Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Oratorio, Yr"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Gosodiad estynedig o destun cysegredig ar gyfer unawdwyr, côr a cherddorfa, lle rhoddir mwy o bwyslais ar yr elfen gorawl ond heb olygfeydd, gwisgoedd na symud. Er bod oratorios nad ydynt yn grefyddol i’w cael (e.e. ''Acis a Galatea'' Handel neu ''A Child of our Time'' Michael Tippett), seilir y [[naratif]] fel arfer ar eiriau Beiblaidd.
+
Gosodiad estynedig o destun cysegredig ar gyfer unawdwyr, côr a cherddorfa, lle rhoddir mwy o bwyslais ar yr elfen gorawl ond heb olygfeydd, gwisgoedd na symud. Er bod oratorios nad ydynt yn grefyddol i’w cael (e.e. ''Acis a Galatea'' Handel neu ''A Child of our Time'' Michael Tippett), seilir y naratif fel arfer ar eiriau Beiblaidd.
  
 
Mae gwreiddiau’r oratorio yn yr eglwys Gatholig yn Rhufain yn yr 16g., a daw’r enw o’r gair ''oratori'', sef addoldy lle offrymid gweddïau gydag elfennau dramatig a cherddorol yn perthyn iddynt. Datblygodd ac ymledodd yr oratorio i wledydd Protestannaidd, ac yn yr Almaen ym mlynyddoedd cynnar y 18g. daeth Handel o dan ei dylanwad. Creadigaeth Handel, wedi iddo symud i Loegr i fyw, oedd yr oratorio Saesneg, ac enillodd ei ''Messiah'' (perfformiad cyntaf yn Nulyn, 1742) le canolog yng nghalonnau corau amatur a’u cynulleidfaoedd. Ar ôl 1800, prin oedd y cyfansoddwyr mawr a neilltuai eu hegnïon i’r oratorio (yn hytrach nag i’r Offeren ''[Mass]'' sydd yn ffurf wahanol) ond yng ngwyliau cerdd Lloegr roedd gweithiau Handel ''(Messiah, Judas Maccabæus, Samson'' ac ''Israel in Egypt'' yn bennaf) a Haydn (yn enwedig ''Y Greadigaeth)'' yn parhau mewn bri, gyda rhai Mendelssohn ''(Elijah, St Paul'' a’r ''Emyn o Fawl)'' yn ffefrynnau arbennig o’r 1840au, a rhai Spohr ''(Last Judgment)'' a ''Gounod (Redemption)'' hefyd o fewn cyrraedd corau amatur.
 
Mae gwreiddiau’r oratorio yn yr eglwys Gatholig yn Rhufain yn yr 16g., a daw’r enw o’r gair ''oratori'', sef addoldy lle offrymid gweddïau gydag elfennau dramatig a cherddorol yn perthyn iddynt. Datblygodd ac ymledodd yr oratorio i wledydd Protestannaidd, ac yn yr Almaen ym mlynyddoedd cynnar y 18g. daeth Handel o dan ei dylanwad. Creadigaeth Handel, wedi iddo symud i Loegr i fyw, oedd yr oratorio Saesneg, ac enillodd ei ''Messiah'' (perfformiad cyntaf yn Nulyn, 1742) le canolog yng nghalonnau corau amatur a’u cynulleidfaoedd. Ar ôl 1800, prin oedd y cyfansoddwyr mawr a neilltuai eu hegnïon i’r oratorio (yn hytrach nag i’r Offeren ''[Mass]'' sydd yn ffurf wahanol) ond yng ngwyliau cerdd Lloegr roedd gweithiau Handel ''(Messiah, Judas Maccabæus, Samson'' ac ''Israel in Egypt'' yn bennaf) a Haydn (yn enwedig ''Y Greadigaeth)'' yn parhau mewn bri, gyda rhai Mendelssohn ''(Elijah, St Paul'' a’r ''Emyn o Fawl)'' yn ffefrynnau arbennig o’r 1840au, a rhai Spohr ''(Last Judgment)'' a ''Gounod (Redemption)'' hefyd o fewn cyrraedd corau amatur.
  
