Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ffa Coffi Pawb"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
(gw. hefyd [[Rhys, Gruff]] a [[Super Furry Animals]])
+
(gw. hefyd [[Rhys, Gruff (g.1970) | Rhys, Gruff]] a [[Super Furry Animals]])
  
[[Band roc]] a ffurfiwyd ym Methesda yn 1986 oedd Ffa Coffi Pawb a’i aelodau oedd Gruff Rhys (llais, gitâr), Rhodri Puw (gitâr), Dewi Emlyn (gitâr fas) a Dafydd Ieuan (drymiau).
+
[[Poblogaidd, Cerddoriaeth | Band roc]] a ffurfiwyd ym Methesda yn 1986 oedd Ffa Coffi Pawb a’i aelodau oedd Gruff Rhys (llais, gitâr), Rhodri Puw (gitâr), Dewi Emlyn (gitâr fas) a Dafydd Ieuan (drymiau).
  
Dechreuodd y grŵp pan oedd Rhodri Puw a Gruff Rhys yn fechgyn ysgol a cherddoriaeth bop Brydeinig gyfoes megis Jesus and Mary Chain a New Order yn ddylanwad arnynt. Cyfarfu Gruff Rhys â Dafydd Ieuan mewn ysgol roc a oedd wedi’i threfnu gan glwb ieuenctid ym Methesda, ond y dylanwadau pennaf arnynt ar y pryd oedd y band Cymraeg lleol [[Maffia Mr Huws]] a bandiau cyfoes eraill megis [[Anhrefn]], Y Brodyr a’r [[Cyrff]]. Drwy gydol eu bodolaeth roedd Ffa Coffi Pawb yn meddu ar y gallu i arbrofi ac ar eirfa gerddorol eang a gawsant gan fandiau Cymru a thu hwnt. Roedd yr enw cellweirus yn fwriadol yn chwarae ar eiriau, ac am gyfnod fe’i gwaharddwyd gan BBC Radio Cymru.
+
Dechreuodd y grŵp pan oedd Rhodri Puw a Gruff Rhys yn fechgyn ysgol a cherddoriaeth bop Brydeinig gyfoes megis Jesus and Mary Chain a New Order yn ddylanwad arnynt. Cyfarfu Gruff Rhys â Dafydd Ieuan mewn ysgol roc a oedd wedi’i threfnu gan glwb ieuenctid ym Methesda, ond y dylanwadau pennaf arnynt ar y pryd oedd y band Cymraeg lleol [[Maffia Mr Huws]] a bandiau cyfoes eraill megis [[Anhrefn]], Y Brodyr a’r [[Cyrff, Y | Cyrff]]. Drwy gydol eu bodolaeth roedd Ffa Coffi Pawb yn meddu ar y gallu i arbrofi ac ar eirfa gerddorol eang a gawsant gan fandiau Cymru a thu hwnt. Roedd yr enw cellweirus yn fwriadol yn chwarae ar eiriau, ac am gyfnod fe’i gwaharddwyd gan BBC Radio Cymru.
  
Yn nyddiau cynnar y band roedd Rhodri Puw a Gruff Rhys yn ymdrechu i wneud eu gitarau eu hunain (roedd Gruff yn chwarae’r gitâr i’r ochr chwith ond yn parhau i osod y tannau fel gitarydd ‘llaw dde’). Ar ôl i Dewi Emlyn a Dafydd Ieuan ymuno â’r grŵp, bu’n rhaid iddynt fenthyca offer gan fandiau eraill er mwyn perfformio’n fyw. O ganlyniad, amaturaidd iawn oedd eu perfformiadau cynnar, ond serch hynny roeddynt yn llwyddo i greu awyrgylch arbennig.
 
Llinell 14: Llinell 14:
 
Gan fod Owen wrthi’n datblygu ei stiwdio, roedd modd i Ffa Coffi Pawb arbrofi gydag offer newydd, ac roedd hyn yn fodd i bwysleisio’r elfen swreal ac arbrofol oedd yn perthyn i nifer o’u caneuon, fel ‘Dw i’n troi’n ffrwyth’. Flwyddyn yn ddiweddarach rhyddhawyd ''Dalec Peilon'' (Casetiau Huw, 1987), gyda’r gân roc gothig ‘Valium’ yn derbyn cryn sylw ar donfeddi Radio Cymru. Yn sgil eu poblogrwydd cynnar daeth cynnig i ymuno â roster label Ankst, ac fe ryddhawyd dwy record hir ar ddechrau’r 1990au, ''Clymhalio'' (Ankst, 1991) a ''Hei Vidal!'' (Ankst, 1992). Gwelir newid graddol yn sŵn ac arddull y band dros gyfnod o chwe mlynedd o recordio, gydag elfennau bachog a chofiadwy yn cymryd lle sain amrwd y caneuon cynnar, fel yn y caneuon ‘Breichiau Hir’ ac ‘Allan o’i Phen’. Roedd y newid hwnnw’n adlewyrchu ystod eang o ddiddordebau yn y byd pop Eingl-Americanaidd, ac fe glywir dylanwad ''glam rock'' ar gân megis ‘Sega Segur’, sydd yn rhagweld sain gynnar y Super Furry Animals.
 
