Adloniant

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ychydig iawn a wyddom am yr adloniant cynnar a fodolai yng Nghymru. Un o’r cyfeiriadau cynharaf a geir yw’r un gan y mynach Gildas o’r 6g. sy’n rhoi darlun o ganu mawl mewn llysoedd Cymreig cynnar. Mae’r farddoniaeth Gymraeg gynharaf, ‘Y Gododdin’, yn cyfeirio at feirdd a chantorion, ac at y ffaith fod cerddoriaeth a barddoniaeth yn cerdded law yn llaw – nodwedd sydd wedi parhau hyd heddiw. Yn y 10g. gwelir yng nghyfreithiau Hywel Dda fod nifer fawr o gyfeiriadau at yr offerynnau a ddefnyddid gan y diddanwyr. Y delyn yn amlwg oedd uchaf ei statws, ond yn yr hen gyfreithiau Cymreig rhoddir lle pwysig i’r crwth a’r pibau yn ogystal.

Mae’r Eisteddfod wedi chwarae rhan amlwg yn adloniant Cymru, a’r eisteddfod gyntaf y ceir cyfeiriad manwl ati yw’r un a gynhaliodd yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi yn 1176. Yn yr eisteddfod honno, cyfeirir at dri dosbarth o gystadleuwyr: yr offerynwyr, y beirdd a’r cantorion. Mae’r cyfeiriadau a geir at feirdd a chantorion yr uchelwyr yn amlwg yn fwy niferus, ond cyfeirir hefyd at ‘fôn y glêr’ sef y werin bobl a ‘chantorion penpastwn’.

Nid oes sicrwydd pa fath yn union o ddawnsio a oedd yn digwydd yn y llysoedd cynnar. Nid oedd gair yn y Gymraeg am ‘ddawns’. Mae peth tystiolaeth fod dawnsio’n digwydd i’w chael mewn llawysgrifau cyn belled yn ôl â’r 14g. Cyfeirir at offerynnau a oedd yn cyfeilio i’r dawnsio megis y delyn, y crwth, y pibau neu’r pibau cwd. Un ffurf ar adloniant a oedd yn cywain yr holl berfformwyr ynghyd oedd yr anterliwt, sef math o ddrama fydryddol a oedd yn boblogaidd yng Nghymru yn yr 17g. a’r 18g. Byddai’r perfformiad fel arfer wrth ymyl y ffordd, yn sgwâr y farchnad neu ar fuarth tafarn a’r llwyfan yn un digon simsan ar gert neu ar astell rhwng dwy faril gwrw. Diben arferol yr anterliwt oedd cyflwyno moeswers neu gynnig sylwebaeth wleidyddol neu gymdeithasol trwy ddychan; ar yr un pryd, roedd yr adloniant a gynigiai yn ddigon di-chwaeth ac awgrymog yn aml. Dau gymeriad canolog yr anterliwt oedd y Ffŵl a’r Cybydd. Byddai baledwyr hefyd yn ymweld â ffeiriau a byddai’r grefft honno yn parhau yn ei bri yn y 19g.

Yn y 18g., mae’n amlwg fod y cerddorion proffesiynol yn cael eu denu i gyfeiriad Llundain gan yr uchelwyr neu eu noddwyr – rhai fel John Parry (Parry Ddall) (Rhiwabon) ac Edward Jones (Bardd y Brenin), ac er i Iolo Morganwg fyw yn Llundain am gyfnod y mae hefyd wedi cofnodi disgrifiadau o adloniant cerddorol pobl gyffredin ym Morgannwg ar ôl dychwelyd i Gymru ar ddechrau’r 18g. Ceir awgrymiadau gan Iolo hefyd fod gwahaniaethau sylweddol rhwng adloniant de a gogledd Cymru, ac mae’n sôn am ganu a dawnsio ym Morgannwg.

Gwledig iawn oedd Cymru yn y 18g., ac yn nhyddynnod a ffermydd bychain y gymdeithas amaethyddol hon, a’i bywyd bob dydd yn dilyn rhod y tymhorau, y bodolai unrhyw adloniant. Ceir cofnodion yn disgrifio cneifwyr a chasglwyr y cynhaeaf yn ymgynnull o ffermydd cyfagos a’r merched hefyd yn cyfrannu tuag at wneud y bwyd neu’n dod at ei gilydd i nyddu neu wau. Hwy eu hunain a ddiddanai a chreu adloniant, megis canu penillion, dweud straeon, dawnsio a chanu offerynnau. Ar rai tymhorau byddai mwy o wyliau yn digwydd, yn enwedig wrth i’r dyddiau fyrhau. Ar ddydd Nadolig ceid ‘gwyliau’ am dair wythnos, ac yn ystod y cyfnod hwn cynhelid digwyddiadau megis defod y Fari Lwyd yn ne Cymru, pan eid â phenglog ceffyl addurnedig o ddrws i ddrws. Arfer arall oedd Hela’r Dryw, a cheir disgrifiadau manwl o hyn yn digwydd yn Sir Benfro. Cenid caneuon hefyd wrth fynd i gasglu calennig, sef rhoddion ar ddydd Calan. Cynhelid Gŵyl Fair y Canhwyllau ym mis Chwefror a cheir enghreifftiau o ganeuon nodweddiadol o’r ŵyl o Lannerch-y-medd, Môn. Wrth i’r gwanwyn a’r haf gyrraedd cynhelid gwyliau megis Calan Mai a Gŵyl Mabsant, sef gŵyl i goffáu nawddsant y plwyf lleol.