Efallai mai’r tro cyntaf oll i’r ''Messiah'' gael ei
+
Efallai mai’r tro cyntaf oll i’r ''Messiah'' gael ei pherfformio yng Nghymru oedd yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | Ngŵyl]] Gerddorol Gogledd Cymru yng Nghastell Rhuddlan ym mis Medi 1850, er mai digon Seisnig oedd yr achlysur ac mai o Loegr y deuai’r cerddorion a oedd yn cymryd rhan. Corau eglwysig oedd y mwyaf galluog i ganu gweithiau mawr ond gyda thwf trefi a lledaeniad [[Tonic Sol-ffa | sol-ffa]] yng Nghymru o’r 1860au, daeth yr oratorio yn ffurf boblogaidd. Roedd y gerddoriaeth, gyda’i chorawdau gafaelgar a grymus a’i chynganeddion diatonig cyfarwydd, a’r hanes ysgrythurol a ddisgrifid ynddynt, yn apelio’n ddirfawr at gymdeithasau [[Corau Cymysg | corawl]] a ddenai eu haelodau’n helaeth o gorau capeli Anghydffurfiol Cymru a dyfodd mor gyflym yn ail hanner y 19g.
pherfformio yng Nghymru oedd yng [[Ngŵyl]] Gerddorol Gogledd Cymru yng Nghastell Rhuddlan ym mis Medi 1850, er mai digon Seisnig oedd yr achlysur ac mai o Loegr y deuai’r cerddorion a oedd yn cymryd rhan. Corau eglwysig oedd y mwyaf galluog i ganu gweithiau mawr ond gyda thwf trefi a lledaeniad [[sol-ffa]] yng Nghymru o’r 1860au, daeth yr oratorio yn ffurf boblogaidd. Roedd y gerddoriaeth, gyda’i chorawdau gafaelgar a grymus a’i chynganeddion diatonig [[cyfarwydd]], a’r hanes ysgrythurol a ddisgrifid ynddynt, yn apelio’n ddirfawr at gymdeithasau [[corawl]] a ddenai eu haelodau’n helaeth o gorau capeli Anghydffurfiol Cymru a dyfodd mor gyflym yn ail hanner y 19g.
 