Bu Ffa Coffi Pawb yn perfformio’n gyson ar lwyfannau yng Nghymru ac aethant â’u cerddoriaeth hefyd tu hwnt i’r ffin, i Lundain a’r Iseldiroedd. Yn anterth poblogrwydd grwpiau mwy canol-y-ffordd megis [[Sobin a’r Smaeliaid]] a [[Jess]], ni chafodd arddull roc amgen Ffa Coffi Pawb ei gwir werthfawrogi gan nifer o wrandawyr y sîn roc Cymraeg. Bu cyngerdd olaf y grŵp yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Llanelwedd yn 1993, ac yn fuan wedyn aeth Gruff Rhys a Dafydd Ieuan ati i ffurfio’r Super Furry Animals. Bu Rhodri Puw yn chwarae gyda Psycho VII ac yna [[Gorky’s Zygotic Mynci]], a bu cysylltiad rhwng Dewi Emlyn a bandiau megis y Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci. Yn sgil llwyddiant y Super Furry Animals rhyddhawyd casgliad o oreuon Ffa Coffi Pawb yn 2004.
+
Bu Ffa Coffi Pawb yn perfformio’n gyson ar lwyfannau yng Nghymru ac aethant â’u cerddoriaeth hefyd tu hwnt i’r ffin, i Lundain a’r Iseldiroedd. Yn anterth poblogrwydd grwpiau mwy canol-y-ffordd megis [[Fôn, Bryn (g.1954) | Sobin a’r Smaeliaid]] a [[Jess]], ni chafodd arddull roc amgen Ffa Coffi Pawb ei gwir werthfawrogi gan nifer o wrandawyr y sîn roc Cymraeg. Bu cyngerdd olaf y grŵp yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Llanelwedd yn 1993, ac yn fuan wedyn aeth Gruff Rhys a Dafydd Ieuan ati i ffurfio’r Super Furry Animals. Bu Rhodri Puw yn chwarae gyda Psycho VII ac yna [[Gorky's Zygotic Mynci]], a bu cysylltiad rhwng Dewi Emlyn a bandiau megis y Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci. Yn sgil llwyddiant y Super Furry Animals rhyddhawyd casgliad o oreuon Ffa Coffi Pawb yn 2004.
  
'''Sarah Hill'''
 
'''Sarah Hill'''

Y diwygiad cyfredol, am 16:27, 28 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(gw. hefyd Rhys, Gruff a Super Furry Animals)

Band roc a ffurfiwyd ym Methesda yn 1986 oedd Ffa Coffi Pawb a’i aelodau oedd Gruff Rhys (llais, gitâr), Rhodri Puw (gitâr), Dewi Emlyn (gitâr fas) a Dafydd Ieuan (drymiau).

Dechreuodd y grŵp pan oedd Rhodri Puw a Gruff Rhys yn fechgyn ysgol a cherddoriaeth bop Brydeinig gyfoes megis Jesus and Mary Chain a New Order yn ddylanwad arnynt. Cyfarfu Gruff Rhys â Dafydd Ieuan mewn ysgol roc a oedd wedi’i threfnu gan glwb ieuenctid ym Methesda, ond y dylanwadau pennaf arnynt ar y pryd oedd y band Cymraeg lleol Maffia Mr Huws a bandiau cyfoes eraill megis Anhrefn, Y Brodyr a’r Cyrff. Drwy gydol eu bodolaeth roedd Ffa Coffi Pawb yn meddu ar y gallu i arbrofi ac ar eirfa gerddorol eang a gawsant gan fandiau Cymru a thu hwnt. Roedd yr enw cellweirus yn fwriadol yn chwarae ar eiriau, ac am gyfnod fe’i gwaharddwyd gan BBC Radio Cymru.