Roedd y delyn ac adloniant mewn tafarnau a ffeiriau yn dal mewn bri hyd adeg y diwygiadau crefyddol yn y 18g. Gadawodd y don grefyddol ei hôl yn drwm ar y ddwy ganrif nesaf. Er hynny, dengys ambell i gofnod fod dawnsio, canu a chwaraeon gwledig yn dal i ddigwydd mewn ffeiriau. Er bod dylanwadau crefyddol wedi cyfrannu at leihau’r hwyl werinol gynhenid yn y cymunedau, ar yr un pryd tyfodd cymdeithasau corawl anferth yn sgil y capeli a luosogai yng Nghymru, a byddai’r rhain yn perfformio gweithiau cyfansoddwyr mawr y cyfandir a chyfansoddwyr brodorol. Roedd y cantorion yn ddibynnol ar nodiant sol-ffa i ddysgu’r gweithiau, megis yr oratorio a gweithiau eraill yn y 19g., yng nghapeli’r ardaloedd gwledig a diwydiannol fel ei gilydd. Yn y cyngherddau hyn byddai unawdwyr proffesiynol a lled broffesiynol yn perfformio. Ond gyda dylanwad y Llyfrau Gleision yn drwm ar bob agwedd o fywyd yng Nghymru, parchuso’n anochel fu hanes adloniant yn gyffredinol.

Yn ystod y 19g. daeth yr eisteddfod yn un o’r sefydliadau pennaf yn niwylliant ac adloniant y Cymry. Ceir yn yr eisteddfodau hyn, megis Eisteddfod Madog (1851) ac Eisteddfod Fawr Llangollen (1858), ddarluniau o adloniant amlochrog. Er bod ynddynt ddisgrifiadau manwl o ganu cerdd dant mewn amgylchiadau pur anhrefnus, disgrifir hefyd gyngherddau mawreddog, gan ddangos i raddau ddyhead y Cymry i gael eu derbyn fel cenedl barchus a gwâr. Parhaodd y nodwedd hon o ffurfioli’r adloniant i raddau helaeth hyd y presennol. Bu ffermydd a thai bonedd yn cyfrannu’n helaeth yn y cyfnod hwn tuag at adloniant y Cymry, wrth geisio cadw’r hen arferion yn fyw. Ceir disgrifiadau o adloniant ar fferm Castellior, Môn, yn y 19g. ac roedd Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni (a chysylltiad Arglwyddes Augusta Hall ym Mhlas Llanofer gerllaw â hi) yn enghraifft o gynnal digwyddiadau allweddol er mwyn diogelu’r hen draddodiadau. Er hynny, y Noson Lawen draddodiadol a’r Canu Llofft Stabl anffurfiol a barhaodd i gadw’r traddodiadau ar lawr gwlad a’r sipsiwn Cymreig yn aml yn ymuno yn yr hwyl.

Bu’r 20g. yn gyforiog o adloniant mewn sawl dull a gwelwyd newidiadau chwyldroadol o ran dulliau a chyfrwng y diddanu. Tyfodd yr Eisteddfod Genedlaethol fwyfwy i roi i’r Cymry rychwant ehangach fyth o adloniant, a chynhaliwyd eisteddfodau mawr a bach ledled y wlad. Sefydlwyd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1947 lle profodd pobl Cymru adloniant a diwylliannau newydd a dieithr. Roedd dylanwad y capeli yn parhau i fod yn gyfrwng adloniant trwy’r cyfarfodydd bach a’r ‘sosial’ fel y’i galwyd.