  
Nid oedd perfformiadau cyflawn yn gwbl ddieithr
+
Nid oedd perfformiadau cyflawn yn gwbl ddieithr yn yr 1850au a’r 1860au – perfformiwyd sawl oratorio gan gôr capel Annibynwyr Bethesda dan arweiniad Alawydd (David Roberts), fel ''Samson'' Handel i gyfeiliant harmoniwm yng Ngorffennaf 1861. Yn yr un flwyddyn, clywyd ''Y Greadigaeth'' Haydn yn Aberdâr, a bu’r Prifathro Evan Davies, Abertawe, yn arwain cyfres o gyngherddau oratorio ym mhrif drefi Morgannwg ar yr un adeg – ond o’r 1870au, pan godwyd capeli mawr gyda lle i gorau o nifer sylweddol a cherddorfa i gyfeilio iddynt, y daeth yr oratorio yn elfen bwysig yn y diwylliant corawl yng Nghymru. Pery dadlau ynglŷn â phryd yn union y cafwyd y perfformiad amatur cyntaf o’r ''Messiah'' yng Nghymru, pa un ai yn yr 1840au ym Merthyr dan [[Thomas, John (Ieuan Ddu; 1795-1871) | Ieuan Ddu]], neu yn yr 1860au cynnar yng Nghwm Tawe dan Ifander Griffiths neu yn Rhymni dan Heman Gwent. Honnir mai yn y Drenewydd ym mis Tachwedd 1870 y clywyd ''Judas Maccabæus'' Handel am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru, ac ''Elijah'' am y tro cyntaf yng Nghymru gyfan pan berfformiwyd y gwaith gan y Neath Harmonic Society yn y dref honno ym mis Ebrill 1871. Dyna’n union pryd y cafodd yr oratorio gyntaf ei chanu yn ei chyfanrwydd yng Nghwm Rhondda, sef ''Last Judgment Spohr'' yn Nhreherbert ar 13 Ebrill 1871 dan arweiniad Caradog (Griffith Rhys Jones).
yn yr 1850au a’r 1860au – perfformiwyd sawl oratorio gan gôr capel Annibynwyr Bethesda dan arweiniad Alawydd (David Roberts), fel ''Samson'' Handel i gyfeiliant harmoniwm yng Ngorffennaf 1861. Yn yr un flwyddyn, clywyd ''Y Greadigaeth'' Haydn yn Aberdâr, a bu’r Prifathro Evan Davies, Abertawe, yn arwain cyfres o gyngherddau oratorio ym mhrif drefi Morgannwg ar yr un adeg – ond o’r 1870au, pan godwyd capeli mawr gyda lle i gorau o nifer sylweddol a cherddorfa i gyfeilio iddynt, y daeth yr oratorio yn elfen bwysig yn y diwylliant corawl yng Nghymru. Pery dadlau ynglŷn â phryd yn union y cafwyd y perfformiad amatur cyntaf o’r ''Messiah'' yng Nghymru, pa un ai yn yr 1840au ym Merthyr dan [[Ieuan Ddu]], neu yn yr 1860au cynnar yng Nghwm Tawe dan Ifander Griffiths neu yn Rhymni dan Heman Gwent. Honnir mai yn y Drenewydd ym mis Tachwedd 1870 y clywyd ''Judas Maccabæus'' Handel am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru, ac ''Elijah'' am y tro cyntaf yng Nghymru gyfan pan berfformiwyd y gwaith gan y Neath Harmonic Society yn y dref honno ym mis Ebrill 1871. Dyna’n union pryd y cafodd yr oratorio gyntaf ei chanu yn ei chyfanrwydd yng Nghwm Rhondda, sef ''Last Judgment Spohr'' yn Nhreherbert ar 13 Ebrill 1871 dan arweiniad Caradog (Griffith Rhys Jones).
 
  
Cyn bo hir gwelid cerddorion Cymreig yn troi eu llaw at gyfansoddi oratorio yn ‘y dull Almaenaidd’. Yr oratorio Gymraeg gyntaf i’w chyhoeddi (1855) oedd ''Ystorm Tiberias'' a gyfansoddwyd gan Edward Stephen (Tanymarian) yn 1851–2, gwaith a oedd yn drwm dan ddylanwad Handel ac a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Eglwys y Plwyf, Blaenau Ffestiniog, ym Mehefin 1853 gyda’r cyfansoddwr yn arwain. Cafodd dderbyniad digon cynnes, ond pan berfformiwyd yr oratorio ym Methesda ym mis Hydref 1872 credid yn ''Y Gerddorfa'' mai ‘dim ond [[tair]] gwaith drwy’r holl flynyddoedd’ yr oedd wedi ei datgan yn gyflawn, a bod hyn ‘yn warth arnom ni fel cenedl’ (t.26). Cafodd ei hadolygu gyda chyfeiliant cerddorfa gan [[D. Emlyn Evans]] a J. H. Johnes yn 1886.
+
Cyn bo hir gwelid cerddorion Cymreig yn troi eu llaw at gyfansoddi oratorio yn ‘y dull Almaenaidd’. Yr oratorio Gymraeg gyntaf i’w chyhoeddi (1855) oedd ''Ystorm Tiberias'' a gyfansoddwyd gan Edward Stephen (Tanymarian) yn 1851–2, gwaith a oedd yn drwm dan ddylanwad Handel ac a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Eglwys y Plwyf, Blaenau Ffestiniog, ym Mehefin 1853 gyda’r cyfansoddwr yn arwain. Cafodd dderbyniad digon cynnes, ond pan berfformiwyd yr oratorio ym Methesda ym mis Hydref 1872 credid yn ''Y Gerddorfa'' mai ‘dim ond tair gwaith drwy’r holl flynyddoedd’ yr oedd wedi ei datgan yn gyflawn, a bod hyn ‘yn warth arnom ni fel cenedl’ (t.26). Cafodd ei hadolygu gyda chyfeiliant cerddorfa gan [[Evans, David Emlyn (1843-1913) | D. Emlyn Evans]] a J. H. Johnes yn 1886.
  