Yn nyddiau cynnar y band roedd Rhodri Puw a Gruff Rhys yn ymdrechu i wneud eu gitarau eu hunain (roedd Gruff yn chwarae’r gitâr i’r ochr chwith ond yn parhau i osod y tannau fel gitarydd ‘llaw dde’). Ar ôl i Dewi Emlyn a Dafydd Ieuan ymuno â’r grŵp, bu’n rhaid iddynt fenthyca offer gan fandiau eraill er mwyn perfformio’n fyw. O ganlyniad, amaturaidd iawn oedd eu perfformiadau cynnar, ond serch hynny roeddynt yn llwyddo i greu awyrgylch arbennig.

Datblygodd perthynas gerddorol bwysig rhwng Ffa Coffi Pawb a’r cynhyrchydd dylanwadol Gorwel Owen. Cafodd demos cyntaf Ffa Coffi Pawb eu recordio mewn ystafell yn nhŷ Rhodri Puw, ac fe recordiwyd ambell drac yn stiwdio Les Morrison ym Methesda hefyd gan gynnwys y gân ‘Valium’, ond yn ddiweddarach manteisiodd y grŵp ar bob cyfle i weithio yn stiwdio Owen. Fe recordiwyd deg cân ar beiriant wyth trac Owen a’u rhyddhau ar gasét yn unig o dan y teitl Torrwyr Beddau Byd-Eang Cyf. (Casetiau Huw, 1986). Defnyddiwyd peiriant drymiau nid yn unig oherwydd y ffasiwn gerddorol ond hefyd gan nad oedd digon o le yn y stiwdio i gynnwys set lawn o ddrymiau acwstig.

Gan fod Owen wrthi’n datblygu ei stiwdio, roedd modd i Ffa Coffi Pawb arbrofi gydag offer newydd, ac roedd hyn yn fodd i bwysleisio’r elfen swreal ac arbrofol oedd yn perthyn i nifer o’u caneuon, fel ‘Dw i’n troi’n ffrwyth’. Flwyddyn yn ddiweddarach rhyddhawyd Dalec Peilon (Casetiau Huw, 1987), gyda’r gân roc gothig ‘Valium’ yn derbyn cryn sylw ar donfeddi Radio Cymru. Yn sgil eu poblogrwydd cynnar daeth cynnig i ymuno â roster label Ankst, ac fe ryddhawyd dwy record hir ar ddechrau’r 1990au, Clymhalio (Ankst, 1991) a Hei Vidal! (Ankst, 1992). Gwelir newid graddol yn sŵn ac arddull y band dros gyfnod o chwe mlynedd o recordio, gydag elfennau bachog a chofiadwy yn cymryd lle sain amrwd y caneuon cynnar, fel yn y caneuon ‘Breichiau Hir’ ac ‘Allan o’i Phen’. Roedd y newid hwnnw’n adlewyrchu ystod eang o ddiddordebau yn y byd pop Eingl-Americanaidd, ac fe glywir dylanwad glam rock ar gân megis ‘Sega Segur’, sydd yn rhagweld sain gynnar y Super Furry Animals.

Bu Ffa Coffi Pawb yn perfformio’n gyson ar lwyfannau yng Nghymru ac aethant â’u cerddoriaeth hefyd tu hwnt i’r ffin, i Lundain a’r Iseldiroedd. Yn anterth poblogrwydd grwpiau mwy canol-y-ffordd megis Sobin a’r Smaeliaid a Jess, ni chafodd arddull roc amgen Ffa Coffi Pawb ei gwir werthfawrogi gan nifer o wrandawyr y sîn roc Cymraeg. Bu cyngerdd olaf y grŵp yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd yn 1993, ac yn fuan wedyn aeth Gruff Rhys a Dafydd Ieuan ati i ffurfio’r Super Furry Animals. Bu Rhodri Puw yn chwarae gyda Psycho VII ac yna Gorky's Zygotic Mynci, a bu cysylltiad rhwng Dewi Emlyn a bandiau megis y Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci. Yn sgil llwyddiant y Super Furry Animals rhyddhawyd casgliad o oreuon Ffa Coffi Pawb yn 2004.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

  • Torrwyr Beddau Byd-Eang Cyf. (Casetiau Huw, 1986)
  • Valium (Casetiau Huw, 1987)
  • Dalec Peilon (Casetiau Huw, 1987; Ankst 043, 1988)
  • Gwanwyn yn Detroit [EP] (Headstun STUN002, 1989)
  • Clymhalio (Ankst 018, 1991)
  • ‘Cymryd y Pys’/‘Ffar Out’ [EP] (Ankst 023, 1991)
  • Hei Vidal! (Ankst 036, 1992)

Casgliadau:

  • Ffa Coffi Pawb Am Byth (Placid Casual PLC09CD, 2004)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.