Yn sgil dylanwad cynyddol y radio a’r teledu ym myd adloniant, roedd gofyn am genhedlaeth newydd o Gymry Cymraeg a fyddai’n llwyddo i ddygymod â’r dechnoleg ddiweddaraf a’r math newydd o adloniant. Sefydlwyd Cyngor Darlledu Cymru yn 1953 a Radio Cymru/Radio Wales ugain mlynedd yn ddiweddarach. Rhai o’r prif ffigyrau yn nyddiau cynnar darpariaeth adloniant y BBC yng Nghymru oedd Sam Jones, Meredydd Evans a Teleri Bevan. Roedd Triawd y Coleg, triawd o fyfyrwyr o Fangor, ymhlith sêr y byd adloniant yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel, a hwy oedd sêr y Noson Lawen, a ddarlledwyd o Neuadd y Penrhyn, Bangor, yn yr un cyfnod. Rhaglenni eraill ym mlynyddoedd cynnar darlledu radio, cyn yr Ail Ryfel Byd, oedd Sut Hwyl? a Shw Mae Heno?

Ochr yn ochr â’r math yma o nosweithiau, roedd diwylliant clybiau gweithwyr, yn enwedig yn yr ardaloedd mwy diwydiannol, ac adloniant amlddiwylliannol mewn mannau fel Dociau Caerdydd, yn rhoi bywoliaeth i nifer helaeth o artistiaid. Cyn sefydlu S4C yn 1982, roedd nifer o raglenni adloniant ar y sianeli eraill yn Gymraeg a Saesneg, yn eu plith Gwlad y Gân/Land of Song (1958–64), gyda’r seren Ivor Emmanuel (1927–2007). Un arall oedd Ryan a Ronnie (1971), gyda’r actor a’r canwr Ryan Davies, Disc a Dawn, a rhaglenni Cymraeg achlysurol iawn ar donfeddi’r sianeli eraill, gyda rhai fel Hywel Gwynfryn yn flaenllaw fel cyflwynwyr. Ef hefyd oedd yn cyflwyno’r rhaglen radio Helo Bobol pan sefydlwyd Radio Cymru. Er i’r teledu gyflwyno’r noson lawen i gynulleidfa ehangach pan sefydlwyd S4C, gellir dweud hefyd mai’r un cyfrwng a fu’n gyfrifol i raddau am dranc y noson lawen draddodiadol fel digwyddiad byw yn y gymuned, yn ogystal ag enghreifftiau eraill o weithgaredd cymdeithasol yn chwarter olaf yr 20g.

Daeth mathau eraill o adloniant byw i gymryd lle’r hen rai, fodd bynnag. Digwyddiad o bwys oedd noson Tafodau Tân yn Eisteddfod Rhuthun yn 1973, pan oedd adloniant mwy traddodiadol y noson lawen yn rhannu llwyfan gyda band roc, Edward H Dafis. Cyn hyn, yn yr 1960au, roedd artistiaid fel Dafydd Iwan a Meic Stevens wedi poblogeiddio’r gân brotest, a sefydlwyd Cwmni Recordiau Sain yn 1969 er mwyn rhyddhau recordiau roc a gwerin Cymraeg a gâi drafferth i dorri trwodd yn y farchnad Brydeinig.

Rhai sefydliadau a chymdeithasau a fu’n allweddol yn cynnal adloniant o bob math yng Nghymru ar wahân i’r teledu a’r eisteddfod oedd Gŵyl Werin y Cnapan (Ffostrasol), Gŵyl Werin Dolgellau a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg gyda’u nosweithiau Twrw Tanllyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr 1980au. Gwelwyd tuedd i efelychu mathau o ganu ac adloniant yn deillio o’r tu hwnt i Gymru cyn belled yn ôl â’r 1960au, megis yn achos y band sgiffl Hogia Llandegai, a chyfansoddwyd y sioe gerdd Gymreig gyntaf, Nia Ben Aur, ar gyfer Eisteddfod Caerfyrddin yn 1974. Yn yr 1980au a’r 1990au roedd nifer o fandiau Cymraeg megis Maffia Mr Huws yn anelu at gyrraedd safon gyfuwch ag unrhyw fand y tu allan i Gymru. Daeth bandiau eraill megis y Manic Street Preachers a’r Super Furry Animals, bandiau proffesiynol yn canu yn Saesneg, i sylw’r siartiau rhyngwladol.

Sefydlwyd Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru yn yr 1960au hwyr i gydlynu llawer o weithgaredd cymdeithasol cerddorol arall megis corau a gwyliau, ac yn raddol esblygodd y byd adloniant yn ddwy gangen. Tyfodd cwmnïau teledu ledled Cymru a chynhaliwyd gwyliau a chyngherddau gyda chymorth grantiau sylweddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a ffynonellau eraill, gan alluogi nifer o bobl i ymgynnal fel artistiaid proffesiynol; ond ochr yn ochr â hyn gwelwyd cryn dipyn o weithgaredd gwirfoddol yn parhau yn y maes. Yn gyffredinol, bu adloniant yng Nghymru’r 20g. mor amlochrog ag adloniant unrhyw wlad arall; yn cynnwys canu gwerin, canu roc, y traddodiadol a’r Eingl-Americanaidd a phob rhyw arddull arall yn cydoesi.

Sioned Webb



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.