Erbyn hynny, roedd yr ail oratorio Gymraeg wedi ymddangos, sef ''Jeremiah'' gan [[Owain Alaw]] (John Owen) yn 1878, a berfformiwyd gyntaf yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Maldwyn, Machynlleth, ym Mehefin 1879. Ni fu canu mawr ar y gweithiau hyn fel gweithiau cyfan ond dewiswyd nifer o gytganau o ''Ystorm Tiberias'' yn ddarnau prawf eisteddfodol. Gellir dweud yr un peth am oratorios [[Joseph Parry]], yr hirfaith ''Emmanuel'' (cafwyd y perfformiad cyntaf o’r rhan fwyaf ohoni gan Gôr Cymry Llundain yn St James’s Hall, Llundain, yn 1880) a ''Saul of Tarsus'', a berfformiwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1892. Mae’n wir hefyd am oratorios (neu [[gantatas]], hwyrach) [[David Jenkins]] fel ''Arch y Cyfamod'' (1878), ''[[Dafydd]] a Goliath'' (1884), ''Dafydd a Saul'' (1891), ''Dewi Sant'' (1894), ''Salm Bywyd'' (1895) a ''Job'' (1904); prin eu bod wedi eu [[perfformio]] yn eu cyfanrwydd erioed, er i gytganau fel ‘Nawr y chwyrn lif genllif gwyd’ o ''Arch y Cyfamod'' a ‘Gyrrwch wyntoedd’ (i gorau meibion) o ''Dewi Sant'' ennill bri fel darnau cystadleuol.
+
Erbyn hynny, roedd yr ail oratorio Gymraeg wedi ymddangos, sef ''Jeremiah'' gan [[Owen, John (Owain Alaw; 1821-83) | Owain Alaw]] (John Owen) yn 1878, a berfformiwyd gyntaf yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Maldwyn, Machynlleth, ym Mehefin 1879. Ni fu canu mawr ar y gweithiau hyn fel gweithiau cyfan ond dewiswyd nifer o gytganau o ''Ystorm Tiberias'' yn ddarnau prawf eisteddfodol. Gellir dweud yr un peth am oratorios [[Parry, Joseph (1841-1903) | Joseph Parry]], yr hirfaith ''Emmanuel'' (cafwyd y perfformiad cyntaf o’r rhan fwyaf ohoni gan Gôr Cymry Llundain yn St James’s Hall, Llundain, yn 1880) a ''Saul of Tarsus'', a berfformiwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1892. Mae’n wir hefyd am oratorios (neu [[Cantata | gantatas]], hwyrach) [[Jenkins, David (1848-1915) | David Jenkins]] fel ''Arch y Cyfamod'' (1878), ''Dafydd a Goliath'' (1884), ''Dafydd a Saul'' (1891), ''Dewi Sant'' (1894), ''Salm Bywyd'' (1895) a ''Job'' (1904); prin eu bod wedi eu perfformio yn eu cyfanrwydd erioed, er i gytganau fel ‘Nawr y chwyrn lif genllif gwyd’ o ''Arch y Cyfamod'' a ‘Gyrrwch wyntoedd’ (i gorau meibion) o ''Dewi Sant'' ennill bri fel darnau cystadleuol.
  
