch cynulleidfa a gafodd yr un manteision. Nid yw’n syndod, efallai, fod y cywair ar brydiau’n ymylu ar fod yn nawddoglyd. Fel y nododd Gruffydd amdano’i hun a’i gyd-gyfranwyr yn ei ‘Nodiadau Golygyddol: ‘Mae’n ddigon gwir ein bod yn bendant ac yn awdurdodol dros ben wrth draethu’r ddeddf … ond meddyliem fod gennym le i fod yn bendant. Ymdeimlem â ni ein hunain ein bod ni yn artistiaid, bod peth o ddawn y llenor a’r bardd ynom, a bod gennym felly hawl i osod y ddeddf i lawr i bobl y gwyddem i sicrwydd amdanynt nad oedd mwy o ddawn artist ynddynt nag mewn olwyn trol.’
Y ffactor allanol allweddol oedd i’r Llenor herio’r rhagdyb gyffredinol drwy chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif fod etifeddiaeth Ymneilltuol a Rhyddfrydol yn naturiol ac yn rhagluniaethol. Yng nghwrs y pum etholiad cyffredinol rhwng 1918 a 1929, gwelwyd y bleidlais i’r Blaid Ryddfrydol yn cwympo o 48.9% i 33.5%, a chynnydd cyfatebol yn y gefnogaeth i’r Blaid Geidwadol (o 11.3% i 22%) a’r Blaid Lafur (o 30.8% i 43.9%). Ni chanfu’r naill blaid na’r llall lais llenyddol Cymraeg, ond cyfrannodd presenoldeb y ddwy at yr ymdeimlad bod cysyniad hanfodaidd o Gymreictod bellach dan warchae. Tila oedd y gefnogaeth etholiadol i Blaid Genedlaethol Cymru (Plaid Cymru wedi hynny), a sefydlwyd yn 1925, drwy gydol oes Y Llenor. Fodd bynnag, bu ei harweinwyr yn ddylanwadol o’r cychwyn o ran creu dealltwriaeth amgen o orffennol Cymru. Gweithredai cenedlaetholdeb rhyddfrydol cyn y Rhyfel Mawr ar sail y gred bod Cymru’n genedl; gwrth-ddadl baradocsaidd cenedlaetholwyr cyfansoddiadol o’r 1920au ymlaen oedd nad oedd.
Rhedai’r ddadl foneddigaidd ynghylch natur Cymreictod drwy hanes y cylchgrawn, gan orlifo i fywydau cyhoeddus ei gyfranwyr pennaf. Cyrhaeddodd ei phenllanw yn 1942, pan benderfynodd Gruffydd sefyll fel ymgeisydd seneddol ‘Rhyddfrydol Annibynnol’ yn erbyn Saunders Lewis, ymgeisydd Plaid Cymru yn is-etholiad Prifysgol Cymru 1943. Effaith buddugoliaeth Gruffydd oedd peri i gefnogwyr Lewis gefnu ar y cylchgrawn. Rhwng colli cyfranwyr ffyddlon megis G. J. a D. J. Williams, Bebb a Lewis ei hun, pwysau bywyd gwleidyddol, gostyngiad yn y cylchrediad yn sgil lansio Llên Cymru yn 1950, a henaint, rhoddodd Gruffydd heibio’r olygyddiaeth yn 70 oed, yn 1951.
T. Robin Chapman
Llyfryddiaeth
Chapman, T.R. (1986), Nodiadau’r Golygydd W.J. Gruffydd: Detholiad o Nodiadau Golygyddol ‘Y Llenor’ (Llandybie: Christopher Davies).
Jenkins, R.T. (1955), ‘Golygydd Y Llenor’, Y Llenor, Cyfrol Goffa W.J. Gruffydd, 38-50.
Morgan, T.J. (1982), 'Machlud Y Llenor', Y Traethodydd, 137, 3-6.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.