Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Wyn, Arfon (g.1952)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Canwr, cerddor a chyfansoddwr caneuon. Yn frodor o Lanfairpwll ar Ynys Môn, derbyniodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd David Hughes cyn mynd ymlaen i astudio [[Diwinyddiaeth]] ac Addysg yng Ngholeg [[Prifysgol]] Cymru, Bangor.
+
Canwr, cerddor a chyfansoddwr caneuon. Yn frodor o Lanfairpwll ar Ynys Môn, derbyniodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd David Hughes cyn mynd ymlaen i astudio [[Diwinyddiaeth]] ac Addysg yng Ngholeg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru, Bangor.
  
Bu’n aelod o’r band gwerin-seicadelig Yr Atgyfodiad yn ystod yr 1970au, gyda Gwyndaf Roberts (gitâr fas, telyn), John Gwyn (gitâr) a Keith Snelgrove (drymiau), gan ryddhau EP ar label Sain yn 1974. Tra’r aeth Gwyndaf Roberts a John Gwyn ymlaen i ffurfio Brân yn fuan wedyn (gyda Roberts yn dod yn aelod o [[Ar Log]] yn ddiweddarach a John Gwyn yn gitarydd bas gyda [[Jîp]]), aeth Arfon Wyn ymlaen i ffurfio [[Pererin]] gyda Charli Goodall (gitâr flaen), Nest Llywelyn (llais ac allweddellau, bu hithau hefyd yn aelod o Brân am gyfnod), Einion Williams (offerynnau taro, bodhran) ac Aneurin Owen (chwisl, llais).
+
Bu’n aelod o’r band gwerin-seicadelig Yr Atgyfodiad yn ystod yr 1970au, gyda Gwyndaf Roberts (gitâr fas, telyn), John Gwyn (gitâr) a Keith Snelgrove (drymiau), gan ryddhau EP ar label Sain yn 1974. Tra’r aeth Gwyndaf Roberts a John Gwyn ymlaen i ffurfio Brân yn fuan wedyn (gyda Roberts yn dod yn aelod o [[Ar Log]] yn ddiweddarach a John Gwyn yn gitarydd bas gyda [[Emlyn, Endaf (g.1944) | Jîp]]), aeth Arfon Wyn ymlaen i ffurfio Pererin gyda Charli Goodall (gitâr flaen), Nest Llywelyn (llais ac allweddellau, bu hithau hefyd yn aelod o Brân am gyfnod), Einion Williams (offerynnau taro, bodhran) ac Aneurin Owen (chwisl, llais).
  
Roedd dylanwad Alan Stivell i’w glywed mewn trefniannau a roddai bwyslais ar gyfuno elfennau gwerin gyda roc blaengar. Gan ddwyn cymariaethau gyda grwpiau gwerin Celtaidd megis yr Horslips yn Iwerddon a Runrig yn yr Alban, perfformiodd Pererin yn Llydaw, Iwerddon a Chatalonia, gan ryddhau pedair record hir yn ystod yr 1980au, tair ohonynt ar label Gwerin. Pan ddaeth Pererin i ben ar ddiwedd yr 1980au, aeth Arfon Wyn ati i sefydlu y [[Moniars]] gyda Einion Williams a’r sacsoffonydd Richard Synnott.
+
Roedd dylanwad Alan Stivell i’w glywed mewn trefniannau a roddai bwyslais ar gyfuno elfennau gwerin gyda roc blaengar. Gan ddwyn cymariaethau gyda grwpiau gwerin Celtaidd megis yr Horslips yn Iwerddon a Runrig yn yr Alban, perfformiodd Pererin yn Llydaw, Iwerddon a Chatalonia, gan ryddhau pedair record hir yn ystod yr 1980au, tair ohonynt ar label Gwerin. Pan ddaeth Pererin i ben ar ddiwedd yr 1980au, aeth Arfon Wyn ati i sefydlu y [[Moniars, Y | Moniars]] gyda Einion Williams a’r sacsoffonydd Richard Synnott.
  