Bu cryn ganu hefyd ar weithiau cyfansoddwyr o Loegr gan gymdeithasau corawl Cymru yn eu cyngherddau mynych ar ddiwedd oes Victoria, fel ''The Prodigal Son a Light of the World'' Arthur Sullivan, yr hynod boblogaidd ''Crucifixion'' gan John Stainer, a gweithiau Edward Elgar hwythau gan y corau mwyaf mentrus erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gweithiau llai uchelgeisiol ond rhai a ystyrid yn oratorios yn eu cyfnod oedd ''Woman of Samaria'' William Sterndale Bennett (1867), ''Rose of Sharon'' Alexander Mackenzie (1884) a ''Ruth'' Frederic Cowen (1887), a oedd yn ddigon cyfarwydd i’w cyfansoddwyr gael eu gwahodd i feirniadu yng nghystadlaethau corawl yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n werth nodi mai Saesneg oedd iaith yr oratorio yng Nghymru, hyd yn oed gan gantorion yr oedd y Saesneg yn ail iaith iddynt, ac er i [[Ieuan Gwyllt]] drosi geiriau’r ''Messiah'' a ''St Paul'' i’r Gymraeg, ac er i J. D. Jones, Rhuthun, gyfieithu ''Y Greadigaeth'', roedd yn well gan y Cymry ganu ‘Worthy is the Lamb’ na ‘Teilwng yw yr Oen’.
+
Bu cryn ganu hefyd ar weithiau cyfansoddwyr o Loegr gan gymdeithasau corawl Cymru yn eu cyngherddau mynych ar ddiwedd oes Victoria, fel ''The Prodigal Son a Light of the World'' Arthur Sullivan, yr hynod boblogaidd ''Crucifixion'' gan John Stainer, a gweithiau Edward Elgar hwythau gan y corau mwyaf mentrus erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gweithiau llai uchelgeisiol ond rhai a ystyrid yn oratorios yn eu cyfnod oedd ''Woman of Samaria'' William Sterndale Bennett (1867), ''Rose of Sharon'' Alexander Mackenzie (1884) a ''Ruth'' Frederic Cowen (1887), a oedd yn ddigon cyfarwydd i’w cyfansoddwyr gael eu gwahodd i feirniadu yng nghystadlaethau corawl yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n werth nodi mai Saesneg oedd iaith yr oratorio yng Nghymru, hyd yn oed gan gantorion yr oedd y Saesneg yn ail iaith iddynt, ac er i [[Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822-77) | Ieuan Gwyllt]] drosi geiriau’r ''Messiah'' a ''St Paul'' i’r Gymraeg, ac er i J. D. Jones, Rhuthun, gyfieithu ''Y Greadigaeth'', roedd yn well gan y Cymry ganu ‘Worthy is the Lamb’ na ‘Teilwng yw yr Oen’.
  
O’r 1890au byddai capeli mwyaf Cymru yn llwyfannu oratorio flynyddol, ac erbyn 1914 roedd y mwyaf uchelgeisiol ohonynt yn cyflwyno nid yn unig y bythwyrdd Handel a Mendelssohn ond y campweithiau mwyaf heriol i gorau amatur fel y ''Christmas Oratorio'' gan Bach (e.e. gan gôr Capel Siloa, Aberdâr, yn Rhagfyr 1913, o dan W. J. Evans). Yn y cyfnod hwn yng Nghapel y Cwm, Llansamlet, Abertawe, perfformiwyd ''Israel in Egypt'' (lle mae angen [[corws]] dwbl), ''Requiem'' Brahms a’r ''Dioddefaint yn ôl St Mathew'' (Bach) o fewn ychydig flynyddoedd i’w gilydd. Rhwng y ddau ryfel daeth eglwys Noddfa, Treorci, lle’r oedd John Hughes yn organydd ac yn gôr-feistr, yn enwog am ei gŵyl oratorio flynyddol, gyda gweithiau Bach yn cael lle blaenllaw a’r capel, a oedd yn dal mil a hanner, dan ei sang.
+
O’r 1890au byddai capeli mwyaf Cymru yn llwyfannu oratorio flynyddol, ac erbyn 1914 roedd y mwyaf uchelgeisiol ohonynt yn cyflwyno nid yn unig y bythwyrdd Handel a Mendelssohn ond y campweithiau mwyaf heriol i gorau amatur fel y ''Christmas Oratorio'' gan Bach (e.e. gan gôr Capel Siloa, Aberdâr, yn Rhagfyr 1913, o dan W. J. Evans). Yn y cyfnod hwn yng Nghapel y Cwm, Llansamlet, Abertawe, perfformiwyd ''Israel in Egypt'' (lle mae angen corws dwbl), ''Requiem'' Brahms a’r ''Dioddefaint yn ôl St Mathew'' (Bach) o fewn ychydig flynyddoedd i’w gilydd. Rhwng y ddau ryfel daeth eglwys Noddfa, Treorci, lle’r oedd John Hughes yn organydd ac yn gôr-feistr, yn enwog am ei gŵyl oratorio flynyddol, gyda gweithiau Bach yn cael lle blaenllaw a’r capel, a oedd yn dal mil a hanner, dan ei sang.
  
Er bod cyfansoddwyr Cymreig mwy diweddar wedi cyfrannu at y ffurf, fel [[Daniel Jones]] ''(St Peter'', 1962), [[Arwel Hughes]] ''(Dewi Sant'', 1950, a ''Pantycelyn'', 1963), [[William Mathias]] ''(St Teilo'', 1962) a [[Karl Jenkins]] ''(Dewi Sant'', 2000), anfynych y clywir yr oratorios hyn bellach. Deil y ''Messiah'' ac ''Elijah'' i gael eu canu’n aml ond mae oes aur yr oratorio yng Nghymru wedi mynd heibio ynghyd â’r diwylliant Anghydffurfiol yr oedd yn rhan ohono.
+
Er bod cyfansoddwyr Cymreig mwy diweddar wedi cyfrannu at y ffurf, fel [[Jones, Daniel (1912-93) | Daniel Jones]] ''(St Peter'', 1962), [[Hughes, Arwel (1909-1988) | Arwel Hughes]] ''(Dewi Sant'', 1950, a ''Pantycelyn'', 1963), [[Mathias, William (1934-92) | William Mathias]] ''(St Teilo'', 1962) a [[Jenkins, Karl (g.1944) | Karl Jenkins]] ''(Dewi Sant'', 2000), anfynych y clywir yr oratorios hyn bellach. Deil y ''Messiah'' ac ''Elijah'' i gael eu canu’n aml ond mae oes aur yr oratorio yng Nghymru wedi mynd heibio ynghyd â’r diwylliant Anghydffurfiol yr oedd yn rhan ohono.
  
 
'''Gareth Williams'''
 
'''Gareth Williams'''

Y diwygiad cyfredol, am 20:33, 28 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Gosodiad estynedig o destun cysegredig ar gyfer unawdwyr, côr a cherddorfa, lle rhoddir mwy o bwyslais ar yr elfen gorawl ond heb olygfeydd, gwisgoedd na symud. Er bod oratorios nad ydynt yn grefyddol i’w cael (e.e. Acis a Galatea Handel neu A Child of our Time Michael Tippett), seilir y naratif fel arfer ar eiriau Beiblaidd.

Mae gwreiddiau’r oratorio yn yr eglwys Gatholig yn Rhufain yn yr 16g., a daw’r enw o’r gair oratori, sef addoldy lle offrymid gweddïau gydag elfennau dramatig a cherddorol yn perthyn iddynt. Datblygodd ac ymledodd yr oratorio i wledydd Protestannaidd, ac yn yr Almaen ym mlynyddoedd cynnar y 18g. daeth Handel o dan ei dylanwad. Creadigaeth Handel, wedi iddo symud i Loegr i fyw, oedd yr oratorio Saesneg, ac enillodd ei Messiah (perfformiad cyntaf yn Nulyn, 1742) le canolog yng nghalonnau corau amatur a’u cynulleidfaoedd. Ar ôl 1800, prin oedd y cyfansoddwyr mawr a neilltuai eu hegnïon i’r oratorio (yn hytrach nag i’r Offeren [Mass] sydd yn ffurf wahanol) ond yng ngwyliau cerdd Lloegr roedd gweithiau Handel (Messiah, Judas Maccabæus, Samson ac Israel in Egypt yn bennaf) a Haydn (yn enwedig Y Greadigaeth) yn parhau mewn bri, gyda rhai Mendelssohn (Elijah, St Paul a’r Emyn o Fawl) yn ffefrynnau arbennig o’r 1840au, a rhai Spohr (Last Judgment) a Gounod (Redemption) hefyd o fewn cyrraedd corau amatur.