Yn gyfansoddwr medrus a ysgrifennodd nifer o ganeuon ar gyfer plant (bu’n athro yn ysgol arbennig Pendalar cyn dod yn brifathro ar ysgol Hafod Lôn ger Pwllheli), bu Arfon Wyn hefyd yn fuddugol yng nghystadleuaeth [[Cân i Gymru]] bedair gwaith (yr unig un i wireddu’r gamp hon), gyda’r caneuon ‘Ni Welaf yr Haul’ (Pererin, 1979), ‘Cae o Ŷd’ (Martin Beattie, 2000), ‘Harbwr Diogel’ (Elin Fflur, 2002) a ‘Y Lleuad a’r Sêr’ (Elin Angharad, 2015). Yn 2017, fe ail-ffurfiodd Pererin i berfformio ym mhabell Tŷ Gwerin yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Ynys Môn, ar ôl saib o 36 mlynedd.
+
Yn gyfansoddwr medrus a ysgrifennodd nifer o ganeuon ar gyfer plant (bu’n athro yn ysgol arbennig Pendalar cyn dod yn brifathro ar ysgol Hafod Lôn ger Pwllheli), bu Arfon Wyn hefyd yn fuddugol yng nghystadleuaeth [[Cân i Gymru]] bedair gwaith (yr unig un i wireddu’r gamp hon), gyda’r caneuon ‘Ni Welaf yr Haul’ (Pererin, 1979), ‘Cae o Ŷd’ (Martin Beattie, 2000), ‘Harbwr Diogel’ ([[Fflur, Elin (g.1984) | Elin Fflur]], 2002) a ‘Y Lleuad a’r Sêr’ (Elin Angharad, 2015). Yn 2017, fe ail-ffurfiodd Pererin i berfformio ym mhabell Tŷ Gwerin yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Ynys Môn, ar ôl saib o 36 mlynedd.
  
 
'''Pwyll ap Siôn'''
 
'''Pwyll ap Siôn'''

Y diwygiad cyfredol, am 15:17, 8 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Canwr, cerddor a chyfansoddwr caneuon. Yn frodor o Lanfairpwll ar Ynys Môn, derbyniodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd David Hughes cyn mynd ymlaen i astudio Diwinyddiaeth ac Addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor.

Bu’n aelod o’r band gwerin-seicadelig Yr Atgyfodiad yn ystod yr 1970au, gyda Gwyndaf Roberts (gitâr fas, telyn), John Gwyn (gitâr) a Keith Snelgrove (drymiau), gan ryddhau EP ar label Sain yn 1974. Tra’r aeth Gwyndaf Roberts a John Gwyn ymlaen i ffurfio Brân yn fuan wedyn (gyda Roberts yn dod yn aelod o Ar Log yn ddiweddarach a John Gwyn yn gitarydd bas gyda Jîp), aeth Arfon Wyn ymlaen i ffurfio Pererin gyda Charli Goodall (gitâr flaen), Nest Llywelyn (llais ac allweddellau, bu hithau hefyd yn aelod o Brân am gyfnod), Einion Williams (offerynnau taro, bodhran) ac Aneurin Owen (chwisl, llais).

Roedd dylanwad Alan Stivell i’w glywed mewn trefniannau a roddai bwyslais ar gyfuno elfennau gwerin gyda roc blaengar. Gan ddwyn cymariaethau gyda grwpiau gwerin Celtaidd megis yr Horslips yn Iwerddon a Runrig yn yr Alban, perfformiodd Pererin yn Llydaw, Iwerddon a Chatalonia, gan ryddhau pedair record hir yn ystod yr 1980au, tair ohonynt ar label Gwerin. Pan ddaeth Pererin i ben ar ddiwedd yr 1980au, aeth Arfon Wyn ati i sefydlu y Moniars gyda Einion Williams a’r sacsoffonydd Richard Synnott.

Yn gyfansoddwr medrus a ysgrifennodd nifer o ganeuon ar gyfer plant (bu’n athro yn ysgol arbennig Pendalar cyn dod yn brifathro ar ysgol Hafod Lôn ger Pwllheli), bu Arfon Wyn hefyd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru bedair gwaith (yr unig un i wireddu’r gamp hon), gyda’r caneuon ‘Ni Welaf yr Haul’ (Pererin, 1979), ‘Cae o Ŷd’ (Martin Beattie, 2000), ‘Harbwr Diogel’ ( Elin Fflur, 2002) a ‘Y Lleuad a’r Sêr’ (Elin Angharad, 2015). Yn 2017, fe ail-ffurfiodd Pererin i berfformio ym mhabell Tŷ Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, ar ôl saib o 36 mlynedd.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth (gw. hefyd Moniars, Y)

gyda Yr Atgyfodiad:

  • Yr Atgyfodiad [EP] (Sain 41, 1974)

gyda Pererin:

  • Haul ar yr Eira (Gwerin SYWM 215, 1980)
  • Teithgan (Gwerin SYWM 230, 1981)
  • Tirion Dir (Gwerin SYW 242, 1983)
  • Yng Ngolau Dydd (Sain C639N, 1988)

fel artist unigol:

  • Pwy Wnaeth y Sêr Uwchben (Gwerin SYWD 235, 1982)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.