Efallai mai’r tro cyntaf oll i’r Messiah gael ei pherfformio yng Nghymru oedd yng Ngŵyl Gerddorol Gogledd Cymru yng Nghastell Rhuddlan ym mis Medi 1850, er mai digon Seisnig oedd yr achlysur ac mai o Loegr y deuai’r cerddorion a oedd yn cymryd rhan. Corau eglwysig oedd y mwyaf galluog i ganu gweithiau mawr ond gyda thwf trefi a lledaeniad sol-ffa yng Nghymru o’r 1860au, daeth yr oratorio yn ffurf boblogaidd. Roedd y gerddoriaeth, gyda’i chorawdau gafaelgar a grymus a’i chynganeddion diatonig cyfarwydd, a’r hanes ysgrythurol a ddisgrifid ynddynt, yn apelio’n ddirfawr at gymdeithasau corawl a ddenai eu haelodau’n helaeth o gorau capeli Anghydffurfiol Cymru a dyfodd mor gyflym yn ail hanner y 19g.

Nid oedd perfformiadau cyflawn yn gwbl ddieithr yn yr 1850au a’r 1860au – perfformiwyd sawl oratorio gan gôr capel Annibynwyr Bethesda dan arweiniad Alawydd (David Roberts), fel Samson Handel i gyfeiliant harmoniwm yng Ngorffennaf 1861. Yn yr un flwyddyn, clywyd Y Greadigaeth Haydn yn Aberdâr, a bu’r Prifathro Evan Davies, Abertawe, yn arwain cyfres o gyngherddau oratorio ym mhrif drefi Morgannwg ar yr un adeg – ond o’r 1870au, pan godwyd capeli mawr gyda lle i gorau o nifer sylweddol a cherddorfa i gyfeilio iddynt, y daeth yr oratorio yn elfen bwysig yn y diwylliant corawl yng Nghymru. Pery dadlau ynglŷn â phryd yn union y cafwyd y perfformiad amatur cyntaf o’r Messiah yng Nghymru, pa un ai yn yr 1840au ym Merthyr dan Ieuan Ddu, neu yn yr 1860au cynnar yng Nghwm Tawe dan Ifander Griffiths neu yn Rhymni dan Heman Gwent. Honnir mai yn y Drenewydd ym mis Tachwedd 1870 y clywyd Judas Maccabæus Handel am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru, ac Elijah am y tro cyntaf yng Nghymru gyfan pan berfformiwyd y gwaith gan y Neath Harmonic Society yn y dref honno ym mis Ebrill 1871. Dyna’n union pryd y cafodd yr oratorio gyntaf ei chanu yn ei chyfanrwydd yng Nghwm Rhondda, sef Last Judgment Spohr yn Nhreherbert ar 13 Ebrill 1871 dan arweiniad Caradog (Griffith Rhys Jones).

Cyn bo hir gwelid cerddorion Cymreig yn troi eu llaw at gyfansoddi oratorio yn ‘y dull Almaenaidd’. Yr oratorio Gymraeg gyntaf i’w chyhoeddi (1855) oedd Ystorm Tiberias a gyfansoddwyd gan Edward Stephen (Tanymarian) yn 1851–2, gwaith a oedd yn drwm dan ddylanwad Handel ac a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Eglwys y Plwyf, Blaenau Ffestiniog, ym Mehefin 1853 gyda’r cyfansoddwr yn arwain. Cafodd dderbyniad digon cynnes, ond pan berfformiwyd yr oratorio ym Methesda ym mis Hydref 1872 credid yn Y Gerddorfa mai ‘dim ond tair gwaith drwy’r holl flynyddoedd’ yr oedd wedi ei datgan yn gyflawn, a bod hyn ‘yn warth arnom ni fel cenedl’ (t.26). Cafodd ei hadolygu gyda chyfeiliant cerddorfa gan D. Emlyn Evans a J. H. Johnes yn 1886.

Erbyn hynny, roedd yr ail oratorio Gymraeg wedi ymddangos, sef Jeremiah gan Owain Alaw (John Owen) yn 1878, a berfformiwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn, Machynlleth, ym Mehefin 1879. Ni fu canu mawr ar y gweithiau hyn fel gweithiau cyfan ond dewiswyd nifer o gytganau o Ystorm Tiberias yn ddarnau prawf eisteddfodol. Gellir dweud yr un peth am oratorios Joseph Parry, yr hirfaith Emmanuel (cafwyd y perfformiad cyntaf o’r rhan fwyaf ohoni gan Gôr Cymry Llundain yn St James’s Hall, Llundain, yn 1880) a Saul of Tarsus, a berfformiwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1892. Mae’n wir hefyd am oratorios (neu gantatas, hwyrach) David Jenkins fel Arch y Cyfamod (1878), Dafydd a Goliath (1884), Dafydd a Saul (1891), Dewi Sant (1894), Salm Bywyd (1895) a Job (1904); prin eu bod wedi eu perfformio yn eu cyfanrwydd erioed, er i gytganau fel ‘Nawr y chwyrn lif genllif gwyd’ o Arch y Cyfamod a ‘Gyrrwch wyntoedd’ (i gorau meibion) o Dewi Sant ennill bri fel darnau cystadleuol.

Bu cryn ganu hefyd ar weithiau cyfansoddwyr o Loegr gan gymdeithasau corawl Cymru yn eu cyngherddau mynych ar ddiwedd oes Victoria, fel The Prodigal Son a Light of the World Arthur Sullivan, yr hynod boblogaidd Crucifixion gan John Stainer, a gweithiau Edward Elgar hwythau gan y corau mwyaf mentrus erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gweithiau llai uchelgeisiol ond rhai a ystyrid yn oratorios yn eu cyfnod oedd Woman of Samaria William Sterndale Bennett (1867), Rose of Sharon Alexander Mackenzie (1884) a Ruth Frederic Cowen (1887), a oedd yn ddigon cyfarwydd i’w cyfansoddwyr gael eu gwahodd i feirniadu yng nghystadlaethau corawl yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n werth nodi mai Saesneg oedd iaith yr oratorio yng Nghymru, hyd yn oed gan gantorion yr oedd y Saesneg yn ail iaith iddynt, ac er i Ieuan Gwyllt drosi geiriau’r Messiah a St Paul i’r Gymraeg, ac er i J. D. Jones, Rhuthun, gyfieithu Y Greadigaeth, roedd yn well gan y Cymry ganu ‘Worthy is the Lamb’ na ‘Teilwng yw yr Oen’.

O’r 1890au byddai capeli mwyaf Cymru yn llwyfannu oratorio flynyddol, ac erbyn 1914 roedd y mwyaf uchelgeisiol ohonynt yn cyflwyno nid yn unig y bythwyrdd Handel a Mendelssohn ond y campweithiau mwyaf heriol i gorau amatur fel y Christmas Oratorio gan Bach (e.e. gan gôr Capel Siloa, Aberdâr, yn Rhagfyr 1913, o dan W. J. Evans). Yn y cyfnod hwn yng Nghapel y Cwm, Llansamlet, Abertawe, perfformiwyd Israel in Egypt (lle mae angen corws dwbl), Requiem Brahms a’r Dioddefaint yn ôl St Mathew (Bach) o fewn ychydig flynyddoedd i’w gilydd. Rhwng y ddau ryfel daeth eglwys Noddfa, Treorci, lle’r oedd John Hughes yn organydd ac yn gôr-feistr, yn enwog am ei gŵyl oratorio flynyddol, gyda gweithiau Bach yn cael lle blaenllaw a’r capel, a oedd yn dal mil a hanner, dan ei sang.

Er bod cyfansoddwyr Cymreig mwy diweddar wedi cyfrannu at y ffurf, fel Daniel Jones (St Peter, 1962), Arwel Hughes (Dewi Sant, 1950, a Pantycelyn, 1963), William Mathias (St Teilo, 1962) a Karl Jenkins (Dewi Sant, 2000), anfynych y clywir yr oratorios hyn bellach. Deil y Messiah ac Elijah i gael eu canu’n aml ond mae oes aur yr oratorio yng Nghymru wedi mynd heibio ynghyd â’r diwylliant Anghydffurfiol yr oedd yn rhan ohono.

Gareth Williams



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.